Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot

Call Website Contact the organisation

Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot Darparu gwasanaethau llyfrgell sy'n cefnogi cymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Dyma dudalen Facebook Cymraeg Gwasanaethau Llyfrgell Castell-nedd Port Talbot. Yma byddwn yn postio newyddion a gwybodaeth am ein llyfrgelloedd a manylion digwyddiadau. Dilynwch ni hefyd ar ein tudalen Facebook Saesneg hefyd https://www.facebook.com/NPTLibraries

Byddem wrth ein bodd pe bai ein negeseuon yn eich annog i siarad am lyfrgelloedd a'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws Castell-nedd Port Talbot. Byddem wrth ein bodd yn siarad am lyfrau gyda chi ac yn ymuno yn y drafodaeth gyda darllenwyr eraill. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn dileu sylwadau sy’n anghyfreithlon, yn ddifrïol neu’n faleisus. Gall pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu drolio sarhaus gael eu rhwystro. Os nad yw eich sylw neu gyfraniad wedi'i gyhoeddi, ystyriwch y pwyntiau uchod ac ailgyflwyno'ch sylw gan barchu'r canllawiau hyn.

Ar 'World Mental Health Day' dewiswch lyfrau sy'n codi hwyliau. Dewch o hyd i'r llyfr a fydd yn gwneud i chi chwerthin n...
10/10/2026

Ar 'World Mental Health Day' dewiswch lyfrau sy'n codi hwyliau.
Dewch o hyd i'r llyfr a fydd yn gwneud i chi chwerthin neu'n cynnig ychydig o ddihangfa, neu straeon sy'n dod â chysur, cysylltiad a gobaith. Heddiw, gadewch inni ddathlu'r gwahanol ffyrdd y gall darllen ein helpu i deimlo'n dda.
Rhannu eich llyfrau sy'n codi hwyliau gyda ni a lledaenu cariad at lyfrau gyda darllenwyr eraill.

Ydych chi erioed wedi anghofio dod â'ch cerdyn llyfrgell pan fyddwch chi'n ymweld â ni? Beth am lawrlwytho ap Llyfrgell ...
08/10/2026

Ydych chi erioed wedi anghofio dod â'ch cerdyn llyfrgell pan fyddwch chi'n ymweld â ni?
Beth am lawrlwytho ap Llyfrgell Spydus a chael y cerdyn ar eich ffôn hefyd?
Gyda'r ap gallwch hefyd reoli'ch cyfrif, gweld pa lyfrau rydych chi wedi'u benthyg, eu hadnewyddu a'u gofyn, a chwilio trwy gatalog y llyfrgell i ddod o hyd i'r llyfr rydych chi wedi bod yn chwilio amdano. Mae'r ap ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae'n dod gyda fersiwn sy'n addas ar gyfer dyslecsia yn y ddwy iaith hefyd.
Y tro nesaf y byddwch chi yn y llyfrgell, gofynnwch i'r staff sut i gael yr ap, neu, os yw'n well gennych, ei lawrlwytho o siopau Google neu Apple Play.

Mae Llyfrgell Sgiwen wedi sefydlu Prynhawn Coffi Cymraeg, sy'n rhedeg am 2.30pm, ar yr ail ddydd Llun o bob mis. Mae wed...
08/10/2026

Mae Llyfrgell Sgiwen wedi sefydlu Prynhawn Coffi Cymraeg, sy'n rhedeg am 2.30pm, ar yr ail ddydd Llun o bob mis.
Mae wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn gyda staff y llyfrgell yn annog pawb i ddefnyddio'r iaith.
"Rydym yn gymysgedd o ddysgwyr a siaradwyr sy'n chwilio am gyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg. Rydym yn chwarae gêm fwrdd achlysurol, yn siarad ac yn adolygu llyfrau, ffilmiau, theatr leol yn y Gymraeg, rhaglenni teledu a cherddoriaeth yn y Gymraeg."
Mae'r Prynhawn Coffi nesaf ar ddydd Llun Hydref 12fed am 2.30 lle bydd siaradwr gwadd hefyd! Ymweld a'r llyfrgell, cael diod, aros am sgwrs, a defnyddio eich Cymraeg!
Gwelwn ni chi yno! Hwyl am y tro!

Dewch i ymuno â'n tîm yn Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot!Mae cyfle wedi codi i chi ymuno â'n Tîm fel Uwch Gynorth...
07/10/2026

Dewch i ymuno â'n tîm yn Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot!
Mae cyfle wedi codi i chi ymuno â'n Tîm fel Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Castell-nedd.
Am fanylion llawn y swydd, ac i wneud cais, ewch i dudalen Swyddi Cyngor Castell-nedd Port Talbot https://www.npt.gov.uk/cy/swyddi/
Y dyddiad cau yw 15 Hydref.

Dyma ein 5 e-lyfr a llyfr sain electronig gorau ar Borrowbox y mis diwethaf.Beth wnaethoch chi ddod o hyd iddo ar Borrow...
06/10/2026

Dyma ein 5 e-lyfr a llyfr sain electronig gorau ar Borrowbox y mis diwethaf.
Beth wnaethoch chi ddod o hyd iddo ar Borrowbox ym mis Medi? I gael gwybod mwy am Borrowbox cliciwch yma https://www.npt.gov.uk/libraries/your-digital-library/ neu galwch heibio i'r llyfrgell.

Ydych chi'n dysgu gyrru? Angen ymarfer ar gyfer eich prawf theori? Mae Theory Test Pro yn efelychiad ar-lein hynod reali...
06/10/2026

Ydych chi'n dysgu gyrru? Angen ymarfer ar gyfer eich prawf theori?
Mae Theory Test Pro yn efelychiad ar-lein hynod realistig o brofion theori gyrru'r DU ar gyfer pob categori cerbyd. Am ddim gyda'ch cerdyn llyfrgell!

Gwrandewch ar eich hoff lyfrau wrth deithio gyda'n gwasanaeth e-lyfrau ac e-audio Borrowbox. Lawrlwythwch a benthycwch y...
05/10/2026

Gwrandewch ar eich hoff lyfrau wrth deithio gyda'n gwasanaeth e-lyfrau ac e-audio Borrowbox. Lawrlwythwch a benthycwch y llyfrau gorau heddiw. Gyda Borrowbox gallwch lawrlwytho hyd at ddeg llyfr sain ar unrhyw adeg ac ni fyddant yn costio ceiniog i chi - y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich aelodaeth llyfrgell.
Beth ydych chi'n aros amdano?
Am fwy o'n hadnoddau digidol, gofynnwch i staff y llyfrgell neu dilynwch y ddolen https://www.npt.gov.uk/cy/llyfrgelloedd/eich-llyfrgell-ddigidol/

Mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwn ni'n darllen. Dangosodd ymchwil diweddar o Brifysgol Caergrawnt sut mae'n helpu i...
02/10/2026

Mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwn ni'n darllen. Dangosodd ymchwil diweddar o Brifysgol Caergrawnt sut mae'n helpu i gadw ein hymennydd yn iach a hybu lles. Yn ogystal â bod yn beth gwych a hwyliog, mae darllen yn dda i ni hefyd! Defnyddiwch yr wythnos ddarllen hon i fwynhau darllen. Beth bynnag rydych chi'n ei hoffi, ewch i ddarllen amdano.

Darllenwch gerdd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Mae yna gerddi i wneud i chi chwerthin, crio, gwenu, cyndde...
01/10/2026

Darllenwch gerdd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Mae yna gerddi i wneud i chi chwerthin, crio, gwenu, cynddeiriogi, meddwl, a cherddi sy'n mynnu cael eu darllen yn uchel. Cyffrowch eich dychymyg gyda barddoniaeth yr Wythnos Ddarllen hon.

Address

Pencadlys Y Llyfrgell, Ffordd Castell-nedd
Castell-Nedd
SA112BQ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot:

Shortcuts

Share

Category