Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Call Directions Website Contact the organisation

Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales Cyngor Celfyddydau Cymru: yn noddi a datblygu'r yng Nghymru. Arts Council of Wales: funding and developing the in .

Mae'r cyfrif yma'n cael ei fonitro 9-5 Dydd Llun-Gwener | This account is monitored 9-5 Monday-Friday. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am noddi a datblygu'r Celfyddydau yng Nghymru. Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Penodir ei aelodau gan Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru yw ein prif noddwr. Dosbarthwn hefyd a***n o'r Loteri Genedlaethol a chodwn a***n ychwanegol lle gallwn o amrywiaeth o ffynonellau sector preifat a chyhoeddus. Ni yw prif asiantaeth datblygu ac a***nnu'r celfyddydau yng Nghymru. Gweithiwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru i allu dangos sut y mae'r celfyddydau o gymorth i gyflawni uchelgais polisi'r Llywodraeth. Gweithia'n staff mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.
--------------------
Arts Council of Wales is responsible for funding and developing the arts in Wales. Arts Council of Wales is an independent charity, established by Royal Charter in 1994. Its members are appointed by the Welsh Government’s Minister for Culture and Sport. Our principal sponsor is the Welsh Government. We also distribute funding from the National Lottery and raise additional money where we can from a variety of public and private sector sources. We are the country’s funding and development organisation for the arts. Working together with the Welsh Government, we are able to show how the arts are helping to meet the Government’s policy ambitions. Our staff members are based in Colwyn Bay, Carmarthen and Cardiff Bay.

🎨 How can creativity support young people's mental health? / Sut gall creadigrwydd gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? (Po...
21/10/2026

🎨 How can creativity support young people's mental health? / Sut gall creadigrwydd gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? (Post Cymraeg llawn ar ein tudalen)

The evaluation for the first year of Arts Council of Wales and Baring Foundation's Arts and Minds project shares what we've learned so far about the impact of creative activity with children and young people accessing NHS mental health services across Wales.

From building confidence and connection to creating safe spaces for creative expression, the findings show how arts activity can support young people's wellbeing alongside healthcare services.

To learn about the project + read the full report, click here: https://bit.ly/4dS0tQN

-----

Mae adroddiad blwyddyn gyntaf rhaglen Celfyddyd a Chrebwyll yn rhoi trosolwg o'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma am effaith gweithgarwch creadigol gyda phlant a phobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru.

Darllenwch y post a'r adroddiad yn Gymraeg ar ein tudalaen.

🎨🧠  Sut gall creadigrwydd gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? / How can creativity support young people's mental health? (...
21/10/2026

🎨🧠 Sut gall creadigrwydd gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc? / How can creativity support young people's mental health? (Post in English on our page)

Mae adroddiad blwyddyn gyntaf rhaglen Celfyddyd a Chrebwyll yn rhoi trosolwg o'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma am effaith gweithgarwch creadigol gyda phlant a phobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl y GIG ledled Cymru.

O feithrin hyder a chysylltiadau newydd i greu llefydd diogel ar gyfer mynegiant creadigol, mae'r canfyddiadau'n dangos sut y gall y celfyddydau gefnogi lles pobl ifanc ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd.

I ddarganfod mwy am y prosiect + darllen yr adroddiad llawn, cliwich yma: https://bit.ly/4yBP7Yz

-----

The first-year Arts and Minds report shares what we've learned so far about the impact of creative activity with children and young people accessing NHS Wales mental health services across the country.

Read this post and the report in English on our page.

📢 Do you know a creative individual who is passionate about developing Cymraeg? / Ydych chi'n adnabod unigolyn creadigol...
15/10/2026

📢 Do you know a creative individual who is passionate about developing Cymraeg? / Ydych chi'n adnabod unigolyn creadigol sy'n angerddol dros ddatblygu'r Gymraeg? (Darllenwch y post yn Gymraeg ar ein tudalen)

On Shwmae Su'Mae Day, we're delighted to announce that the fifth round of the Llais y Lle fund is now open for applications.

The opportunity is open to creative individuals who want to work alongside a community to explore their relationship with Cymraeg, in partnership with an arts, cultural or language organisation.

You can apply for up to £35,000 towards your project.

We're hosting three briefing sessions for anyone who'd like to find out more:

• 19 October, 4pm
• 4 November, 10am
• 12 November, 6pm

Deadline: 1pm, Wednesday 13 January 2027.

To learn more and apply, click here: https://bit.ly/4s5pTjt 🔗

📢 Ydych chi'n adnabod unigolyn creadigol sy'n angerddol dros ddatblygu'r Gymraeg? / Do you know a creative individual wh...
15/10/2026

📢 Ydych chi'n adnabod unigolyn creadigol sy'n angerddol dros ddatblygu'r Gymraeg? / Do you know a creative individual who is passionate about developing Cymraeg? (Read this post in English on our page)

Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod pumed cylch cronfa Llais y Lle bellach ar agor i geisiadau.

Mae'r cyfle'n agored i unigolion creadigol sydd am weithio ochr yn ochr â chymuned i archwilio eu perthynas â'r Gymraeg, mewn partneriaeth â sefydliad celfyddydol, diwylliannol neu ieithyddol.

Gallwch ymgeisio am hyd at £35,000 tuag at eich prosiect.

Byddwn yn cynnal tair sesiwn friffio i unrhyw un sydd am ddysgu mwy:

• 19 Hydref, 4yp
• 4 Tachwedd, 10yb
• 12 Tachwedd, 6yh

Dyddiad cau: 1yh, Dydd Mercher 13 Ionawr 2027.

I ddysgu mwy ac ymgeisio, cliciwch yma: https://bit.ly/3WpMHP7 🔗

👀 Level up — next deadline tomorrow! / Ewch â'ch gyrfa farchnata i'r lefel nesaf — dyddiad cau nesaf yfory!Mae Arts Mark...
14/10/2026

👀 Level up — next deadline tomorrow! / Ewch â'ch gyrfa farchnata i'r lefel nesaf — dyddiad cau nesaf yfory!

Mae Arts Marketing Association yn cynnig cyfleoedd cyffrous i weithwyr marchnata a chyfathrebu y sector diwylliannol ddatblygu eu sgiliau, adeiladu rhwydweithiau a magu hyder ymysg datblygiadau cyson.

Ry'n ni'n falch o gefnogi unigolion a gweithwyr llawrydd ledled y sector trwy a***nnu bwrsariaethau llawn.

Ar hyn o bryd, mae saith bwrsariaeth lawn ar gael ar gyfer eu Diwrnod Marchnata Digidol yn Woolwich Works Llundain. Dyma gyfle unigryw i ddysgu mwy am ddatblygiadau diweddaraf y byd marchnata digidol trwy sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. Mae'r digwyddiad yn dod â marchnatwyr digidol ar draws y DU ynghyd ar gyfer diwrnod llawn dysgu a rhannu.

Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y bwrsari hwn yw 12pm, Dydd Iau 15 Hydref 2026.

I ddysgu mwy am y cyfle hwn a'r bwrsariaethau eraill sydd ar gael, cliciwch y ddolen yn ein bio 🔗

-----

Arts Marketing Association offers exciting opportunities for arts and culture marketers to sharpen their skills, expand their networks and navigate the ever-changing world of marketing confidently.

We're proud to support a range of bursaries for individuals and freelancers working across the cultural sector.

We're currently funding seven full bursaries for their Digital Marketing Day at Woolwich Works this November. This is a unique opportunity to get up to speed with the latest thinking and innovations in digital and social marketing. This event brings together arts marketers from across the UK for a day full of learning and sharing.

The deadline to apply for this bursary is 12pm, Thursday 15 October 2026.

To find out more about this opportunity and the other bursaries available, click the link in the comments 🔗

📸 Galeri (Caernarfon)

13/10/2026

👭🏿❤️ "Black history is Welsh history."

Ar ddiwedd mis Medi, ymunon ni â thîm Race Council Cymru yn Sain Ffagan ar gyfer lansiad Hanes Pobl Ddu Cymru 365. Buon ni'n dawnsio, gwrando ar straeon a mwynhau bwyd gwych yn ystod diwrnod llawn balchder, llawenydd a chymuned.

Trwy gyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru, mae Hanes Pobl Ddu Cymru 365 yn dod â phobl o bob oed ynghyd drwy greadigrwydd i ddathlu cyfraniadau cymunedau Du Cymru.

Cawson ni gyfle i siarad â threfnwyr y rhaglen ac aelodau o'r gymuned i ddysgu mwy am beth sy'n gwneud y prosiect pwysig yma mor arbennig.

Dysgwch fwy am ein gwaith gyda Race Council Cymru a'n gwaith ehangach i ehangu mynediad at y celfyddydau. Dolen yn y sylwadau isod 🔗

-----

At the end of September, we joined the Race Council Cymru team at St Fagans for the launch of Black History Cymru 365. We danced, shared stories and enjoyed some great food during a day full of pride, joy and community.

Through a series of events across Wales, Black History Cymru 365 brings people of all ages together through creativity to celebrate the contributions of Wales' Black communities.

We spoke to programme organisers and community members to learn more about what makes this important project so special.

Find out more about our work with Race Council Cymru and our wider work to improve access to the arts. Link in the comments below 🔗

📣 🎬 Invitation to tender: Review of the film sector in Wales / Gwahoddiad i dendro: Adolygu sector ffilm Cymru.Mae Cyngo...
12/10/2026

📣 🎬 Invitation to tender: Review of the film sector in Wales / Gwahoddiad i dendro: Adolygu sector ffilm Cymru.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd tendrau gan unigolion a sefydliadau profiadol i gynnal ymchwil i adolygu sector ffilm Cymru.

Bydd yr adolygiad yn archwilio strwythurau datblygu, cynhyrchu, cydgynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilmiau cyfredol Cymru, er mwyn inni allu deall yr ecosystem bresennol a gweld sut mae cefnogaeth i'r sector yn gallu bod yn fwy cynhwysol a chydlynol wrth wynebu'r dyfodol.

Bydd yr unigolyn neu'r sefydliad yn llunio adroddiad dadansoddol sy'n gwerthuso sector ffilm Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol gan ystyried y gwahaniaethau mewn adnoddau a seilwaith.

Bydd yr adroddiad terfynol yn nodi syniadau, problemau a chanlyniadau allweddol i lywio strategaeth y dyfodol, cefnogi penderfyniadau strategol a chryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector.

Cyllideb: Hyd at £30,000 gan gynnwys TAW.
Dyddiad cau cwestiynau: 20 Hydref 2026.
Dyddiad cau ymgeisio: 5pm ddydd Llun 2 Tachwedd 2026.

Rhagor o wybodaeth ar gael trwy'n gwefan. Dolen yn y sylwadau isod 🔗

-----

The Arts Council of Wales is inviting tenders from experienced individuals or organisations to undertake research for a review of the film sector in Wales.

The review will examine current film development, production, co-production, distribution and exhibition structures in Wales, helping us to better understand the current ecosystem and identify how support for the sector can be more inclusive, coherent and future facing.

The appointed individual or organisation will produce an analytical research report that evaluates the current film sector in Wales within a comparative international context, taking into account differences in resources and infrastructure.

The final report will bring together key insights, challenges, and research outcomes to help inform future strategy, support strategic decision making and strengthen knowledge and understanding of the sector.

Budget: Up to £30,000 inclusive of VAT.
Deadline for questions: 20 October 2026.
Submission deadline: 5pm, Monday 2nd November 2026.

For further information, click the link in the comments below 🔗

09/10/2026

‼️ Mae'r Gronfa Lansio 2026 ar agor ar gyfer ceisiadau / Launchpad Fund 2026 is now open for applications!

Gall artistiaid, bandiau neu labeli sydd wedi'u lleoli yng Nghymru wneud cais am hyd at £2,000. Rhaid i'r gweithgaredd a gefnogir ganolbwyntio ar ddatblygiad yr artist.

Tagiwch artist, cerddor, cynhyrchydd, band neu label a allai fod â diddordeb.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd ac yr hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat amgen, megis nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â [email protected] am gyngor. Gofynnwn i geisiadau mewn fformat amgen gael eu cyflwyno o leiaf bythefnos cyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau: 23:59, 6 Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth a dolenni'r ffurflen gais yn y sylwadau.

Cefnogir y Gronfa Lansio gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy gyllid y Loteri Genedlaethol.

***

Artists, bands and Wales-based labels can apply for up to £2,000 in funding. Supported activity must focus on artist development.

Tag an artist, musician, producer, band or label who might be interested.

If you have access requirements and would like to submit your application in an alternative format, such as a voice note, video or British Sign Language video, please contact [email protected] for guidance. We ask that applications in an alternative format are submitted at least two weeks before the deadline.

Deadline: 23:59, 6 November.

More information + application form available via the link in the comments.

Horizons Launchpad Fund is supported by Arts Council of Wales through National Lottery funding.

🎉 Llongyfarchiadau Dafydd OwainEnillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026 yw Dafydd Owain, gyda’i albwm personol, amrwd a ...
08/10/2026

🎉 Llongyfarchiadau Dafydd Owain

Enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026 yw Dafydd Owain, gyda’i albwm personol, amrwd a phwerus Ymarfer Byw.

Braint oedd cael dathlu’r holl gerddoriaeth anhygoel ar y rhestr fer neithiwr, a gweld Dafydd yn derbyn y wobr. Ar ôl blwyddyn wych o gigio a llwyddiannau lu, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan fach o'r siwrne drwy Gronfa Lansio Gorwelion.

Edrychwn ymlaen yn fawr at weld beth sydd i ddod nesaf i'r artist o Ogledd Cymru 🌟

-----

The winner of the Welsh Music Prize 2026 is Dafydd Owain for his personal, raw and powerful album, Ymarfer Byw.

It was an honour to celebrate the incredible music from this year's shortlist, and to see Dafydd receiving the award. After an incredible year of gigging and successes, we're proud to have been a small part of his journey through the Horizons / Gorwelion Launchpad Fund.

We're excited to see what's next for this North Wales-based artist 🌟

📸 Dafydd Owain, Welsh Music Prize 2026. Cardiff Music City.

Artistiaid a gweithwyr creadigol, wedi meddwl ymgeisio i fod yn Bartner Dysgu Creadigol ar Cynefin? / Artists and creati...
07/10/2026

Artistiaid a gweithwyr creadigol, wedi meddwl ymgeisio i fod yn Bartner Dysgu Creadigol ar Cynefin? / Artists and creatives, thinking of applying to be a Creative Learning Partner on Cynefin?

Mae llai nag wythnos ar ol i ymgeisio ar cyfer y cyfle hwn. Mae'r rhaglen yn cefnogi ysgolion i archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol drwy ymholi creadigol, y celfyddydau, a llais y dysgwr.

Mae'r cyfle yn cynnwys:
• Hyfforddiant deuddydd â thâl (£300 y dydd)
• Contract o 10 diwrnod gwaith fesul ysgol
• Cyfradd ddyddiol o £300

Dyddiad cau ceisiadau: 5pm, 12 Hydref 2026.

-----

There is less than a week left to apply for this opportunity. The programme supports schools to explore the history and development of Wales as a multicultural society through creative enquiry, the arts and learner voice.

The opportunity includes:
• Paid two-day training (£300 per day)
• A contract for 10 working days per school
• A competitive daily rate of £300

Application deadline: 5pm, 12 October 2026.

🌍✨ Ceisiadau ar agor: Partneriaid Dysgu Creadigol i Cynefin / Applications now open: Creative Learning Partners for Cynefin

Ydych chi'n artist neu'n weithiwr creadigol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru? Hoffech ddefnyddio eich creadigrwydd i helpu ysgolion a dysgwyr archwilio hanes, diwylliant ac amrywiaeth Cymru?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Bartneriaid Dysgu Creadigol i gefnogi ysgolion ar raglen Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Byddwch yn:

- Cydweithio ag athrawon i gynllunio ymholiadau creadigol.
- Defnyddio'r celfyddydau i archwilio amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig.
- Grymuso llais a dewis disgyblion.
- Cyfrannu at newid mewn ysgolion a chymunedau.
- Cydweithio â rhwydwaith o weithwyr creadigol ledled Cymru.

• Hyfforddiant deuddydd â thâl.
• Contract o 10 diwrnod gwaith fesul ysgol.
• Cyfradd ddyddiol o £300.

Dyddiad cau ceisiadau: 5pm, 12 Hydref 2026

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan weithwyr creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.

Gwnewch gais heddiw trwy'r ddolen yn sylwadau isod 🔗

-----

Are you an artist or creative professional living and working in Wales? Could you use your creativity to help schools and learners explore the history, culture and diversity of Wales?

The Arts Council of Wales is seeking Creative Learning Partners to work with schools as part of Cynefin: culturally and ethnically diverse Wales.

You will:

- Collaborate with teachers to plan creative learning enquiries.
- Use the arts to explore cultural and ethnic diversity.
- Empower learner voice and decision-making.
- Contribute to change in schools and communities.
- Join a network of creative professionals across Wales.

• Paid two-day training.
• A contract for 10 working days per school.
• A competitive daily rate of £300.

Application deadline: 5pm, 12 October 2026

We are particularly keen to hear from creative professionals from culturally and ethnically diverse backgrounds.

Apply now via the link in the comments below 🔗

Address

Plas Bute/Bute Place
Cardiff
CF105

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Telephone

+448458734900

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales:

Shortcuts

Share