Cymru Iach ar Waith

Call Website Contact the organisation

Cymru Iach ar Waith Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Cymru Iach ar Waith, Government Organization, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tîm Cymru Iach ar Waith, Capital Quarter 2, Tyndal Street, Cardiff (Caerdydd).

Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn rhaglen genedlaethol rhad ac am ddim sy’n ceisio gwella iechyd ac atal afiechyd yn y gwaith trwy gefnogi cyflogwyr yng Nghymru.

Rydyn ni wedi cael amser gwych mewn digwyddiadau yr wythnos hon! Diolch am ymuno â ni yn Sioe Fusnes Cymru (The Welsh Bu...
16/10/2026

Rydyn ni wedi cael amser gwych mewn digwyddiadau yr wythnos hon!

Diolch am ymuno â ni yn Sioe Fusnes Cymru (The Welsh Business Shows) , Sioe Adeiladwaith Cymru (The Welsh Construction shows) ac Expo Business Wales / BusnesCymru yn Abertawe!

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd hyn i rannu'r hyn y gall CIW ei gynnig i sefydliadau ledled Cymru a hyrwyddo manteision blaenoriaethu iechyd a llesiant yn y gweithle.

Os hoffech gwrdd â ni a chael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni'n ei gynnig, ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol yng Nghaerdydd fis nesaf!
🔗 https://iacharwaith.cymru/digwyddiad/digwyddiad-blynyddol-cymru-iach-ar-waith/

Mae cylchlythyr mis Hydref Cymru Iach ar Waith allan nawr! 🧾Yn y rhifyn hwn:🔹 Ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol y...
15/10/2026

Mae cylchlythyr mis Hydref Cymru Iach ar Waith allan nawr! 🧾

Yn y rhifyn hwn:
🔹 Ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol y mis nesaf
🔹 Gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru – ymunwch â'r sgwrs
🔹 Dathlu ein deiliaid Bathodyn Cydnabyddiaeth diweddaraf
🔹 Gweminarau a gweithdai sydd ar ddod
🔹 Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r menopos a llesiant yn y gwaith
🔹 Galw ar gyflogwyr i hyrwyddo brechiadau rhag y ffliw
🔹 Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig yn y gweithle
🔹 Ymgyrchoedd mis Hydref

Ewch i'n gwefan i ddarllen a thanysgrifio.
🔗 https://iacharwaith.cymru/cylchlythyr/hydref-2026/

Diolch i bawb a ymunodd â'n gweithdy cyntaf yn archwilio profiadau gweithwyr 50+ oed yng Nghymru.Nid yw'n rhy hwyr i’ch ...
14/10/2026

Diolch i bawb a ymunodd â'n gweithdy cyntaf yn archwilio profiadau gweithwyr 50+ oed yng Nghymru.

Nid yw'n rhy hwyr i’ch llais gael ei glywed! Ymunwch â ni i rannu eich profiadau a helpu gwella cefnogaeth i weithwyr hŷn ledled Cymru.

Dyddiad y gweithdy:
📅 15 Hydref | 13:00 - 14:30
📅 19 Hydref | 14:00 to 15:30 (Gweithdy yn y Gymraeg)
📅 21 Hydref | 14:00 to 15:30
📅 21 Hydref | 19:00 to 20:30

Archebwch eich lle: https://rcs-wales.co.uk/cy/newyddion/prosiect-newydd-i-archwilio-profiadau-gweithwyr-50-yng-nghymru/
RCS

Mis i fynd! 📅Cynhelir ein digwyddiad blynyddiol iechyd a lles yn y gweithle ar 12 Tachwedd yng Nghaerdydd.  Os ydych chi...
12/10/2026

Mis i fynd! 📅

Cynhelir ein digwyddiad blynyddiol iechyd a lles yn y gweithle ar 12 Tachwedd yng Nghaerdydd.

Os ydych chi'n chwilio am fewnwelediadau ymarferol, cyngor arbenigol a chyfleoedd i gysylltu â chyfoedion o bob cwr o Gymru, nawr yw'r amser i gofrestru.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich lle heddiw: https://iacharwaith.cymru/digwyddiad/digwyddiad-blynyddol-cymru-iach-ar-waith/

Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yfory, 10 Hydref 📅Gall gweithredoedd bach, bob dydd wneud gwahaniaeth mawr. P'un a ...
09/10/2026

Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yfory, 10 Hydref 📅

Gall gweithredoedd bach, bob dydd wneud gwahaniaeth mawr. P'un a yw'n annog sgyrsiau rheolaidd, hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael, neu adolygu mentrau llesiant yn y gweithle, gall camau bach wneud gwahaniaeth.

Mynnwch gip ar y cymorth rhad ac am ddim sydd ar gael gan Cymru Iach ar Waith a chymerwch y cam nesaf ar eich taith llesiant yn y gweithle.
https://iacharwaith.cymru/
Mental Health Foundation Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ydych chi'n 50+ oed ac yn gweithio yng Nghymru? Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych! 📢Mae ein gweithdai'n dechrau wythno...
07/10/2026

Ydych chi'n 50+ oed ac yn gweithio yng Nghymru? Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych! 📢

Mae ein gweithdai'n dechrau wythnos nesaf! Trefnwch eich lle heddiw a rhannwch yr hyn sy’n bwysig i chi.

📅 13 Hydref | 10:00am i 11:30am
📅 15 Hydref | 1:00pm i 2:30pm
📅 19 Hydref | 2:00pm i 3:30pm (Gweithdy yn y Gymraeg)
📅 21 Hydref | 2:00pm i 3:30pm
📅 21 Hydref | 7:00pm i 8:30pm

Ymunwch â’r sgwrs a helpwch i lunio gwell cefnogaeth yn y gweithle i weithwyr 50+ mlwydd oed ledled Cymru.

🔗 https://rcs-wales.co.uk/cy/newyddion/prosiect-newydd-i-archwilio-profiadau-gweithwyr-50-yng-nghymru/
RCS

Nifer fach yn unig o leoedd sydd ar ôl ar ein gweithdy Camau Cyntaf yr wythnos hon! 📢Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cyflogw...
06/10/2026

Nifer fach yn unig o leoedd sydd ar ôl ar ein gweithdy Camau Cyntaf yr wythnos hon! 📢

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cyflogwyr sy’n newydd i faes iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’r rhai nad ydyn nhw’n siŵr ble i ddechrau.

Bydd y sesiwn yn eich helpu i wneud y canlynol:
✅ Meddwl am yr hyn sy’n digwydd yn eich sefydliad nawr
✅ Yr hyn sydd bwysicaf i’ch staff
✅ Pa gamau syml y gallech chi eu cymryd nesaf

📅 08 Hydref | 🕥 10:00yb – 12:00yp | 💻 MS Teams

Archebu lle:https://iacharwaith.cymru/digwyddiad/gweithdy-camau-cyntaf-hydref/

Sut olwg sydd ar weithle iach yn ymarferol?  Yn y digwyddiad eleni, cewch glywed enghreifftiau go iawn gan sefydliadau s...
06/10/2026

Sut olwg sydd ar weithle iach yn ymarferol?

Yn y digwyddiad eleni, cewch glywed enghreifftiau go iawn gan sefydliadau sydd wedi llwyddo i ymgorffori llesiant yn eu diwylliant gweithle.

Dysgu:
✅ Beth weithiodd
✅ Heriau y gwnaethon nhw eu goresgyn
✅ Gwersi y gallwch eu rhoi ar waith yn eich sefydliad eich hun

Ymunwch â ni ar 12 Tachwedd: https://iacharwaith.cymru/digwyddiad/digwyddiad-blynyddol-cymru-iach-ar-waith/

Llai na mis i fynd  tan ein gweminar bwlio ac aflonyddu yn y gweithle! ⌛Bydd Rhianydd Williams, Swyddog Cydraddoldeb a P...
05/10/2026

Llai na mis i fynd tan ein gweminar bwlio ac aflonyddu yn y gweithle! ⌛

Bydd Rhianydd Williams, Swyddog Cydraddoldeb a Pholisi TUC Cymru, yn ymuno â ni i roi cipolwg gwerthfawr ar nodi, atal a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu yn y gweithle.

04 Tachwedd | 10-11yb | MS Teams

Ewch i'n gwefan i archebu eich lle am ddim.

02/10/2026

Chwilio am syniadau llesiant yn y gweithle fis Hydref yma?

Anogwch eich tîm i gymryd eiliad i gysylltu â natur yr hydref yma:

🍂 Ewch am dro wythnosol. Sylwch ar liwiau, golau ac arogleuon newidiol yr hydref.

🍂 Gwyliwch ddail yr hydref wrth iddyn nhw ddisgyn a dawnsio yn y gwynt. Allwch chi ddal un?

🍂 Eisteddwch neu sefwch o dan goeden sydd wedi dechrau gollwng ei dail. Edrychwch ar y
patrymau newidiol yn ei changhennau.

Dewch o hyd i fwy o syniadau llesiant tymhorol yn ein calendr.
RSPB Cymru Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Address

Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tîm Cymru Iach Ar Waith, Capital Quarter 2, Tyndal Street
Cardiff
CF104BZ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

02921 674966

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cymru Iach ar Waith posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cymru Iach ar Waith:

Shortcuts

Share