Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Gallwch weld fersiwn Saesneg o'r tudalen hwn. Ewch i www.facebook.com/welshgovernment

26/08/2026

Dyma beth ddywedodd y Prif Weinidog am ei 100 diwrnod cyntaf yn y swydd.

Gall llawer ddigwydd mewn 100 diwrnod. Mwy o gefnogaeth i ysgolion. Mwy o gymorth i deuluoedd. Camau gweithredu ar amser...
26/08/2026

Gall llawer ddigwydd mewn 100 diwrnod.

Mwy o gefnogaeth i ysgolion. Mwy o gymorth i deuluoedd. Camau gweithredu ar amseroedd aros yr NHS. Cefnogi ffermwyr Cymru. Llais cryfach i Gymru.

Cawsom sgwrs efo'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth i’w holi am ei 100 diwrnod cyntaf yn y swydd 👇

The First Minister of Wales reflects on the Welsh Government’s firs...

26/08/2026
100 diwrnod o weithio dros Gymru a’i phobl 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
26/08/2026

100 diwrnod o weithio dros Gymru a’i phobl 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Pob lwc i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau arholiadau yfory. Good luck to everyone receiving their exam results tomorrow....
24/08/2026

Pob lwc i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau arholiadau yfory.

Good luck to everyone receiving their exam results tomorrow. We know how hard you’ve worked, and we’re wishing you all the best for whatever comes next.

Rydyn ni'n gwybod pa mor galed rydych chi wedi gweithio, ac rydym yn dymuno'r gorau i chi ar gyfer beth bynnag a ddaw nesaf.

20/08/2026
⚠️ Neges bwysig am danau gwyllt 👇Diolch i'r diffoddwyr tân sydd wedi bod yn mynd i'r afael â thanau ledled Cymru dros yr...
20/08/2026

⚠️ Neges bwysig am danau gwyllt 👇

Diolch i'r diffoddwyr tân sydd wedi bod yn mynd i'r afael â thanau ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.

Mae'r haf hwn ar y trywydd i fod yn un o'r poethaf ar gofnod. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydym yn ei gymryd o ddifrif.

Rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau tân ac achub a phartneriaid eraill i gydlynu’r ymateb a chefnogi cymunedau.

Dros y diwrnodau ddiwethaf fe wnaethom sicrhau cymorth milwrol ychwanegol i gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Byddwn yn parhau i roi cefnogaeth lawn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub a phawb sy'n ymateb ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn ddiogel.

Mae amaethyddiaeth yn agored iawn i niwed mewn tonnau gwres. Rydym yn cefnogi ffermwyr gyda grantiau am dyllau turio, offer cynaeafu dŵr, a systemau awyru er mwyn addasu i newid hinsawdd.

Bydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cynnull uwchgynhadledd tanau gwyllt, gan ddod â'r gwasanaethau brys a phartneriaid ynghyd i ystyried sut i leihau'r risg o danau gwyllt a pharatoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.

Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys ac arhoswch draw o danau. Os ydych chi'n gweld arwyddion tân, ffoniwch 999.

Address

North Street
Blaenavon
NP4 9RQ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llywodraeth Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share