GwerthwchiGymru

GwerthwchiGymru Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw'r wefan GwerthwchiGymru newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae GwerthwchiGymru bellach yn ymuno â theulu cyfryngau cymdeithasol Busnes Cymru! Os nad ydych yn dilyn eto, gwnewch hy...
12/01/2026

Mae GwerthwchiGymru bellach yn ymuno â theulu cyfryngau cymdeithasol Busnes Cymru!

Os nad ydych yn dilyn eto, gwnewch hynny nawr i sicrhau nad ydych yn colli cyfleoedd contractau, cymorth tendro, a llawer mwy.

Gallwch ffeindio ni yma - Busnes Cymru

Ydych chi’n cyflenwi’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, neu hoffech chi gychwyn arni?Mae diwygiadau caffael newydd yng Ng...
07/01/2026

Ydych chi’n cyflenwi’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, neu hoffech chi gychwyn arni?

Mae diwygiadau caffael newydd yng Nghymru ac yn y DU yn cyflwyno proses haws, fwy hyblyg a thryloyw i gyflenwyr o bob maint, iddynt allu darganfod, cynnig ac ennill contractau cyhoeddus.

Ymunwch â ni yn Sioeau Teithiol Cyflenwyr Busnes Cymru i ddarganfod sut y gall rheolau caffael cyhoeddus newydd fod o fudd i fusnesau fel eich un chi.

Manylion yma - https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/sioeau-teithiol-cyflenwyr-sut-i-ddarganfod-cynnig-ac-ennill-contractau-cyhoeddus-dan-y-deddfau-caffael-newydd/

Mae Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ar-lein ar gyfer adeiladu Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gyfle gwych i gontractwyr is lleo...
25/11/2025

Mae Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ar-lein ar gyfer adeiladu Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gyfle gwych i gontractwyr is lleol a newydd gysylltu â’n tîm, dysgu mwy am y prosiect, ac archwilio cyfleoedd posibl i gydweithio â Wynne Construction wrth gyflawni’r datblygiad cyffrous hwn.

Ar gael bydd slotiau unigol o 15 munud drwy Microsoft Teams i drafod cyfleoedd penodol sy’n ymwneud â’r prosiect.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu - https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/cyfarfod-ar-prynwr-ysgol-fusnes-albert-gubay/ Wynne Construction

Barod i ennill contractau mwy? Ymunwch â Sioe Deithiol AM DDIM Busnes Cymru! Dysgwch sut gall partneriaethau ddatgloi cy...
23/09/2025

Barod i ennill contractau mwy? Ymunwch â Sioe Deithiol AM DDIM Busnes Cymru! Dysgwch sut gall partneriaethau ddatgloi cyfleoedd tu hwnt i'ch cyrraedd fel ymgeisydd unigol.

7 lleoliad ledled Cymru o Hydref i Ragfyr 2025
✅ Arweiniad ymarferol ac astudiaethau achos go iawn
✅ Rhwydweithio â chyflenwyr lleol
✅ Wedi'i ariannu'n llawn

Manylion yma - https://busnescymru.llyw.cymru/newyddion-a-blog/pwer-partneriaeth-sioe-deithiol-ceisiadau-ar-y-cyd-ar-gyfer-cyflenwyr-cymreig Busnes Cymru Llywodraeth Cymru

Barod i dendro am waith peirianneg sifil hyd at £50k?Ymunwch â'n gweminar AM DDIM ar dendro ar gyfer fframwaith ACGCC! D...
28/07/2025

Barod i dendro am waith peirianneg sifil hyd at £50k?

Ymunwch â'n gweminar AM DDIM ar dendro ar gyfer fframwaith ACGCC! Dysgwch ddefnyddio EdendrCymru, creu ymatebion buddugol a deall meini prawf gwerthuso.

Perffaith i fusnesau bach a micro sy'n awyddus i ennill gwaith ar gefnffyrdd Cymru 🛣️

Cofrestrwch nawr ⬇️

https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/gweminar-tendro-byw-asiant-cefnffyrdd-gogledd-a-chanolbarth-cymru-acgcc-fframwaith-gwaith-adeiladu-peirianneg-sifil-bach/

Address

Llandudno Junction

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+448002229004

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when GwerthwchiGymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to GwerthwchiGymru:

Share