07/05/2026
📢 Rydym yn falch o lansio 𝐀𝐫𝐨𝐥𝐰𝐠 𝐂𝐫𝐨𝐞𝐬𝐨 𝟐.𝟎: 𝐘𝐦𝐠𝐚𝐫𝐭𝐫𝐞𝐟𝐮 𝐲𝐧𝐠 𝐍𝐠𝐡𝐲𝐦𝐫𝐮 – 𝐁𝐲𝐰𝐲𝐝 𝐌𝐮𝐝𝐰𝐲𝐫 𝐇𝐨𝐧𝐠 𝐊𝐨𝐧𝐠 𝐁𝐍(𝐎) 𝐞𝐫𝐬 𝐂𝐲𝐫𝐫𝐚𝐞𝐝𝐝.
Comisiynwyd yr astudiaeth ddilynol hon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLlC) ac fe’i cynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe. Mae’n archwilio profiadau mudwyr Hong Kong BN(O) sy’n byw yng Nghymru, dair blynedd ar ôl lansio’r llwybr fisa BN(O).
Mae’r adroddiad yn ymdrin â phynciau gan gynnwys ymgartrefu, cyflogaeth, iaith, llesiant, hunaniaeth a mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfraniadau’r gymuned Hong Kong yng Nghymru, ynghyd â rhai o’r heriau parhaus wrth adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr arolwg rhwng Awst a Hydref 2025, gyda 186 o ymatebwyr yn cymryd rhan. Mae’r canfyddiadau’n darparu mewnwelediad gwerthfawr i brofiadau, anghenion a safbwyntiau mudwyr Hong Kong BN(O) ledled Cymru.
📄 Darllenwch yr adroddiad llawn yma: https://www.wsmp.cymru/survey