06/09/2026
*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows
Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni rannu taith ysbrydoledig Finley wrth iddo hyfforddi i gyflawni her anhygoel ar gyfer elusen. Nawr, rydym wrth ein bodd yn dathlu ei gamp nodedig ar ôl iddo gwblhau camp anhygoel, sef nofio hyd marathon, neu 42 cilometr, ar ei ben ei hun yn Llys-y-frân!
Am gamp anhygoel, da iawn Finley! 👏
Dyma’r hyn oedd ganddo i'w ddweud am y profiad:
“Yn ddiweddar, cwblheais fy marathon ‘Fins Swim4Impact’ — heb os nac oni bai diwrnod anoddaf fy mywyd.
Bues i yn y dŵr am 13 awr, yn brwydro yn erbyn yr oerfel ac yn gwthio terfynau corfforol a meddyliol – roedd yn brawf go iawn o wydnwch. Roedd yna adegau pan oedd hi’n teimlo’n ddiddiwedd, ond roedd y gefnogaeth a’r achos yn fy ngwthio i rygnu ymlaen.
Yn y diwedd, roedd y cyfan yn werth chweil. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi codi bron i £6,000 ar gyfer Cancer Research UK ac UNICEF — dau achos anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Diolch i bawb a gefnogodd, a roddodd a***n, ac a ddilynodd y daith — fyddwn i ddim wedi gallu ei gwneud hebddoch chi.”
Mae Finley yn aelod o'n tîm achubwyr bywyd a hyfforddwyr nofio anhygoel yn Hamdden Sir Benfro, dysgwch fwy yn y sylwadau 👇
-
Earlier this year, we shared Finley’s inspiring journey as he trained for an incredible challenge for charity. We're now delighted to celebrate his remarkable achievement after he successfully completed an incredible 42km solo marathon swim at Llys y Fran!
An amazing accomplishment, well done Finley! 👏
Here's what he had to say about the experience:
“I recently completed my Fins Swim for Impact marathon — without a doubt the hardest day of my life.
13 hours in the water, battling the cold and pushing through both physical and mental limits, it was a real test of resilience. There were moments it felt endless, but the support and the cause kept me going.
In the end, it was all worth it. Together, we’ve raised almost £6,000 for Cancer Research UK and UNICEF — two incredible causes making a real difference.
Thank you to everyone who supported, donated, and followed the journey — I couldn’t have done it without you.”
Finley is a member of our amazing Lifeguard and Swim Instructor team at Pembrokeshire Leisure, find out more in the comments 👇