Hen Goleg

Hen Goleg Nid yw'r cyfrif hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd tra bod y prosiect wedi'i oedi.

De SeddonYn dilyn post poblogaidd yr wythnos ddiwethaf am y gwaith allanol rhagorol ar De Seddon, yr wythnos hon mae gen...
11/08/2026

De Seddon

Yn dilyn post poblogaidd yr wythnos ddiwethaf am y gwaith allanol rhagorol ar De Seddon, yr wythnos hon mae gennym ni luniau i chi o'r tu mewn.

Fel y gwelwch, mae'r lloriau wedi'u gosod, y waliau wedi'u peintio ac mae'r gofodau’n edrych yn wych.

Bydd y rhain yn darparu mannau astudio i fyfyrwyr, gofodau ar gyfer cymdeithasau a gweithgareddau, a gofod llawn cyfarpar ar gyfer busnesau newydd yn y diwydiannau creadigol, digidol a pherthynol.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Ble mae’r benglog?Gyda'r sgaffaldiau i lawr ar De Seddon, mae'n werth camu'n ôl am ennyd i werthfawrogi'r gwaith.Mae’r t...
04/08/2026

Ble mae’r benglog?

Gyda'r sgaffaldiau i lawr ar De Seddon, mae'n werth camu'n ôl am ennyd i werthfawrogi'r gwaith.

Mae’r tyredau wedi'u hail-doi, mae to fflat plwm newydd, cwteri a phibellau haearn bwrw newydd, a ffenestri a gwaith maen wedi'u hadfer, y cyfan yn adlewyrchu statws Gradd 1 yr adeilad hanesyddol hwn.

Ac, yn edrych dros y castell mae mosaig dadleuol C F Voysey.

Y mathemategydd, ffisegydd, peiriannydd a’r seryddwr Groegaidd Archimedes yw’r cymeriad yn y canol yn ôl pob sôn, ac mae’r mosaig mor drawiadol heddiw ag y byddai wedi bod pan gafodd ei osod.

Ond, mae'n werth edrych yn fanylach.

Faint ohonoch chi sydd wedi sylwi ar y benglog ddynol, y dywedir ei bod yn darlunio astudiaeth o 'ddyn'?

Draw ar Stryd y Brenin ac mae dau grotesg sy'n cynnwys y geiriau 'Error' a 'Darkness'.

Wedi'u gosod uwchben y drws ochr, maent yn ymddangos fel dau greadur tebyg i fadfall sy'n cael eu dal gan ddwy law gyda’r geiriau 'Science' a 'Light' arnynt.

Nid yw'n syndod, efallai, ar gyfer adeilad a ddyluniwyd gan y pensaer J P Seddon ar gyfer yr adrannau Ffiseg a Chemeg.

Fodd bynnag, o ystyried y dadlau fu ynghylch y mosaig, mae rhywun yn meddwl tybed a oedd y Brifysgol wedi cytuno i'r grotesgau hyn.

Neu a ychwanegwyd hwy gan Seddon yn slei bach?

A beth oedd ef wir yn ei olygu wrthynt?

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda, gan ei bod hi’n dymor y gwyliau.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Twll yn y walMae draeniau dŵr glaw newydd yn cael eu gosod ar ochr promenâd yr Hen Goleg.Mae arwynebedd toeau’r Hen Gole...
28/07/2026

Twll yn y wal

Mae draeniau dŵr glaw newydd yn cael eu gosod ar ochr promenâd yr Hen Goleg.

Mae arwynebedd toeau’r Hen Goleg, yr atriwm newydd a'r ddwy fila Sioraidd yn ymestyn dros ychydig mwy na 5200 metr sgwâr.

Mewn awr o law cymedrol, tua 5mm yr awr, mi fydd tua 26,000 litr o ddŵr yn llifo oddi ar y toeau hyn.

Er mor anodd yw hi i ddychmygu hyn ar ddiwrnod poeth o haf, mi allai mwy na 100,000 litr lifo i’r draeniau yn ystod awr o law trwm.

Mae hynny'n fwy na digon i lenwi pwll nofio 25 metr ar ddiwrnod glawog iawn.

Yn ôl ar y promenâd, ac mae pibell newydd wedi'i gosod o dan y ffordd a thwll newydd wedi'i dorri yn y wal fôr er mwyn i’r dŵr glaw lifo i ffwrdd.

Wedi'i atgyfnerthu ar y tu mewn, fe gymerodd hi bron i dri diwrnod gwaith i dyllu trwy'r 1.6 metr o goncrit a cherrig gyda dril â blaen diemwnt.

Ac ar ochr y môr mae falf unffordd wedi ei gosod a fydd yn atal dŵr y môr rhag rhedeg yn ôl i mewn i'r bibell.

Bydd y draeniau newydd wedi eu gosod yn lle rhai o'r hen ddraeniau a'r ffosydd cerrig a oedd yn casglu dŵr glaw o'r Hen Goleg a'r ddwy fila Sioraidd.

Byddant hefyd yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar ddraeniau dŵr glaw eraill yng nghyffiniau’r Hen Goleg pan fydd hi'n bwrw nesaf.

Ac fe ddaw’r glaw, hwyr neu hwyrach.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Rydym wedi bod yn gweithio gydag un o’n myfyrwyr talentog, Susannah Francis, a raddiodd yr wythnos diwethaf, i greu card...
24/07/2026

Rydym wedi bod yn gweithio gydag un o’n myfyrwyr talentog, Susannah Francis, a raddiodd yr wythnos diwethaf, i greu cardiau post ar gyfer y digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr eleni.

Mae dyluniad buddugol Susannah bellach wedi’i gwblhau, ac rydym yn falch iawn o’i weld yn mynd i brint!

Cadwch lygad amdanon ni yn ein digwyddiadau sydd ar ddod; bydd cyfle i chi rannu eich hoff atgofion o’r Hen Goleg neu Aberystwyth ar gerdyn post.

Efallai y bydd rhai straeon yn cael eu cynnwys un o’n harddangosfeydd rhyngweithiol yn Ardal Byd Gwybodaeth yr Hen Goleg.

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarllen eich straeon a dathlu’r atgofion sy’n gwneud ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn un mor arbennig.

To newyddMae to plwm newydd ar adeilad De Seddon.Ac mae ei gwblhau yn garreg filltir bwysig arall i brosiect yr Hen Gole...
21/07/2026

To newydd

Mae to plwm newydd ar adeilad De Seddon.

Ac mae ei gwblhau yn garreg filltir bwysig arall i brosiect yr Hen Goleg.

Ac mae sylw at fanylder Greenough & Sons o Ynys Môn yn drawiadol.

Bwyty cyhoeddus ac ystafell goffi oedd yr adeilad hwn pan gafodd ei adeiladu ym 1865.

Ac roedd datblygwr Gwesty'r Castell, Thomas Savin, eisiau to fflat er mwyn ei ddefnyddio fel promenâd.

Byrhoedlog fu’r rhodfa ar y to gan i'r Brifysgol ychwanegu trydydd llawr at De Seddon ar ôl prynu’r adeilad ym 1867.

Rhywsut, nid yw myfyrwyr, llwybrau ar doi a pharapetau’n cymysgu.

Er na wnaeth tân mawr 1885 effeithio ar De Seddon, cafodd ei ailadeiladu'n llwyr a'i agor mewn pryd ar gyfer tymor yr haf 1888.

A dychwelodd y to fflat, ond heb y promenâd.

Drwy weithio o fewn ac o amgylch y sgaffaldau, tynnwyd yr hen do bitwmen fesul darn a chafodd y gwaith coed oddi tano ei adfer a’i atgyweirio.

Mae pob rhan o'r to newydd wedi'i wneud â llaw ar y safle gan y tîm plwm, gan gynnwys Dale Canning sydd i'w weld yn y llun yn gosod panel newydd ei le.

Roedd cadw'r glaw allan hefyd yn flaenoriaeth.

Y trueni yw nad yw’r gwaith gorffenedig i'w weld o'r promenâd.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
Greenough & Sons Roofing Contractors Ltd

Llwybr llaethogMae’n debyg bod Ian Rush wedi dweud, os na fyddech chi'n yfed llawer o laeth pan oeddech chi'n tyfu i fyn...
14/07/2026

Llwybr llaethog

Mae’n debyg bod Ian Rush wedi dweud, os na fyddech chi'n yfed llawer o laeth pan oeddech chi'n tyfu i fyny, fyddech chi ‘mond yn ddigon da i chwarae i Accrington Stanley…

Mae llaeth hefyd yn un o'r cynhwysion allweddol ar gyfer diogelu cerfiadau carreg.

Ac mae hyn yn gwbl briodol ar gyfer yr Hen Goleg, adeilad lle bu cyrsiau llaeth a chaws yn cael eu cynnal am flynyddoedd.

Mae Abigail Bestwick, Cadwraethwr o gwmni Skillington, wedi bod yn gweithio ar arfbais y Brifysgol ar borth Stryd y Brenin.

Gyda'r arwyddeiriau ‘Goreu Arf, Arf Dysg’ a ‘Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth’, bu’r tywydd yn llym ei effaith ar y cerfiadau cain.

Ac fel yr ydym wedi gweld gyda’r gargoeliau a’r grotesgau ar yr Hen Goleg, cadwraeth yw’r dull a fabwysiadwyd yn hytrach nag adfer neu osod darnau newydd yn eu lle.

Mae wyneb y cerfiad yn llawn tyllau ac mae tuedd i’r dŵr glaw gasglu yn y cilfachau a’r corneli tywyll.

Yn oerfel y gaeaf mae'r dŵr hwnnw’n rhewi, gan ddifrodi’r garreg wrth iddo ehangu.

Er mwyn atal hyn, mae pwti calch o’r un lliw â’r garreg wedi ei ychwanegu.

Gyda'r tyllau wedi'u llenwi, mae'r darian wedi'i phaentio â chôt gysgodol i'w hamddiffyn.

Gwyngalch wedi'i gymysgu gyda llwch carreg a llaeth hanner sgim yw’r gôt.

Mae casein, y protein llaeth sy'n hanfodol ar gyfer gwneud caws, yn gweithredu fel glud, gan olygu bod y gôt wyngalch yn aros ar wyneb y garreg gerfiedig.

Mae cymysgedd o dri math o lwch tywod mân yn sicrhau y bydd y gôt gysgodi yr un lliw â’r garreg wreiddiol.

Bydd angen amser ar y pwti a'r gwyngalch i sychu, a dyw’r tywydd poeth ddim yn help.

Wedi'u gorchuddio â hesian i arafu'r broses sychu, mae'r darian, y gargoeliau a'r grotesgau yn cael eu chwistrellu'n rheolaidd â dŵr.

Dyma'r llwybr llaethog er mwyn gwarchod adeilad rhestredig gradd 1, ac mae angen amser i'w wneud yn iawn.

Ac Accrington Stanley? Pwy y nhw, dywedwch?

Yn union…

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
Skillington Workshop

🎓 Mae Wythnos y Graddio wedi cyrraedd! 🎓A wnaethoch chi ddathlu eich graddio yn Hen Goleg Aberystwyth?Byddem wrth ein bo...
13/07/2026

🎓 Mae Wythnos y Graddio wedi cyrraedd! 🎓

A wnaethoch chi ddathlu eich graddio yn Hen Goleg Aberystwyth?

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich atgofion o’r adeilad hanesyddol hwn a’r rhan a chwaraeodd yn eich taith Prifysgol Aberystwyth.

✨ Pob hwyl i raddedigion heddiw, ac i’r cenedlaethau sydd wedi cerdded o’u blaenau.

10/07/2026

Dewch i mewn!

Ymunwch gyda Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg Jim O’Rourke am daith gyflym drwy’r atriwm newydd.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Yr annisgwylMae balwstradau balconïau'r Cwad yn cael eu hadfer i'w lliwiau gwreiddiol.Mewn lluniau cynnar mae’r ochrau a...
07/07/2026

Yr annisgwyl

Mae balwstradau balconïau'r Cwad yn cael eu hadfer i'w lliwiau gwreiddiol.

Mewn lluniau cynnar mae’r ochrau allanol yn llwyd a’r rhannau mewnol yn wyn.

Concrit wedi ei gastio, ar y safle yn ôl pob tebyg, yw’r ochrau allanol.

O ran y nodweddion pedairdalen a phumdalen, castiau yw rhain hefyd, o blastr, sydd ddim mor wydn.

Mae dadansoddiad o'r paent a'r haenen o faw oddi tano yn awgrymu eu bod wedi'u peintio am y tro cyntaf yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Mae'r haenau o baent yn cael eu tynnu'n ofalus iawn, gan ddatgelu llwyd gwreiddiol y concrit a gwyn y nodweddion plastr.

Fodd bynnag, cafwyd yr annisgwyl, profiad nid anghyfarwydd yn yr Hen Goleg.

Mae rhai o’r nodweddion cast plastr wedi torri a'u hatgyweirio gyda darnau o ‘plywood’. Mae un wedi ei newid yn llwyr.

Byddant yn cael eu peintio i gyd-fynd â gwyn y cast plastr.

Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, mae waliau'r Cwad yn cael eu peintio’n wyn. Bydd y paent silicad yn caniatáu i’r waliau anadlu, yn olchadwy, yn cadw ei liw ac yn para.

Y ddau arlliw o binc, lliwiau gwreiddiol y Cwad, fydd y got olaf, fel sydd i’w gweld yn argraff yr artist, yr olaf yn oriel luniau'r wythnos hon.

Ac, i'r craff yn eich plith, ydy, mae'r balwstrad yn y ddelwedd hon yn wyn.

Gwnaed y penderfyniad i'w adfer i'r lliwiau gwreiddiol ar ôl i argraff yr artist gael ei greu.

Unwaith eto, mae'r gwaith yn esblygu wrth i ni barchu treftadaeth bensaernïol yr adeilad rhestredig gradd 1 rhyfeddol hwn.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Address

Stryd Y Brenin
Aberystwyth
SY232AU

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Hen Goleg posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Hen Goleg:

Shortcuts

Share