Arolygiaeth Gofal Cymru

Call Directions Website Contact the organisation

Arolygiaeth Gofal Cymru Ni yw Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Rheoleiddio ac arolygu i wella gofal oedolion, plant a gwasanaethau cymdeithasol i bobl yng Nghymru.

Yn Saesneg: www.facebook.com/careinspectoratewales

Nid yw dilyniadau a chyfrannau yn cyfateb i arnodiadau. Darllenwch ein polisi cyfryngau cymdeithasol yma: https://www.arolygiaethgofal.cymru/cyfryngau-cymdeithasol

Ydych chi'n rhedeg darpariaeth gofal plant, chwarae neu weithgareddau yng Nghymru? Mae canllawiau newydd gan Lywodraeth ...
20/10/2026

Ydych chi'n rhedeg darpariaeth gofal plant, chwarae neu weithgareddau yng Nghymru?

Mae canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru bellach ar gael i'ch helpu i ddeall Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026, ac a yw'n effeithio ar eich statws cofrestru.

Darllenwch y canllawiau yma: https://www.gov.wales/registering-childcare-provider-2026-exceptions

Os nad ydych chi'n siŵr a oes angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, cysylltwch â ni.

Diolch i bawb a ddaeth draw i siarad â ni yng Nghynhadledd Genedlaethol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Gofal Cymdeitha...
30/09/2026

Diolch i bawb a ddaeth draw i siarad â ni yng Nghynhadledd Genedlaethol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales yr wythnos ddiwethaf.

Roedd hi'n braf cael cymaint o sgyrsiau gwerthfawr drwy gydol y dydd a rhannu'r diweddaraf am ein gwaith.

Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i glywed gan ddarparwyr a phartneriaid ledled Cymru am eu profiadau a'u blaenoriaethau.

Rydym yn falch o rannu mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod lleol cyntaf i ymddangos yn ein llyfrgell "ymar...
29/09/2026

Rydym yn falch o rannu mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod lleol cyntaf i ymddangos yn ein llyfrgell "ymarfer gwerth ei rannu" ar-lein.

Roedd arolygiad diweddar gan AGC yn canmol y ffordd y mae'r gwasanaeth wir yn gwrando ar blant, teuluoedd a gofalwyr.

Mae straeon am y ‘Newid Mwyaf Sylweddol’, lle mae pobl yn nodi'r hyn sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn eu bywydau, yn cael eu hadolygu gan staff, arweinwyr a phartneriaid, gan greu darlun mwy cyflawn o'r effaith wirioneddol, nid y gwasanaeth a ddarperir yn unig.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn:
https://www.arolygiaethgofal.cymru/newid-mwyaf-sylweddol-defnyddio-profiad-bywyd-i-gefnogi-dysgu-gwella-0

Address

Merthyr Tudful
CF481UZ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Telephone

+443007900126

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Arolygiaeth Gofal Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Arolygiaeth Gofal Cymru:

Shortcuts

Share