15/10/2026
Diwrnod Shwmae Su’mae yw hi heddiw – cyfle gwych i rannu tipyn o Gymraeg! Dechreuwch drwy ddweud “Shwmae!”, yn union fel aelodau ein Grwpiau Sgwrsio Cymraeg (yn y llun), a mwynhewch y cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith yn y siop, yn y gwaith neu gyda ffrindiau.
Os ydych yn dysgu Cymraeg, mae ein Grwpiau Sgwrsio Cymraeg yn ffordd wych o fynd â hyn gam ymhellach a magu hyder drwy ymarfer gyda phobl eraill mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.
Gofynnwch am y grwpiau yn Hyb Radur, Hyb Llaneirwg, Hyb Rhiwbeina a Hyb Rhydypennau heddiw, a bydd y staff yn hapus iawn i helpu. 🙂
https://hybiaucaerdydd.co.uk/