Iechyd Cyhoeddus Cymru

Call Directions Website Contact the organisation

Iechyd Cyhoeddus Cymru Cyfrif yn cael ei fonitro dydd Llun-Gwener, 9 tan 5. Os oes gennych argyfwng meddygol ffoniwch 999. Mae’n weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu â’n rhanddeiliaid.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n Ymddiriedolaeth GIG a’n huchelgais yw cyflawni Cymru sy’n iachach, hapusach a decach. Ein pwrpas yw rhoi pŵer i bobl i amddiffyn a gwella ei iechyd a lles a hefyd i leihau anghydraddoldebau. Rydym yn gwneud hyn drwy hysbysu, cynghori a siarad ar eu rhan. Trwy bostio yn y sianel yma mae eich sylwadau (gan gynnwys enw a llun proffil) yn y parth cyhoeddus ac rydych yn cydsynio i Iechyd Cyhoeddus Cymru defnyddio’r cynnwys ar draws ei lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Trydar ac Instagram. I weld ein tudalen Saesneg, ewch yma: https://www.facebook.com/PublicHealthWales

09/10/2026

Dinas newydd. Cwrs newydd. Ffrindiau newydd.

Wrth i chi ymgartrefu i fywyd fel myfyriwr, cofiwch ofalu am eich iechyd a'ch llesiant hefyd.

✅ Cofrestrwch gyda meddyg teulu os ydych chi'n symud i ddinas newydd
✅ Cadwch i fyny â'ch brechiadau
✅ Gofalwch am eich iechyd rhywiol
✅ Cadwch yn ddiogel ar nosweithiau allan ac edrychwch allan am eich ffrindiau.

Prifysgol De Cymru
Prifysgol Aberystwyth
South Wales Police

Peidiwch ag aros nes eich bod yn sâl i wirio'ch cwpwrdd meddyginiaethau! Gall afiechydon y gaeaf eich taro'n sydyn, fell...
08/10/2026

Peidiwch ag aros nes eich bod yn sâl i wirio'ch cwpwrdd meddyginiaethau!

Gall afiechydon y gaeaf eich taro'n sydyn, felly mae'n werth cael rhai o'r pethau sylfaenol hyn yn barod nawr. 🩺

💊 Parasetamol
💊 Meddyginiaethau annwyd a ffliw
💊 Ibuprofen

Mae cael meddyginiaethau sylfaenol yn eich cartref yn golygu eich bod chi'n barod i weithredu pan fyddwch chi'n sylwi ar arwyddion salwch gyntaf. 🏠

Treuliwch bum munud i wirio yr hyn sydd gennych eisoes ac amnewid unrhyw beth sydd ar goll gennych! ✅

Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. 💗  Mae ymwybyddiaeth o'r fron yn dechrau trwy wybod eich corff. Dewch i w...
06/10/2026

Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. 💗
Mae ymwybyddiaeth o'r fron yn dechrau trwy wybod eich corff. Dewch i wybod sut mae eich bronnau’n edrych ac yn teimlo fel arfer.
Cofiwch wirio ardal gyfan eich bron, gan gynnwys hyd at eich asgwrn coler ac i mewn i'ch ceseiliau. 🔎
Gallai gwiriad cyflym achub eich bywyd.

Mae bywyd prifysgol wedi dechrau, dydych chi byth yn rhoi'r gorau i fod yn rhiant! ❤️Os ydynt yn gymwys, atgoffwch eich ...
05/10/2026

Mae bywyd prifysgol wedi dechrau, dydych chi byth yn rhoi'r gorau i fod yn rhiant! ❤️

Os ydynt yn gymwys, atgoffwch eich plentyn i gael y ddau dos o'r brechlyn MenB er mwyn cael yr amddiffyniad gorau. Mae hynny'n un peth yn llai i boeni amdano wrth iddynt ymgartrefu ym mywyd y brifysgol. 🎓

Darganfyddwch fwy yma: https://icc.gig.cymru/gwybodaeth-erthygl/brechlyn-menb-ar-gyfer-pobl-ifanc/

Cafodd mwy na 800 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â'r ffliw eu hatal yng Nghymru y gaeaf diwethaf diolch i f...
01/10/2026

Cafodd mwy na 800 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â'r ffliw eu hatal yng Nghymru y gaeaf diwethaf diolch i frechu arferol rhag y ffliw. 🛡️

Mae ein herthygl Substack newydd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu, pam y gall y ffliw fod yn ddifrifol i rai pobl, a phwy sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw y GIG am ddim yng Nghymru eleni. 📝

Darllen mwy 👇

Gan Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru

🗓️ Heddiw mae rhaglen frechu rhag y ffliw y GIG ar gyfer y gaeaf hwn yn cael ei lansio yng Nghymru.Amcangyfrifir bod bre...
01/10/2026

🗓️ Heddiw mae rhaglen frechu rhag y ffliw y GIG ar gyfer y gaeaf hwn yn cael ei lansio yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod brechu rhag y ffliw yn rheolaidd wedi atal mwy nag 800 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig â ffliw yng Nghymru y gaeaf diwethaf.

Os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cynnig y gaeaf hwn i helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol a gorfod mynd i’r ysbyty. 🛡️

Darllenwch mwy: https://icc.gig.cymru/2026/10/01/gwnaeth-brechiad-rhag-y-ffliw-atal-dros-800-o-dderbyniadau-ir-ysbyty-yng-nghymru-y-gaeaf-diwethaf/

Faint ar y rhestr allwch chi eu ticio? 👀Wrth i Wythnos y Glas ddechrau, cymerwch eiliad i feddwl am y camau y gallwch eu...
29/09/2026

Faint ar y rhestr allwch chi eu ticio? 👀

Wrth i Wythnos y Glas ddechrau, cymerwch eiliad i feddwl am y camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich iechyd a llesiant rhywiol.

P’un ai’n cael eich profi, defnyddio amddiffyniad, neu gael sgyrsiau agored, mae pob cam yn cyfrif. 🫶

💻 Rydym yn recriwtio: Swyddog Cynnyrch (Gwe)Ydych chi’n angerddol dros wella gwasanaethau digidol, deall anghenion defny...
28/09/2026

💻 Rydym yn recriwtio: Swyddog Cynnyrch (Gwe)

Ydych chi’n angerddol dros wella gwasanaethau digidol, deall anghenion defnyddwyr, defnyddio data a dadansoddeg, a chreu gwasanaethau gwe hygyrch sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr? Os felly, hoffem glywed gennych.

📍 Caerdydd
💼 Parhaol, llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
💷 £40,559 – £48,841 y flwyddyn
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol
📅 Dyddiad cau: 12 Hydref 2026

Gwnewch gais nawr: https://icc.gig.cymru/swyddi-gwag-cyfredol/ #!/job/UK/Cardiff/Cardiff/Public_Health_Wales_NHS_Trust/Communications/Communications-v8294790?_ts=310

Address

Pencadlys Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall
Cardiff
CF104BZ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+442920227744

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Iechyd Cyhoeddus Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Shortcuts

Share

Category