Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council

Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council Llanllawddog is a small rural community council in the County of Carmarthenshire

https://www.facebook.com/share/p/1Kh4Qqi9MD/
16/06/2026

https://www.facebook.com/share/p/1Kh4Qqi9MD/

Mae ein rhaglen torri glaswellt flynyddol bellach ar waith i sicrhau diogelwch ffyrdd a gwarchod pryfed peillio.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, bydd rhyw fetr o laswellt yn cael ei dorri lle mae twf yn effeithio ar ddiogelwch cerddwyr a'r gallu i weld yn glir. Bydd llawer o ardaloedd yn cael eu gadael heb eu torri tan yn ddiweddarach yn y tymor i ganiatáu i flodau gwyllt flodeuo a hadu, a hynny i warchod cynefinoedd pwysig a chefnogi bywyd gwyllt a phryfed peillio hanfodol.

Dim ond lle mae pryderon iechyd a diogelwch amlwg y bydd torri'n digwydd yn y mannau hyn, yn enwedig mewn parthau 20-40mya mewn trefi a phentrefi.

Nid yw hyn yn ymgais i leihau costau. Mae pryfed peillio yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal ecosystemau drwy alluogi planhigion gwyllt i atgenhedlu, sy'n sail i lawer o gynefinoedd. Maen nhw hefyd yn hanfodol i gynhyrchu amrywiaeth eang o gnydau.

Rhagor o wybodaeth - https://orlo.uk/X84kp

Dweud eich dweud - https://orlo.uk/DtHqE

BLITZ BALSAM LLANLLAWDDOG. 20 Mehefin 2026 9.00 YB tan 11.00 YB. Mae croeso cynnes i bawb sy'n ffansïo tynnu Jac y Neidi...
16/06/2026

BLITZ BALSAM LLANLLAWDDOG.

20 Mehefin 2026 9.00 YB tan 11.00 YB.

Mae croeso cynnes i bawb sy'n ffansïo tynnu Jac y Neidiwr ar hyd lonydd Llanllawddog.

Mae'r blodau pinc pert hyn yn edrych yn wych ond mae'n rywogaeth anfrodorol - wrth eu gadael i flodeuo a mynd i hâd, yna mae'r codennau hadau'n aeddfedu'n syth. Gallant ‘ping’ a anfon hadau hyd at 7 m i ffwrdd.

Gan fod pob planhigyn yn gallu cynhyrchu hyd at 2000 o hadau mae'n hawdd gweld pam ei fod yn rywogaeth ymledol iawn.

Er bod Jac y Neidiwr yn ddeniadol mae medru llethu ardal yn fuan, gan dagu rhywogaethau brodorol a chreu diwylliant mono.

Mae'n hynod o hawdd ei dynnu allan, ac rydym yn bwriadu gadael y planhigion ar y safle.

Rhoddir cyfarwyddiadau llawn, ynghyd â lluniaeth am ddim yn neuadd yr eglwys, Llanllawddog.

Edrychwn ymlaen at eich gweld gydag esgidiau a menig addas.

Cyfarfod yn llanllawddog, Neuadd yr Eglwys 9.00 YB.

BALSAM BLITZ LLANLLAWDDOG.

20 June 2026 9.00 am until 11.00 am.

There is a warm welcome to everyone who fancies pulling out Himalayan Balsam around the Church in Llanllawddog.

These pretty pink flowers that look, fabulous but are a non-native species and if left a flower and go to seed then the seed pods once ripened, ping and can send seeds up to 7 m away.

As each plant can produce up to 2000 seeds it is easy to see why it is a very invasive species.

Although attractive Himalayan Balsam soon swamps an area, choking native species and creating a mono culture.

It is extremely easy to pull out, and we intend leaving the plants on site.

Full instructions will be given, along with free refreshments at the church hall, Llanllawddog.

Looking forward to seeing you with suitable footwear and gloves.

Meet at Llanllawddog, Church Hall 9. 00am .







Fydd CRHFF Ysgol Cymunedol Peniel yn cynnal Ffair Haf at Ddydd Iau 25 Mehefin yn cychwyn am 3.30yp news bod 6.00yp. Mae ...
15/06/2026

Fydd CRHFF Ysgol Cymunedol Peniel yn cynnal Ffair Haf at Ddydd Iau 25 Mehefin yn cychwyn am 3.30yp news bod 6.00yp. Mae yna chroeso cynnes i bawb. Gwelwch y poster isod.

Peniel Community School PFA will be holding a Summer Fair on Thursday 25 June from 3.30pm until 6.00pm. There is a warm welcome for you all. Please see the poster below.

14/06/2026
“LC ac NC”English below .Diolch yn fawr iawn i Gyngor Sir Caerfyrddin am gytuno i dorri'n hwyr (“Late Cut”) neu ddim tor...
08/06/2026

“LC ac NC”

English below .

Diolch yn fawr iawn i Gyngor Sir Caerfyrddin am gytuno i dorri'n hwyr (“Late Cut”) neu ddim torri (“No Cut”)ar ochrau ffyrdd yn Llanllawdog.

Bydd gohirio torri i ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref yn amddiffyn ac yn gwella blodau gwyllt a phryfed peillio sy'n helpu bioamrywiaeth ledled Llanllawdog.

Mae toriad hwyrach yn caniatáu i fwy o rywogaethau planhigion ollwng eu hadau ac yn helpu i ddarparu cynefin i rywogaethau gwrychoedd eraill.

Mae'n gyfle enfawr i reoli ochrau ffyrdd yn fwy cydymdeimladol i helpu i wrthbwyso'r dirywiad o 97% mewn dolydd blodau gwyllt yn y DU ers y 1930au.

Efallai y bydd angen torri rhai ardaloedd fel cyffyrdd yn gynharach, a bydd hyn yn parhau os oes angen.

“LC and NC”.

A massive thank you To Cyngor Sir Gâr - Carmarthenshire County Council for agreeing to a
“Late Cut” or “No Cut”
of verges in Llanllawddog.

Delaying cutting to late summer or early autumn will conserve and enhance wild flowers and pollinating insects helping biodiversity throughout Llanllawddog.

A later cut allows more plant species to shed their seed and helps provide habitat for other hedgerow species.

There is a huge opportunity for verges to be managed more sympathetically to help compensate for the 97% reduction in UK wildflower meadows since the 1930s.

Some areas such as road junctions may need to be cut earlier, and this will continue if necessary.








Diffibriliwr newydd Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council sydd tu allan i Myrddin Garden Machinery ym Mhontarsai...
21/05/2026

Diffibriliwr newydd Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council sydd tu allan i Myrddin Garden Machinery ym Mhontarsais. Mae'r Cyngor Cymuned yn ddiolchgar i Brechfa Forest West Wind Farm Community Benefit Fund am ariannu'r Diffibriliwr. Yn y llun o'r chwith i'r dde mae Andrew Rees Clerc y Cyngor, Cynghorydd Steven Mason, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Adrian Munday, Coleg Hyfforddiant First Aid a chynrychiolydd o Myrddin Garden Machinery.

Llanllawddog Community Council has an additional Defibrillator situated on the wall outside Myrddin Garden Machinery in Pontarsais. The Council is very grateful to the Brechfa Forest West Community Fund for funding the new device. In the photo from left to right is Andrew Rees, Clerk to the Council, Councillor Steven Mason, Chairperson of the Council, Adrian Munday of the First Aid Training College and a representative of Myrddin Garden Machinery.

Robin goch yn mudo.Edrychwch yn ofalus a gallwch weld y fodrwy ar goes y Robin hwn. Yn aml yn cael eu hystyried fel adar...
14/05/2026

Robin goch yn mudo.

Edrychwch yn ofalus a gallwch weld y fodrwy ar goes y Robin hwn.

Yn aml yn cael eu hystyried fel adar gardd rheolaidd, mae llawer yn mudo. Bob hydref, mae robiniaid o ogledd a dwyrain Ewrop yn teithio i'r gorllewin i Brydain i ddianc rhag gaeafau caled.

Ar yr un pryd, mae rhai Robiniaid o Brydain yn symud i'r de neu i drefi. Mae'r mudo tymhorol hwn yn esbonio pam mae'r Robin goch yn fwy niferus yn y gaeaf a pham eu bod yn ffyrnig ar adegau wrth amddiffyn eu tiriogaethau pan fo newydd-ddyfodiaid yn cyrraedd.

A oedd yr aderyn hwn wedi'i fodrwyo'n lleol neu yn Ewrop?

Robin migration.

Look closely and you will see the ring on this Robin’s leg.

Often thought of as regular garden birds, many migrate. Each autumn,

Robins from northern and eastern Europe travel west to Britain to escape harsher winters.

At the same time, some British Robins move south or into towns.

This seasonal movement explains why Robins seem more numerous in winter and why individuals can be fiercely territorial when new arrivals appear.

Was this bird ringed locally or in Europe?

04/05/2026

Mae'n fis Mai Tyfu Nid Torri! 🌸🥳

Heddiw yw'r diwrnod – mae yma! Ydych chi'n barod i ddechrau eich ?

Helpwch natur a gadael i'ch lawnt dyfu y mis Mai hwn a thu hwnt. Byddwch yn rhoi achubiaeth i fywyd gwyllt yr un pryd ag arbed amser a lleihau eich ôl troed carbon.

A chofiwch, dim ond dechrau'r Mudiad Tyfu Nid Torri yw hyn. Gall gadael glaswellt a blodau gwyllt i dyfu trwy'r haf wneud gwahaniaeth enfawr i fioamrywiaeth a bywyd gwyllt lleol. 🦋

Gwnewch addewid heddiw i Dyfu Nid Torri ym mis Mai 👉 https://loom.ly/7TIuPKE

--------------------------------------------------------------------------

Today is the day - is here! Are you ready to start your ?

Help nature and let your lawn grow this May and beyond. You’ll be creating a buzzing lifeline for wildlife at the same time as saving time and reducing your carbon footprint.

And remember, this is just the beginning of the No Mow Movement. Leaving grass and wildflowers to grow through the summer can make a huge difference to biodiversity and local wildlife. 🦋

Make the No Mow May pledge today 👉 https://loom.ly/7TIuPKE

Ein criw ifanc gweithgar yn brysur planni yn ye ardal bioamrywiaeth ym Mharc y Rhyd. Rydym yn ddiolchgar i One Voice Wal...
23/04/2026

Ein criw ifanc gweithgar yn brysur planni yn ye ardal bioamrywiaeth ym Mharc y Rhyd. Rydym yn ddiolchgar i One Voice Wales - Un Llais Cymru am y prosiect bioamrywiaeth a Ariennir gan Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Some of our young people are busy planting in our biodiversity area at Parc y Rhyd. We are grateful to the help of Voice Wales funded by the Welsh Government

12/03/2026

Rydym yn gwneud gwaith hanfodol ar yr A485 yn Alltwalis y mis hwn, sef gosod wyneb ffordd newydd. I gwblhau'r gwaith yn ddiogel, bydd 170 metr o'r A485 - sydd wedi'i lleoli 1.1 cilomedr i'r de o'r gyffordd â'r B4459 ar gau dros nos am ddwy noson, o 6:40pm ar 12 Mawrth 2026 tan 6am ar 14 Mawrth 2026.

Yn ystod y dydd, bydd y ffordd yn ailagor o dan reolaeth goleuadau traffig un lôn, fel sydd ar waith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn caniatáu i draffig basio trwy Alltwalis cyn i'r gwaith ddechrau yn ystod y nos.

Tra bod y ffordd ar gau dros nos, bydd traffig yn dilyn llwybr dargyfeirio ag arwyddion drwy:

▪️ yr A485 i Lanllwni
▪️y B4336 i Landysul
▪️yr A486 i Bentre-cwrt
▪️yr A484 i Langwili
▪️gan ddychwelyd i'r A485 i Alltwalis.

Lle bo'n bosibl caniateir i gerddwyr gael mynediad i eiddo drwy gydol y cyfnod y bydd y gwaith yn cael ei wneud.

Rydym yn ddiolchgar i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd wrth i'r gwelliannau hanfodol hyn gael eu gwneud.

https://orlo.uk/uJHSR

Address

Carmarthen

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Cymuned Llanllawddog Community Council:

Share