13/06/2026
🚨 May was another busy month for the team, with 48 incidents requiring our assistance, resulting in 34 full team deployments - an increase of 13% compared to the same period last year.
Our busiest day was Saturday, accounting for 18 callouts, and the Llanberis Path remained the location where we were called most frequently.
The most common contributing factors to incidents were tiredness, lack of fitness for the route being attempted, and poor decision-making.
As we head into the busy summer season, please take time to plan ahead. Research your route, understand the terrain and distance involved, check the weather forecast, carry the right equipment, and be honest about whether you and your group are fit enough for the challenge. Good preparation can make all the difference.
We would also like to thank our colleagues at HM Coastguard for their continued support. During May, seven casualties required air extraction, and their assistance was invaluable in helping us bring people to safety.
————
🚨 Bu mis Mai yn fis prysur arall i’r tîm, gyda 48 o ddigwyddiadau angen ein cymorth, gan arwain at anfon y tîm llawn allan 34 o weithiau - cynnydd o 13% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Ein diwrnod prysuraf oedd dydd Sadwrn, oedd yn cynnwys 18 o alwadau, ac mae Llwybr Llanberis yn parhau i fod y lleoliad lle cawsom ein galw amlaf.
Y ffactorau mwyaf cyffredin oedd yn cyfrannu at y digwyddiadau oedd blinder, diffyg ffitrwydd ar gyfer y llwybr oedd yn cael ei gerdded, a gwneud penderfyniadau gwael.
Ar drothwy tymor prysur yr haf, sicrhewch eich bod yn cynllunio’n ofalus. Gwnewch waith ymchwil ar eich llwybr, dewch i ddeall y tir a’r pellter sydd o’ch blaen, gwiriwch ragolygon y tywydd, cariwch yr offer cywir, a byddwch yn onest ynghylch a ydych chi a’ch grŵp yn ddigon ffit ar gyfer yr her. Gall paratoi’n dda wneud gwahaniaeth mawr.
Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr, Gwylwyr y Glannau EF, hefyd am eu cefnogaeth barhaus. Yn ystod mis Mai, roedd angen cludiant awyr ar saith o bobl oedd wedi’u hanafu, ac roedd eu cymorth yn amhrisiadwy yn ein helpu i gludo pobl yn ôl yn ddiogel.