16/10/2026
Mae maethu yn brofiad i’r teulu, a’r wythnos hon, rydym yn dathlu’r plant biolegol sy’n rhan o’r daith honno. 💜
Rydym wedi rhoi cerdyn a thaleb i’r plant biolegol fel arwydd bach o ddiolch am y rhan maen nhw’n ei chwarae yn ein cymuned faethu. 💌
Boed hynny’n rhannu eu teulu, dangos caredigrwydd, gwneud i rywun wenu neu fod yno i wrando, mae’r pethau bach maen nhw’n ei wneud yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i blentyn mewn gofal.🥰
Rydym am i bob un ohonyn nhw wybod ein bod yn falch ohonynt, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn rhan bwysig o’n teulu maethu. 🧡
Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/