01/06/2026
Mae gwirfoddolwyr yn greiddiol i raglenni cymorth yr haf Abertawe, ac wrth i Wythnos Gwirfoddolwyr ddechrau, mae Cyngor Abertawe'n cydnabod y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ar draws y ddinas.
Mae eu cefnogaeth yn helpu i ddarparu popeth o weithgareddau'r gwyliau ar gyfer plant a phobl ifanc i ddarpariaeth bwyd mewn argyfwng i'r rheini y mae arnynt ei angen fwyaf.
Heb eu hamser, eu hymrwymiad a'u gwybodaeth leol, ni allai llawer o'r gwasanaethau hyn weithredu.
Fel rhan o'i ymgyrch , mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau bod bron £700,000 ar gael mewn cyllid grant i helpu grwpiau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol i ddarparu bwyd a gweithgareddau dros yr haf.
Mae ceisiadau'n parhau i fod ar agor, ond anogir sefydliadau i wneud cais yn fuan, gyda'r dyddiad cau ar 8 Mehefin.
Mae'r cyllid yn cefnogi ystod o gynlluniau, gan gynnwys darpariaeth bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, cymorth bwyd brys a gweithgareddau sy'n hyrwyddo lles, cynhwysiant a chysylltiad cymunedol i blant, pobl ifanc a phreswylwyr hŷn.
Mae llawer o'r sefydliadau sy'n elwa o'r cyllid yn dibynnu'n drwm ar wirfoddolwyr. Un o'r rhain yw Banc Bwyd Abertawe, sy'n darparu bwyd mewn argyfwng a lle croesawgar i bobl sy'n wynebu caledi ar draws y ddinas.
Meddai Kristina Williams o Fanc Bwyd Abertawe, "Roedd ein gwirfoddolwyr wedi pacio bwyd ar gyfer dros 11,500 o bobl a oedd yn wynebu caledi y llynedd. Roeddent wedi rhoi o'u hamser i groesawu pobl, gwneud paned o de, gwrando a helpu gyda chymorth ymarferol. Mae Banc Bwyd Abertawe'n ddibynnol ar wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser a'u gofal i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol. Rydym yn ddiolchgar iawn; allwn ni ddim gwneud heboch."
Mae Banc Bwyd Abertawe'n gweithredu canolfannau mewn ardaloedd sy'n cynnwys Clydach, Port Tennant, Gorseinon, Mayhill, Penlan ac Uplands. Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi ystod eang o rolau, o bacio parseli bwyd a didoli rhoddion i groesawu pobl i ganolfannau banc bwyd a helpu i'w cyfeirio at wasanaethau lleol eraill.
Mae Cyngor Abertawe'n annog mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a phartneriaid lleol sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau i wneud cais am grantiau'r haf. Mae cyllid ar gael i sefydliadau sefydledig a grwpiau llai sydd â chysylltiadau lleol cryf.
Mae'r fenter yn rhan o weledigaeth y cyngor i gefnogi ein cymunedau drwy'r argyfwng costau byw.
Mae manylion llawn am gymhwysedd, meini prawf a sut i wneud cais ar gael yn www.abertawe.gov.uk/granthafLlawnLles2026.
Rhaid i sefydliadau gyflwyno ceisiadau erbyn 8 Mehefin.