25/08/2026
Eisiau gwneud rhywbeth gwobrwyol? Rydyn ni’n chwilio am Swyddogion Achub Gwylwyr y Glannau i ymuno
â’n timau!
Gwylwyr y Glannau EF yw gwasanaeth brys môr ac arfordir 999 y Deyrnas Unedig. Gwirfoddolwyr ein Gwasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau sy’n achub ac yn helpu pobl sydd mewn trybini ar ein harfordir.
Fel swyddog achub gwylwyr y glannau gwirfoddol, fe allech fod yn rhan o amrywiol sefyllfaoedd, o achub pobl o fwd, oddi ar glogwyni neu o’r dŵr i chwilio am bobl sydd ar goll. Fel gwirfoddolwr, ni chewch eich talu.
Cewch hawlio ychydig am eich amser a’ch costau. Mae gwirfoddoli gyda ni yn rôl wobrwyol sy’n cefnogi eich cymuned leol ac yn rhoi’n ôl iddi. Fe allwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol a helpu i achub bywydau.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau neu i wneud cais i fod yn wirfoddolwr, ewch i hmcoastguard.uk/volunteer