19/10/2026
Hidden Life of the Woods: Discovering Woodland Invertebrates! 🍂🐌
Last Friday, Liam and Christian (Sparrow) from Glo i Natur CIC led a fantastic, well-attended invertebrate training day on behalf of the Neath Port Talbot Local Nature Partnership , exploring Cwm Du Glen & Glanrhyd Plantation Local Nature Reserve in Pontardawe.
The group spent the day searching for some of the woodland’s less obvious wildlife, turning over logs and rocks and sieving leaf litter to uncover the incredible diversity of invertebrates living beneath our feet.
Among the finds were Ghost Slug, Silky Snail, Winter Semi-slug, Banded Centipede, Spotted Snake Millipede and Eyed Flat-backed Millipede, along with plenty more fascinating species.
🔎 Some standout discoveries included:
🕷️The pseudoscorpion Neobisium carcinoides, a first-ever sighting for many of those attending
🕷️The millipede Turdulisoma cf. turdulorum, a remarkable species discovered new to science by Christian in South Wales in 2017
🕷️The harvestman Sabacon viscayanum, a species native to the Pyrenees
🕷️The millipede Ceratosphys amoena, first recorded in Britain from South Wales in 2014
A huge thank you to Glo i Natur for leading such an enjoyable and informative day, to everyone who came along, and to Andrew Street for kindly sharing some of his photographs from the event.
Funded by the Welsh Government through the Local Places for Nature Grant programme.
🐌🐌🐌🐌🐌🐌🐌🐌🐌🐌🐌
Bywyd Cudd y Coetir: Darganfod Infertebratau’r Coetir! 🍂🐌
Ddydd Gwener diwethaf, cynhaliodd Liam a Christian (Sparrow) o Glo i Natur ddiwrnod hyfforddi gwych a phoblogaidd ar infertebratau ar ran Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot, gan grwydro Gwarchodfa Natur Leol Cwm Du a Phlanhigfa Glan-rhyd ym Mhontardawe.
Treuliodd y grŵp y diwrnod yn chwilio am rai o drigolion llai amlwg y coetir, gan droi boncyffion a cherrig a hidlo dail marw i ddarganfod yr amrywiaeth anhygoel o infertebratau sy’n byw o dan ein traed.
Ymhlith y rhywogaethau a ddarganfuwyd roedd gwlithen ysbryd, malwen sidanaidd, hanner-gwlithen y gaeaf, cantroed bandiog, miltroed neidr smotiog a miltroed cefn gwastad llygaidog, ynghyd â llawer mwy o infertebratau diddorol.
🔎 Roedd rhai o ddarganfyddiadau mwyaf nodedig y diwrnod yn cynnwys:
🕷️Y ffugsgorpion Neobisium carcinoides, y tro cyntaf i lawer o’r rhai a oedd yn bresennol weld un
🕷️Y miltroed Turdulisoma cf. turdulorum, rhywogaeth ryfeddol a ddarganfuwyd yn newydd i wyddoniaeth gan Christian yn Ne Cymru yn 2017
🕷️Y cynaeafwr Sabacon viscayanum, rhywogaeth sy’n frodorol i’r Pyreneau
🕷️Y miltroed Ceratosphys amoena, a gofnodwyd am y tro cyntaf ym Mhrydain yn Ne Cymru yn 2014
Diolch yn fawr iawn i Glo i Natur am arwain diwrnod mor ddifyr ac addysgiadol, i bawb a ddaeth draw, ac i Andrew Street am rannu rhai o’i luniau o’r digwyddiad yn garedig.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy raglen grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
LNP Cymru NPT Wildlife Wales Nature Week