Cymorth Busnes Conwy

Cymorth Busnes Conwy Gwasanaeth am ddim, di-duedd gan eich cefnogi a’ch cyfeirio at y cyngor a’r wybodaeth berthnasol.

Rhaglen digwyddiadau ymgynghori'r Ardoll YmwelwyrAr 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoe...
05/06/2026

Rhaglen digwyddiadau ymgynghori'r Ardoll Ymwelwyr

Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.

Mae'r ymgynghoriad yn agored i holl drigolion, ymwelwyr a busnesau Conwy a byddem yn eich annog i gymryd rhan a'i hyrwyddo'n eang yn eich ardaloedd lleol. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor: https://bit.ly/4uzg8e7

Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio wedi'u trefnu i roi cyfle i fusnesau, ymwelwyr a thrigolion glywed mwy am y broses ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb os yw'n well ganddynt.

Yn dilyn diddordeb cryf, rydym wedi ychwanegu gweminar ar-lein ychwanegol at raglen digwyddiadau ymgynghori'r Ardoll Ymwelwyr. Er y bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth sydd mwyaf perthnasol i'r sector twristiaeth a lletygarwch, bydd hefyd yn cynnwys eitemau o ddiddordeb i breswylwyr ac ymwelwyr ledled Sir Conwy.

GWEMINAR AR-LEIN

Dydd Iau 11th Mehefin 2026, 6.30pm - ar-lein (Zoom)

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn yma - https://bit.ly/4e1r11b

WYNEB YN WYNEB

Dydd Iau 16th Mehefin 2026 – Maen Alaw Penmaenmawr Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr ym Mhenmaenmawr / Llanfairfechan.

Dydd Mercher 17 Mehefin 2026 – Canolfan Ddiwylliant Conwy Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yng Nghonwy / Deganwy / Llandudno.

• Dydd Iau 18 Mehefin 2026 – Neuadd y Dref Cyngor Tref Bae Colwyn Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr ym Mae Colwyn / Llandrillo-yn-Môr.

• Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 – Neuadd Goffa Betws y Coed Sesiwn sy'n canolbwyntio ar letygarwch ar gyfer busnesau gwledig.

• Dydd Iau 25 Mehefin 2026 – Canolfan Gymunedol Towyn Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yn Abergele / Bae Cinmel / Towyn.

Gallwch gofrestru eich presenoldeb drwy glicio ar y ddolen isod: https://bit.ly/3PGCk6P

Grantiau Busnes Fferm Wynt Coedwig ClocaenogRydym yn derbyn ceisiadau busnes 2026 rŵan!Mae FfWCC yn hapus i gyhoeddi fod...
03/06/2026

Grantiau Busnes Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Rydym yn derbyn ceisiadau busnes 2026 rŵan!

Mae FfWCC yn hapus i gyhoeddi fod y gronfa fusnes ar gyfer 2026 nawr ar agor ar gyfer busnesau sydd wedi eu cofrestru o fewn ardal fudd Clocaenog.

Gallwch lawrlwytho’r canllawiau a’r ffurflen YMA - https://bit.ly/4nN0wkF

OND cofiwch ddarllen y canllawiau yn ofalus, a cysylltwch os ydych eisiau trafod eich prosiect cyn ymgeisio [email protected]

Mae dyddiad cau ceisiadau busnes Dydd Llun, 13 Gorffennaf am 5pm

Bydd y panel yn cyfarfod i drafod eich ceisiadau mis Hydref 2026 ac felly dyddiad cynharaf gall eich prosiect gychwyn yw Tachwedd 2026

Galwad cyntaf 2026/27 am geisiadau ar gyfer gyllideb o dan Gronfa Datblygu Eiddo MasnacholRydym wedi sicrhau cyllid gan ...
01/06/2026

Galwad cyntaf 2026/27 am geisiadau ar gyfer gyllideb o dan
Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele & Pensarn, a Llandudno.

Mae’r GDEM yn cynnig cefnogaeth i feddianwyr, tenantiaid, a pherchnogion adeiladau manwerthu a masnachol ym Mae Colwyn, Abergele & Pensarn, a Llandudno. Gellir defnyddio’r grant i wella blaen adeiladau, ac yn fewnol i droi gofodau masnachol gwag yn ofodau busnes buddiol unwaith eto ac i roi pwrpas newydd i eiddo ble’n briodol.

Bydd grantiau o 70% ar gael o Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru tuag at waith mewnol ac allanol cymwys yn cael eu hystyried (hyd at uchafswm o £50k).

Beth fydd y grant yn ei gefnogi

Gall defnyddio'r gyllideb er mwyn:

· gwella a datblygu blaen adeiladau

· troi gofodau masnachol gwag yn ofodau busnes buddiol unwaith eto

· rhoi pwrpas newydd i eiddo ble’n briodol (e.e. masnachol, swyddfeydd, bwyd & diod)

Gofynnir i chi gysylltu ag aelod o'r tîm i drafod eich prosiect a'i chymhwyster cyn ymgeisio ar gyfer y cynllun grant yma.

Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: [email protected]

Wedi cadarnhau’r dyfarniad bydd yn rhaid i’r holl gynigion fod wedi’u derbyn a’r a***n wedi’i hawlio erbyn 26 Chwefror 2027 fan bellaf.

Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol - https://bit.ly/4diB55s

MI FYDD Y GRONFA YN CAU AR GYFER UNRHYW GEISIADAU NEWYDD AM 12PM DDYDD IAU,  4YDD O FEHEFIN Grant Busnes Cronfa Balchder...
30/05/2026

MI FYDD Y GRONFA YN CAU AR GYFER UNRHYW GEISIADAU NEWYDD AM 12PM DDYDD IAU, 4YDD O FEHEFIN

Grant Busnes Cronfa Balchder Bro Conwy
Mae’r prosiect hwn wedi’i a***nnu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU

Bydd Cronfa Effaith Balchder Bro yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer gwelliannau uniongyrchol i sicrhau bod mannau a lleoedd a gaiff eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu gwella.

Mae Amcan cyffredinol y Gronfa wedi’i ddylunio i gryfhau cymunedau, meithrin balchder a chreu sylfeini ar gyfer twf economaidd:

Am ragor o wybodaeth, ewch I

Pride in Place Impact Fund: prospectus - GOV.UK - https://bit.ly/4t0H0CV

Ar hyn o bryd dim ond gan Fusnesau yn ardaloedd siopa craidd / canolfannau masnachol y trefi canlynol y gellir derbyn ceisiadau

· Llanfairfechan
· Penmaenmawr
· Conwy
· Cyffordd Llandudno
· Deganwy
· Llandudno a Craig y Don
· Rhos on Sea
· Bae Colwyn
· Hen Colwyn
· Llanrwst
· Abergele a Phensarn,
· Bae Kinmel a Towyn

Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 70% ar wa***nt cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £25,000 yn cael eu cynnig.

Bydd grant Busnes Cronfa Balchder Bro yn galluogi darparu grantiau i fusnesau masnachol neu gymdeithasol lleol (pan fo gweithgarwch masnachol) sydd yn: -

• gobeithio sicrhau bod eiddo masnachol gwag yn cael eu defnyddio eto ac/neu

• gobeithio cyflwyno technoleg carbon isel i’w heiddo busnes, yn benodol ynni solar, system wresogi carbon isel, mannau gwefru cerbydau trydan a goleuadau LED

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 3 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.

Mae’r cynllun wedi’i dargedu at fentrau bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) gydag un ai trosiant o lai na €50 miliwn neu fantolen lai na €43 miliwn

Cyn cyflwyno cais, gofynnir i chi siarad ag aelod o dîm Cymorth i Fusnesau Conwy.

Afonwch ebost i [email protected]

Digwyddiadau ymgynghori ardoll ymwelwyr2 Mehefin - 25 MehefinMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau eich barn ar y po...
29/05/2026

Digwyddiadau ymgynghori ardoll ymwelwyr
2 Mehefin - 25 Mehefin

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau eich barn ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar bob arhosiad dros nos cymwys.

Agorodd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20fed o Fai 2026 ac mae ar agor i bob preswylydd, ymwelydd a busnes yng Nghonwy. Byddem yn eich annog i gymryd rhan a'i hyrwyddo'n eang yn eich ardaloedd lleol. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio wedi'u trefnu i roi cyfle i fusnesau, ymwelwyr a thrigolion glywed mwy am y broses ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb os yw'n well ganddynt.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn y llefydd canlynol.Dewiswch sesiwn, a gadewch i ni wybod os ydych yn dod drwy gadw eich lle drwy Eventbrite os gwelwch yn dda: https://bit.ly/3PGCk6P

• Dydd Mawrth 2 Mehefin 2026 – Sesiwn sy'n canolbwyntio ar groeso ar gyfer busnesau arfordirol.

• Dydd Iau 4 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr yn Llanrwst.

• Dydd Mawrth 16 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio ar gyfer busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr ym Mhenmaenmawr / Llanfairfechan.

• Dydd Mercher 17 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yng Nghonwy / Deganwy / Llandudno.

• Dydd Iau 18 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr ym Mae Colwyn / Llandrillo-yn-Môr.

• Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 - Sesiwn sy'n canolbwyntio ar letygarwch ar gyfer busnesau gwledig.

• Dydd Iau 25 Mehefin 2026 – Sesiwn galw heibio i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr yn Abergele / Bae Cinmel / Towyn.

Byddem yn eich annog i ddod i un o'r digwyddiadau i gael gwybod mwy ac i rannu eich barn.

Ardoll Ymwelwyr YmgynghoriadAr 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwyd...
27/05/2026

Ardoll Ymwelwyr Ymgynghoriad
Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd y Cyngor symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.

Mae'r ymgynghoriad ar agor i holl drigolion, ymwelwyr a busnesau Conwy a byddem yn eich annog i gymryd rhan a'i hyrwyddo'n eang yn eich ardaloedd lleol. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.

Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor:
https://bit.ly/4uzg8e7

Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, Llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.

Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu ar hyn o bryd, gyda'r digwyddiad cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 2 Mehefin 2026.

Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy glicio ar y ddolen hon:

https://bit.ly/4e4W9Oj

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer yr ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr. Bydd manylion digwyddiadau eraill yn dilyn yn fuan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad, cysylltwch â: [email protected]

Digwyddiad Busnes Mawr Gogledd CymruVenue Cymru, Llandudno ddydd Gwener 5 Mehefin, o 9am i 4pmGan ddod â busnesau, sefyd...
25/05/2026

Digwyddiad Busnes Mawr Gogledd Cymru

Venue Cymru, Llandudno ddydd Gwener 5 Mehefin, o 9am i 4pm

Gan ddod â busnesau, sefydliadau, entrepreneuriaid, buddsoddwyr, cyflogwyr, graddedigion, pobl sy'n gadael yr ysgol, ceiswyr gwaith a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o'r rhanbarth ynghyd ar gyfer yr hyn a fydd yn ddigwyddiad busnes mwyaf Gogledd Cymru.

Gyda dros 10,000 metr sgwâr o ofod arddangos ar draws 10 parth, mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i arddangos cyfleoedd, arloesedd, buddsoddiad, sgiliau, twf a chydweithio ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.

P'un a ydych chi'n fusnes sefydledig, yn fusnes newydd, yn fyfyriwr, yn geisiwr gwaith, yn fuddsoddwr, neu'n syml yn edrych i wneud cysylltiadau newydd, mae Busnes Mawr Gogledd Cymru ar agor i bawb — heb unrhyw gyfyngiadau ar bwy all fynychu.

Mae hwn yn gyfle unigryw i gwrdd â phobl na fyddech chi byth yn cwrdd â nhw fel arall, darganfod cyfleoedd newydd, a chael cipolwg gwerthfawr ar ddyfodol busnes yn y rhanbarth.

Rydym yn disgwyl dros 3,000 o fynychwyr drwy gydol y dydd, gyda rhaglen wych wedi'i chynllunio ledled y lleoliad.

Pam mynychu Busnes Mawr Gogledd Cymru?

Cwrdd a chysylltu â busnesau, sefydliadau a gwneuthurwyr penderfyniadau o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt
Darganfod cyfleoedd cyllido, cefnogaeth, buddsoddi, recriwtio a thwf
Archwiliwch 10 parth pwrpasol sy'n cwmpasu diwydiannau allweddol a chyfleoedd yn y dyfodol
Adeiladu perthnasoedd, codi eich proffil, a datgelu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio

Mae archebu'n hanfodol ond mae'n rhad ac am ddim.

3000 o docynnau ar gael, llai na hanner ar ôl!

ARCHEBWCH YMA - https://bit.ly/4udWvIi

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr - dweud eich dweud  Rhowch eich barn ar gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety...
22/05/2026

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr - dweud eich dweud

Rhowch eich barn ar gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr
Gellir gweld y manylion llawn a’r arolwg ar wefan Conwy https://bit.ly/42O1uDn
Ni allwch adael sylwadau gan ein bod eisiau clywed a chasglu eich barn drwy’r broses ymgynghori.

Cadw’n Ddiogel: Seiber i Fusnesau BachCyfres o weminarau am ddim am bedair wythnos - o ddydd Iau 4 Mehefin 2026Mae’n deb...
22/05/2026

Cadw’n Ddiogel: Seiber i Fusnesau Bach

Cyfres o weminarau am ddim am bedair wythnos - o ddydd Iau 4 Mehefin 2026

Mae’n debyg bod eich busnes dan fwy o fygythiad o ymosodiadau seiber na feddyliech chi.

O negeseuon e-bost gwe-rwydo a chyfrifon yn cael eu hacio i fynediad diawdurdod at ddata a sgamiau, mae bygythiadau seiber yn dod yn fwy cyffredin i fusnesau bach bob dydd. Ac i lawer o berchnogion busnes, gall gwybod ble i ddechrau fod yn llethol.

Dyna pam bod Small Business Britain a BT yn dod at ei gilydd i ddarparu Cadw’n Ddiogel: Seiber i Fusnesau Bach, cyfres o weminarau am ddim am bedair wythnos gyda’r bwriad o’ch helpu chi ddiogelu eich busnes â chyngor ymarferol, syml.

Cânt eu cynnal am 10am bob dydd Iau drwy gydol mis Mehefin a bydd y gyfres hon yn eich arwain o ymwybyddiaeth seiber i feithrin gwytnwch go iawn, i’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus am ddiogelu eich systemau, data cwsmeriaid a thîm.

Yn y pedair sesiwn, byddwch yn dysgu sut i:

• Adnabod bygythiadau seiber cyffredin cyn iddynt ddod yn broblem

• Cryfhau eich arferion diogelwch bob dydd

• Diogelu eich pobl, systemau a data eich busnes

• Creu cynllun ymateb i ddigwyddiad syml fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud os bydd y gwaethaf yn digwydd

Dyddiadau’r cwrs:

• Modiwl 1: Dydd Iau 4 Mehefin, 10am - 11am

• Modiwl 2: Dydd Iau 11 Mehefin, 10am - 11am

• Modiwl 3: Dydd Iau 18 Mehefin, 10am - 11am

• Modiwl 4: Dydd Iau 25 Mehefin, 10am - 11am

COFRESTRWCH YMA - https://bit.ly/49GJQoL

Bwrdd Bargeinio’r Gronfa Ynni GlânDydd Mercher 27 MaiY Mulberry, Conwy, LL32 8GU10.00am – 3.00pm. Dim mwy na 4 o sesiyna...
20/05/2026

Bwrdd Bargeinio’r Gronfa Ynni Glân
Dydd Mercher 27 Mai
Y Mulberry, Conwy, LL32 8GU
10.00am – 3.00pm. Dim mwy na 4 o sesiynau.

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynnig £24.6 miliwn i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd.

Pwrpas y Gronfa yw rhoi cyllid cynaliadwy a hygyrch i fusnesau er mwyn cyflawni tri o nodau:

Sicrhau cydymffurfiaeth â Nodyn Polisi Caffael Cymru 006 fel y ceir mynediad at gadwyni cyflenwi yn awr ac yn y dyfodol.
Rhoi’r dewis i fusnesau ddatgarboneiddio eu gweithrediadau drwy drydaneiddio, yn enwedig peiriannau trwm.
Mae busnesau ledled y Deyrnas Unedig yn dal ar drugaredd digwyddiadau rhyngwladol, sy’n cael effaith anghymesur ar brisiau ynni. Gall buddsoddi mewn dulliau cynaliadwy, tra lleol o gynhyrchu ynni liniaru ar effaith y cythrwfl mewn marchnadoedd ynni rhyngwladol a rhoi rhywfaint o reolaeth i fusnesau ar eu costau.
Bydd UMi, ar y cyd â’i bartneriaid, yn cynnal Bwrdd Bargeinio cyntaf y Gronfa Ynni Glân i fusnesau Conwy ar 27 Mai 2026 yn y Mulberry, Conwy.

Mae’r Bwrdd Bargeinio’n fforwm buddsoddi ffurfiol sydd â’r nod o gyflymu datblygiad prosiectau ynni glân o’r radd flaenaf ledled gogledd Cymru.

Mae’n rhoi llwyfan i fusnesau sy’n chwilio am fuddsoddiad gan fenthycwr cyfrifol ac yn helpu’r busnesau hynny i weithredu’n fwy effeithlon a chael sicrwydd ynglŷn ag ynni.

Os hoffech chi ddod, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y Bwrdd Bargeinio, cysylltwch â:

Matt Popple - Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau

[email protected]

Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynnig £24.6 miliwn i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd. Bydd yn rhoi’r grym i fusnesau a mudiadau gwirfoddol greu dyfodol cynaliadwy, yn buddsoddi £100 miliwn yn y rhanbarth, yn creu 150 o swyddi newydd ac yn torri hyd at 125,000 o dunelli o garbon deuocsid (CO2e).

Rhennir y gronfa'n ddwy is-gronfa ar wahân i'r sectorau preifat a gwirfoddol.

CLICIWCH YMA I GAEL MWY O WYBODAETH AM Y GRONFA - https://bit.ly/41PxhU0

Address

Llandudno Junction

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:45pm

Telephone

+441492574574

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cymorth Busnes Conwy posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cymorth Busnes Conwy:

Share