Heddlu Gwent

Heddlu Gwent Amddiffyn a Thawelu Meddwl. Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, anfonwch neges uniongyrchol neu ffoniwch 101.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich negeseuon uniongyrchol atom. Er hynny, mae ein canolfan gyswllt sy'n delio â galwadau 999 a 101 am help, yn cael cyfnodau prysur dros ben pan nad yw'n bosibl i ni ymateb yn gyflym i negeseuon uniongyrchol. Os nad ydych wedi derbyn ymateb i'ch neges uniongyrchol, ac yn pryderu am fater, ystyriwch ein ffonio yn lle hynny. Cofiwch ffonio 999 mewn argyfwng, 101 am unrhyw alwadau eraill. Mae galwadau i 101 yn costio 15c ni waeth beth fo hyd yr alwad.

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff benyw gael ei ddarganfod yn ardal Parc...
24/06/2026

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff benyw gael ei ddarganfod yn ardal Parc Dyffryn, Blaenau ddydd Llun 22 Mehefin, tua 10.10pm.

Mae’r bachgen, o ardal Blaenau Gwent, yn nalfa’r heddlu.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae teulu Lilly, 14 oed, yr oedd Heddlu Gwent wedi cael adroddiad ei bod ar goll, wedi cael ei hysbysu. Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cymorth i’w theulu.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas, yr uwch swyddog ymchwilio:

"Mae llawer o swyddogion heddlu yn yr ardal o hyd ac rydyn ni’n deall pryderon ein cymunedau ar yr adeg hon.

"Mae ein hymholiadau’n parhau i ddarganfod amgylchiadau’r farwolaeth ac mae un person yn cael ei gwestiynu yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

"Gofynnaf i unrhyw â gwybodaeth ddod i siarad â ni, gallwch wneud hynny yn y cnawd neu gallwch gysylltu â ni ar y sianeli arferol.

“Gofynnaf hefyd i bobl beidio â damcaniaethu ar-lein gan fod hwn yn ymchwiliad byw a gallai sylwadau o’r fath effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un sydd wedi cyflawni trosedd gerbron llys."

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu. Gallwch gysylltu â’r heddlu ar 101, gan grybwyll 2600197059, gallwch anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu X, neu ar-lein: https://orlo.uk/1J9Uv

Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ewch i www.crimestoppers-uk.org.

Rydyn ni wedi atgyfeirio’r digwyddiad hwn at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn unol â gweithdrefnau arferol.

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff benyw gael ei ddarganfod yn ardal Parc Dyffryn, Bla...
23/06/2026

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff benyw gael ei ddarganfod yn ardal Parc Dyffryn, Blaena ddydd Llun 22 Mehefin, tua 10.10pm.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae teulu Lilly, 14 oed, yr oedd Heddlu Gwent wedi cael adroddiad ei bod ar goll, wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas, yr uwch swyddog ymchwilio:

"Rydyn ni’n deall y bydd hyn yn achosi gofid a phryder i’n cymunedau.

"Mae llawer o heddlu yn yr ardal ar hyn o bryd wrth i ymholiadau barhau i ddarganfod amgylchiadau’r farwolaeth. Mae ein swyddogion yma ac maen nhw ar gael i chi siarad â nhw.

"Gofynnwn i unrhyw un â gwybodaeth ddod i siarad â ni, neu gallwch gysylltu â ni trwy gyfrwng y sianeli arferol."

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu. Gallwch gysylltu â’r heddlu ar 101, gan grybwyll 2600197059, gallwch anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu X, neu ar-lein: https://orlo.uk/RDWAh

Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ewch i www.crimestoppers-uk.org.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️🚨 Mae'r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdraw...
23/06/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️

🚨 Mae'r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar .🚨

Heol Caerllion, Llanfrechfa. Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd rhwng yr Ysbyty a'r A4042

Ceisiwch osgoi’r ardal a defnyddiwch ffyrdd eraill.

Diolch.

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️ℹ Mae'r gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad ar B4245 Caldicot Bypass ac mae'r ffordd ar gau ar ...
22/06/2026

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️

ℹ Mae'r gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad ar B4245 Caldicot Bypass ac mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd ℹ

Mae dargyfeiriadau ar waith a allai achosi tagfeydd

Osgowch yr ardal os yn bosibl a dod o hyd i lwybrau amgen ar gyfer eich taith.

Diolch.

☀️ Mae’r haf wedi cyrraedd go iawn ac mae ein swyddogion wedi bod allan mewn digwyddiadau dros y penwythnos. 👮‍♂️👮‍♀️Aet...
22/06/2026

☀️ Mae’r haf wedi cyrraedd go iawn ac mae ein swyddogion wedi bod allan mewn digwyddiadau dros y penwythnos.

👮‍♂️👮‍♀️Aeth swyddogion i wahanol ddigwyddiadau haf i roi cyngor atal troseddu, cofrestru pobl ar gyfer Materion Cymdogaeth – ein gwasanaeth negeseuon ac ymgysylltu ar gyfer y gymuned, dangos peth o’n cyfarpar... a mwynhau cwmni rhai o’n ffrindiau blewog 🦙

Dyma rai lluniau ohonynt.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️🚨 Mae'r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdraw...
21/06/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️

🚨 Mae'r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar A4048 Tredegar. 🚨

Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae traffig yn cael ei wyro, a all achosi tagfeydd.

Ceisiwch osgoi’r ardal a defnyddiwch ffyrdd eraill.

Diolch.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️🚨 Mae’r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdraw...
21/06/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️

🚨 Mae’r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdrawiad traffig llangynidr Road, Ebbwvale. 🚨

Mae traffig yn cael ei ailgyfeirio a allai achosi tagfeydd.

Ceisiwch osgoi’r ardal os yn bosibl a defnyddiwch ffyrdd eraill.

Diolch.

👨‍👦 Beth mae Sul y Tadau’n ei olygu i chi? Heddiw rydyn ni’n dathlu pob tad, a ffigwr tadol, sy’n cynghori, cefnogi a he...
21/06/2026

👨‍👦 Beth mae Sul y Tadau’n ei olygu i chi?

Heddiw rydyn ni’n dathlu pob tad, a ffigwr tadol, sy’n cynghori, cefnogi a helpu pobl yn ein cymunedau. 👪

Diolch am bopeth rydych yn ei wneud – rydyn ni’n falch ohonoch chi! 💙

Mae ein swyddogion plismona ffyrdd wedi bod yn brysur yn ddiweddar tra oedden nhw ar ddyletswydd gwnaethant ddod o hyd i...
21/06/2026

Mae ein swyddogion plismona ffyrdd wedi bod yn brysur yn ddiweddar tra oedden nhw ar ddyletswydd gwnaethant ddod o hyd i 3️⃣ o gerbydau a oedd wedi cael eu dwyn o gwmpas Casnewydd 😮‍💨


❗ Roedd y VW Golf yma wedi cael ei barcio yng Nghaerllion ac roedd ganddo blatiau ffug.

🔍 Cadarnhaodd archwiliad o’r cerbyd ei fod wedi cael ei ddwyn o ardal Avon a Gwlad yr Haf.

🤝 Cafodd y cerbyd ei adfeddu i gael ei archwilio’n fforensig a throsglwyddwyd ef i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar gyfer ymholiadau pellach.



❗ Gwrthododd yr Audi A3 yma stopio i swyddogion yn Nyffryn.

🦔 Ar ôl ei ymlid, defnyddiodd swyddogion y gadwyn bigog.

🚙 Daethpwyd o hyd i’r cerbyd yn nes ymlaen wedi ei adael ym Maesglas.

🔍 Cadarnhaodd archwiliad o’r cerbyd ei fod wedi cael ei ddwyn o ardal Surrey.

🤝 Cafodd y cerbyd ei adfeddu i gael ei archwilio’n fforensig a throsglwyddwyd ef i Heddlu Surrey ar gyfer ymholiadau pellach.



❗ Cafodd y Fiat 500 yma ei ddwyn o ardal Casnewydd ac fe’i gwelwyd ar gylchfan Coldra.

🦔 Dilynodd swyddogion ef a defnyddio cadwyn bigog.

🙃 Wedyn collwyd rheolaeth ar y car ac ar ôl iddo stopio rhedodd y drwgweithredwyr i ffwrdd.

🏃🏻 Roedd y teithiwr yn ansicr ar ei draed a chafodd ei ddal yn gyflym.

🍁 Roedd ganddo ychydig o ganabis yn ei feddiant a bydd yn cael ei gyfweld yn y dyfodol agos.

🔍 Mae ymholiadau’n parhau i ddod o hyd i’r gyrrwr.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ardal wedi cael ei chlirio yn awr ‼❌ Ceisiwch osgoi’r ardal ❌ℹ Mae’r Pentre Farm Road ar gau ar hy...
20/06/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ardal wedi cael ei chlirio yn awr ‼

❌ Ceisiwch osgoi’r ardal ❌

ℹ Mae’r Pentre Farm Road ar gau ar hyn o bryd oherwydd cerbyd wedi torri i lawr. ℹ

Ceisiwch osgoi’r ardal os yn bosibl a defnyddiwch lwybrau eraill ar gyfer eich taith.

Diolch.

Address

Parc Ffordd Llantarnam
Cwmbran
NP443FW

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Heddlu Gwent posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Heddlu Gwent:

Share