Cae'r Gors

Cae'r Gors Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts Lleolir Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors yn mhentref Rhosgadfan ar ochr Moel Tryfan ychydig fillitiroedd i ffwrdd o Gaernarfon.

Nôd y Ganolfan yw creu adnodd gwerthfawr ar gyfer y gymuned leol a chanolfan i ddysgu, darganfod a deall hanes, llenyddiaeth a threftadaeth gyfoethog Rhosgadfan a'r cyffiniau, sef ardal enedigol Kate Roberts.

28/11/2013

Bore o greu yng Nghae'r Gors dydd Sadwrn yma, rhwng 10-12 o'r gloch. Dewch draw i greu cardiau nadolig a'n helpu i addurno'r ty.

15/11/2013

Sgwn i pa drysorau sy'n cuddio yng nghypyrddau Cae'r Gors? Cwpl ohona ni'n mynd i chwilio a rhoi trefn ar yr archif a'r lluniau pnawn fory am 1pm. Croeso i unryw un alw heibio.

12/11/2013

Clwb darllen heno wedi ei ohirio. Ymddiheuriadau am fod yn fyr rybudd.

06/10/2013

Nodyn i'ch atgoffa bod y clwb darllen yn ailgychwyn nos Fawrth yma am 7pm. Llyfr gosod, Tywyll Heno, Kate Roberts. Croeso i bawb.

11/09/2013

Clwb Darllen newydd, yn rhoi sylw i feirdd a llenorion lleol. yn cychwyn nos Fawrth, Hydref 8fed am 7.00yh. Llyfr gosod: Tywyll Heno, Kate Roberts.

05/09/2013

Yn chwilio am rywun allai helpu gyda penwythnos agored sy'n cael ei gynnal ar y 28 a 29 o Fedi, fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored gyda Cadw.

Ffrind newydd i Gae'r Gors, Mair, o Ddinbych, wedi gwisgo fel Kate i hybu ein sesiwn hel atgofion ar faes yr Eisteddfod ...
08/08/2013

Ffrind newydd i Gae'r Gors, Mair, o Ddinbych, wedi gwisgo fel Kate i hybu ein sesiwn hel atgofion ar faes yr Eisteddfod pnawn Sadwrn.

Cynulleidfa dda iawn i'r ddarlith pnawn ma.
07/08/2013

Cynulleidfa dda iawn i'r ddarlith pnawn ma.

Diwrnod cyntaf da yn yr Eisteddfod yn Ninbych. Y blog newydd wedi ei ddangos am y tro cyntaf heddiw. Ewch draw i gael go...
05/08/2013

Diwrnod cyntaf da yn yr Eisteddfod yn Ninbych. Y blog newydd wedi ei ddangos am y tro cyntaf heddiw. Ewch draw i gael golwg yn http://caergors.blogspot.co.uk/

Cyfle i Gae'r Gors ysbrydoli unwaith eto. Prif bwrpas y blog fydd defnyddio gwrthrychau o'r tyddyn i sbarduno gweithiau creadigol newydd, ond bydd hefyd yn fodd o ddangos eitemau o archif y Ganolfan Dreftadaeth, gan adrodd hanesion a chefndir y lluniau a'r llythyrau, a datgelu mwy am hanes yr ardal....

04/08/2013

Y car wedi ei bacio ac yn barod am ddiwrnod prysur yn y Steddfod fory. Dewch draw i'n gweld ni ar stondin Cadw 511-513.

31/07/2013
30/07/2013

Ac os fethoch chi hyna i gyd... mae'r ail noson o raglenni Kate ar S4C heno, efo rhaglen Mamwlad am 8.30pm a rhan gyntaf Traed Mewn Cyffion am 9.30pm. Mwynhewch!

Address

Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan
Caernarfon
LL547

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cae'r Gors posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cae'r Gors:

Share