17/09/2026
🏘️ **ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH YN EICH CYMUNED?**
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Tref Rhydaman **ddau gyfle i bobl leol ddod yn Gynghorwyr Tref drwy gyfethol**.
Mae bod yn Gynghorydd Tref yn gyfle i **gael llais, cynrychioli eich cymuned a helpu i lunio dyfodol Rhydaman**.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr mewn llywodraeth leol. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn malio am eich cymuned, yn barod i wrando ar bobl leol, rhannu syniadau a gweithio gydag eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Fel Cynghorydd Tref, gallech helpu i ddylanwadu ar feysydd fel y canlynol a’u cefnogi:
🌳 Ein parciau, ein hardaloedd hamdden a’n mannau gwyrdd
🎉 Digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
👨👩👧 Cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd
🌱 Bioamrywiaeth a’r amgylchedd lleol
🏘️ Gwelliannau yn ein cymdogaethau
🤝 Sefydliadau cymunedol a mentrau lleol
💡 Syniadau newydd ar gyfer dyfodol Rhydaman
Rydym am i’n Cyngor elwa ar bobl sydd â **gwahanol brofiadau, cefndiroedd, sgiliau a syniadau**. Gallai eich gwybodaeth am eich cymdogaeth a’r pethau sy’n bwysig i drigolion lleol ddod â gwerth gwirioneddol i’r Cyngor.
Efallai eich bod wedi meddwl am ddod yn gynghorydd o’r blaen ond nad oeddech yn siŵr beth oedd yn gysylltiedig â’r rôl. **Gallai hwn fod yn gyfle i chi gael gwybod mwy.**
💬 **Oes gennych ddiddordeb, ond hoffech wybod mwy cyn gwneud cais?**
Cysylltwch â Chyngor Tref Rhydaman. Byddem yn falch o egluro beth mae bod yn Gynghorydd Tref yn ei olygu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
**Eich cymuned. Eich syniadau. Eich cyfle i wneud gwahaniaeth.**
📍 **Mae dwy swydd wag ar gyfer Cynghorwyr ar gael ar hyn o bryd**
Gweler ein Hysbysiad Cyfethol swyddogol am y gofynion cymhwysedd llawn, manylion y swyddi gwag a gwybodaeth am sut i wneud cais.
Ammanford Town Council currently has two opportunities for local people to become Town Councillors through co-option.
Being a Town Councillor is an opportunity to have a voice, represent your community and help shape the future of Ammanford.
You don't need to be an expert in local government. What matters is that you care about your community, are willing to listen to local people, share ideas and work with others to make a positive difference.
As a Town Councillor, you could help influence and support areas such as:
🌳 Our parks, recreation areas and green spaces
🎉 Community events and activities
👨👩👧 Opportunities for children, young people and families
🌱 Biodiversity and the local environment
🏘️ Improvements within our neighbourhoods
🤝 Community organisations and local initiatives
💡 New ideas for the future of Ammanford
We want our Council to benefit from people with different experiences, backgrounds, skills and ideas. Your knowledge of your neighbourhood and the things that matter to local residents could bring real value to the Council.
Perhaps you've thought about becoming a councillor before but weren't sure what was involved. This could be your opportunity to find out more.
💬 Interested, but want to know more before applying?
Please get in touch with Ammanford Town Council. We would be happy to explain what being a Town Councillor involves and answer any questions you may have.
Your community. Your ideas. Your opportunity to make a difference.
📍 Two Councillor vacancies currently available
Please see our official Notice of Co-option for full eligibility requirements, vacancy details and information on how to apply.
https://www.ammanford-tc.gov.uk/_UserFiles/Files/CO-option%20Notice%20September%202026.pdf
https://www.ammanford-tc.gov.uk/_UserFiles/Files/Co-option%20Guidance%20ATC.pdf