27/11/2024
Annwyl riant,
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth bob wythnos. Mae ar gael i rieni cymwys plant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn.
Mae'r ffordd y mae rhieni yn mewngofnodi i'w cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru yn newid. Rydym am sicrhau nad yw'r newid hwn yn achosi unrhyw broblemau i rieni sy'n cofrestru ar gyfer y Cynnig.
Newidiadau i'r ffordd mae rhieni'n mewngofnodi
Mae rhieni sy'n derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru ar hyn o bryd yn defnyddio Porth y Llywodraeth i fewngofnodi i'w cyfrif. Bydd gwasanaeth dilysu newydd - GOV.UK One Login - yn disodli Porth y Llywodraeth y flwyddyn nesaf. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd angen i rieni ddefnyddio GOV.UK One Login pan fyddant yn mewngofnodi i'w cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru. Bydd angen i rieni newydd sy'n gwneud cais am y Cynnig am y tro cyntaf hefyd ddefnyddio GOV.UK One Login yn hytrach na Phorth y Llywodraeth.
Gallwch ddysgu mwy am GOV.UK One Login yn: https://www.gov.uk/defnyddio-eich-gov-uk-one-login
Sesiynau ymchwil ar-lein
Hoffem roi gwahoddiad i chi brofi GOV.UK One Login ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru mewn sesiwn ymchwil ar-lein.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn gofyn sut y byddech chi'n defnyddio'r gwasanaeth ar-lein a'ch anghenion. Bydd eich barn a'ch profiadau yn ein helpu i ddatblygu gwasanaeth mewngofnodi sy'n gweithio i bawb. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal ar Microsoft Teams a byddwn yn anfon cyfarwyddiadau atoch er mwyn i chi allu cymryd rhan. Ni fydd y sesiynau yn hirach na 45 munud.
Rydym yn bwriadu cynnal y sesiynau yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.
Gallwch ddewis i ddod i sesiwn:
• yn ystod y bore
• yn ystod y prynhawn
• yn gynnar gyda'r nos
Ymuno â sesiwn ymchwil
Os ydych chi'n barod i gymryd rhan yn ein hymchwil, anfonwch neges at [email protected] gan gadarnhau nad ydych erioed wedi derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru, a gan nodi eich dewisiadau o ran:
• amser
• iaith y sesiwn (Cymraeg neu Saesneg)
• dyfais y byddwch yn ei defnyddio i ymuno â'r sesiwn (gliniadur, llechen neu ffôn symudol)
Yna byddwn yn cysylltu â chi i drafod y trefniadau.
Preifatrwydd data
Mae cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Gallwch ddarllen am sut y byddwn yn defnyddio unrhyw ddata a gasglwn yn ystod ein hymchwil yn yr hysbysiad preifatrwydd yn:https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-hysbysiad-preifatrwydd-ymchwil-defnyddiwr-one-login.
Os oes arnoch angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni ar [email protected].
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mewngofnodwch i'ch GOV.UK One Login i newid eich manylion. Gweler yr holl wasanaethau y gallwch eu cyrchu gyda GOV.UK One Login a sut i brofi eich hunaniaeth gydag ef.