Cyngor Sir Penfro

Call Directions Website Contact the organisation

Cyngor Sir Penfro Tudalen Gweplyfr Swyddogol Cyngor Sir Penfro

This service is also available in English

Facebook.com/PembrokeshireCountyCouncil

Y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf un gan Gyngor Sir Penfro

This service is also available in English Facebook.com/PembrokeshireCountyCouncil

Mae Cyngor Sir Penfro yn atgoffa unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau lletya cŵn yn eu cartref neu wasanaethau gofal dydd...
12/10/2026

Mae Cyngor Sir Penfro yn atgoffa unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau lletya cŵn yn eu cartref neu wasanaethau gofal dydd i gŵn am dâl y bydd angen trwydded arnynt gan eu hawdurdod lleol.

Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n hysbysebu trwy wefannau fel Rover, y cyfryngau cymdeithasol, neu sianeli anffurfiol eraill.

Mae lletya cŵn yn y cartref yn golygu gofalu amdanynt mewn lleoliad domestig yn hytrach na mewn cytiau cŵn.

Er bod cyfryngau ar-lein wedi ei gwneud yn haws i berchnogion anifeiliaid anwes ddod o hyd i ofalwyr, rhaid i unrhyw un sy'n gweithredu busnes lletya cŵn neu ofal dydd gydymffurfio â gofynion lles anifeiliaid a thrwyddedu.

Rhaid i weithredwyr trwyddedig fodloni safonau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu lles anifeiliaid.

Mae Cyngor Sir Penfro yn atgoffa unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau lletya cŵn yn eu cartref neu wasanaethau gofal dydd i gŵn am dâl y bydd angen trwydded arnynt gan eu hawdurdod lleol.

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.Mynd i’r afael â’r broblem barhaus o nodwyddau hypodermig sy’n cael...
12/10/2026

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.

Mynd i’r afael â’r broblem barhaus o nodwyddau hypodermig sy’n cael eu taflu yng Nghil-maen

Dyddiad cau: 09/12/2026

Darganfyddwch fwy yma a dilynwch y camau isod: https://orlo.uk/eC6cM
• Cliciwch ‘arwyddo deiseb ar-lein’
• Dewiswch deitl y ddeiseb yr ydych am ei harwyddo
• Cliciwch ar ‘Mewngofnodi neu gofrestru a llofnodi’r eDdeiseb’
Sylwer: os nad ydych chi wedi defnyddio’r system hon i ddechrau neu lofnodi deiseb eisoes, bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd i gael mynediad i wneud hynny. Nid yw’r system hon wedi ei chysylltu â’r system ‘Fy Nghyfrif’ felly bydd angen mewngofnodi o’r newydd.

Mae enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2026! 🌟 Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn dathlu ac yn...
11/10/2026

Mae enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2026! 🌟
Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn dathlu ac yn cydnabod plant a phobl ifanc sy'n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.
A ydych chi'n adnabod person ifanc neu grŵp sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau rhagorol? Dyma’ch cyfle i daflu sbotolau arnyn nhw.
🏆 Mae enwebiadau ar agor ar draws 11 categori gwobrwyo ✅ Gellir enwebu unigolion a grwpiau ✅ Gall unrhyw un gyflwyno enwebiad ✅ Croesewir hunan-enwebiadau
📅 Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 23 Tachwedd 2026.
Mae'r gwobrau'n bosibl diolch i nawdd hael BAM Nuttall ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy'n cefnogi'r fenter ar y cyd hon gan y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Ieuenctid Sir Benfro a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro.
Helpwch ni i ddathlu cyflawniadau ysbrydoledig pobl ifanc Sir Benfro drwy gyflwyno eich enwebiad heddiw.
https://orlo.uk/gc4F4

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.Creu maes chwarae newydd ar y tir rhwng Tenby Court a Long Mains, C...
11/10/2026

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.

Creu maes chwarae newydd ar y tir rhwng Tenby Court a Long Mains, Cil-maen

Dyddiad cau: 09/12/2026

Darganfyddwch fwy yma a dilynwch y camau isod: https://orlo.uk/xkSYz
• Cliciwch ‘arwyddo deiseb ar-lein’
• Dewiswch deitl y ddeiseb yr ydych am ei harwyddo
• Cliciwch ar ‘Mewngofnodi neu gofrestru a llofnodi’r eDdeiseb’
Sylwer: os nad ydych chi wedi defnyddio’r system hon i ddechrau neu lofnodi deiseb eisoes, bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd i gael mynediad i wneud hynny. Nid yw’r system hon wedi ei chysylltu â’r system ‘Fy Nghyfrif’ felly bydd angen mewngofnodi o’r newydd.

Eisiau cymryd rhan mewn democratiaeth leol? Edrychwch ar ein tudalen we isod i ddysgu popeth am sut i gyflwyno cwestiyna...
11/10/2026

Eisiau cymryd rhan mewn democratiaeth leol? Edrychwch ar ein tudalen we isod i ddysgu popeth am sut i gyflwyno cwestiynau a phynciau a sut i gael pobl i wrando ar eich barn!

https://orlo.uk/CvmCe

Mae cyfnod o gau ffordd wedi'i gynllunio ar gyfer bore yfory (Dydd Sul) yn Frances Lane, Saundersfoot, rhwng 7yb a 10yb,...
10/10/2026

Mae cyfnod o gau ffordd wedi'i gynllunio ar gyfer bore yfory (Dydd Sul) yn Frances Lane, Saundersfoot, rhwng 7yb a 10yb, yn amodol ar y tywydd.

Bydd angen i rai cerbydau symud o'r mannau parcio yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn.

Gallai fod oedi byr yn yr ardal; defnyddiwch lwybrau eraill lle bo modd.

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.Ailosod biniau baw cŵn yn MonktonDyddiad cau: 09/12/2026Darganfyddw...
10/10/2026

Hysbysiad o ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Penfro.

Ailosod biniau baw cŵn yn Monkton

Dyddiad cau: 09/12/2026

Darganfyddwch fwy yma a dilynwch y camau isod: https://orlo.uk/bo14G

• Cliciwch ‘arwyddo deiseb ar-lein’
• Dewiswch deitl y ddeiseb yr ydych am ei harwyddo
• Cliciwch ar ‘Mewngofnodi neu gofrestru a llofnodi’r eDdeiseb’
Sylwer: os nad ydych chi wedi defnyddio’r system hon i ddechrau neu lofnodi deiseb eisoes, bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd i gael mynediad i wneud hynny. Nid yw’r system hon wedi ei chysylltu â’r system ‘Fy Nghyfrif’ felly bydd angen mewngofnodi o’r newydd.

🍃 Ymunwch â'n Tîm Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol! 🚛 Ydych chi'n chwilio am gyfle gyrfa newydd neu waith ychwaneg...
10/10/2026

🍃 Ymunwch â'n Tîm Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol! 🚛

Ydych chi'n chwilio am gyfle gyrfa newydd neu waith ychwanegol dros gyfnod y Nadolig? Dewch i'n Noson Agored Recriwtio Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael o fewn y gwasanaeth.

📅 Dyddiad: Dydd Llun 19 Hydref 2026
⏰ Amser: 4:00pm - 7:00pm
📍 Lleoliad: Parc Eco Sir Benfro, Ffordd Ancoed, Robeston West, Aberdaugleddau, SA73 3FB

Mae cyfleoedd posibl yn y dyfodol yn cynnwys:
✅ Cynghorydd Gwastraff
✅ Gweinyddwr Swyddfa
✅ Llwythwyr Criw
✅ Gyrwyr Criw
✅ Gweithredwr Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff


🎄 Bydd gwybodaeth hefyd ar gael am gyfleoedd gwaith tymhorol dros gyfnod y Nadolig, sy'n ddelfrydol i fyfyrwyr, unigolion sy'n chwilio am incwm ychwanegol dros yr ŵyl, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith hyblyg.

Dewch draw i:
✔ Gwrdd â'r tîm
✔ Ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael
✔ Darganfod mwy am gyflog, pensiwn a buddion gweithwyr
✔ Cael cymorth gyda cheisiadau
✔ Gofyn cwestiynau am weithio yn y Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol

Nid oes angen archebu - galwch heibio a dweud helo!

📞 01437 776358
📧 [email protected]

♻️ Swyddi go iawn. Effaith go iawn. Helpwch ni i greu Sir Benfro lanach a gwyrddach.

Dechreuwch eich gyrfa AD gyda ni!Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Gweinyddwr Adnoddau Dynol – Ymuno â’r Gweithlu (Onboa...
09/10/2026

Dechreuwch eich gyrfa AD gyda ni!

Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Gweinyddwr Adnoddau Dynol – Ymuno â’r Gweithlu (Onboarding).

✅ Gradd 5: £27,709 – £28,608
✅ Parhaol | 37 awr yr wythnos
✅ Cyfle i ddatblygu i Radd 6: £29,071 – £32,046 (yn amodol ar gyflawni’r cymwyseddau gofynnol)

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu gweithwyr newydd i ddechrau eu gyrfa, gan gefnogi gwasanaethau ar draws y Cyngor. Mae’r rôl yn cynnig cyfle i ddatblygu arbenigedd ym maes onboarding, gweithio mewn tîm cydweithredol, a manteisio ar drefniadau gweithio hyblyg a hybrid ynghyd ag ystod ardderchog o fuddion gweithwyr.

Os ydych yn drefnus, yn gywir, yn canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa ym maes AD, hoffem glywed gennych.

🔗 Dysgwch fwy a gwnewch gais yma: https://orlo.uk/sENPr

Dyddiad cau: 13 Hydref 2026

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi’n cynnal gwiriad gwelliant ar ein gwasanaethau cymdeithasol a byddem yn croesawu...
09/10/2026

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi’n cynnal gwiriad gwelliant ar ein gwasanaethau cymdeithasol a byddem yn croesawu eich barn am ba mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi pobl.

Mae eich sylwadau yn gyfrinachol, ond mae'n bosibl y cânt eu defnyddio i roi adborth i'r awdurdod lleol.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau'r arolwg hwn. Os byddai'n well gennych siarad â nhw ni am eich adborth, ffoniwch ni ar 0300 7900 126 neu e-bostiwch [email protected]

Archwiliad Gwelliant - Arolwg Pobl - 2026/27 - https://orlo.uk/5k5Uk
Arolwl Pobl Hawdd ei Ddarlen - Archwiliad Gwelliant - https://orlo.uk/AjXAX

Mae gennych hyd at 2 Tachwedd (4.00pm) i gyflwyno eich adborth.

Caiff gwybodaeth am unrhyw faterion diogelu ei datgelu i'r awdurdod lleol.

Address

Neuadd Y Sir
Hwlffordd
SA611TP

Opening Hours

Monday 8am - 6pm
Tuesday 8am - 6pm
Wednesday 8am - 6pm
Thursday 8am - 6pm
Friday 8am - 6pm
Saturday 9am - 12pm

Telephone

+441437764551

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Sir Penfro posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Sir Penfro:

Shortcuts

Share