08/09/2026
HYSBYSIAD CYHOEDDUS
ADRAN 14 O DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN DDEDDF TRAFFIG FFYRDD (CYFYNGIADAU DROS DRO) 1991 - CAU FFORDD DROS DRO - C2111 Rhydcymerau
MAE CYNGOR SIR CAERFYRDDIN YN HYSBYSU TRWY HYN na chaniateir i neb achosi i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn ffordd a adwaenir fel yr C2111 Rhydcymerau, o bwynt sydd 333 metr i'r gorllewin o'r gyffordd รข'r B4337 Rhydcymerau am bellter o 602 metr i gyfeiriad y gorllewin.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd Openreach yn gwneud gwaith ar bolion o ddydd Mercher 16 Medi 2026 i ddydd Iau, 17 Medi 2026.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r gorllewin o fan sydd i'r dwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau fydd teithio ar hyd yr C2111 Rhydcymerau, y B4337 Rhydcymerau, yr A485 Llanybydder a'r C2111 Rhydcymerau i ddychwelyd i fan sydd i'r gorllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio i gyfeiriad y dwyrain.
Lle bo'n bosibl caniateir i gerddwyr gael mynediad drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.
Mae'r hysbysiad hwn yn berthnasol pan fydd yr arwyddion a'r rhwystrau perthnasol ar y safle ac mae'n ddilys am gyfnod o hyd at 5 diwrnod.