17/08/2026
🌊 Thinking of exploring the newly exposed shoreline? Please think twice.
As the water level at Lake Vyrnwy has dropped in recent weeks, you may have noticed areas of "new land" appearing around the reservoir. While it might look tempting to explore, this ground is normally underwater and is nowhere near as firm as it appears.
This weekend, two people became stuck and came back covered in mud up to their knees. The exposed areas are made up of thick mud and fine silt, with some patches behaving like quicksand. If you step into the wrong spot, you could quickly find yourself trapped.
For your safety, and to avoid placing additional demand on our already busy emergency services, please stay clear of these areas and enjoy the views from designated paths and access points.
Stay safe and enjoy your visit to Lake Vyrnwy. 🌿💧
***
🌊 Ydych chi'n ystyried archwilio'r lan sydd newydd ddod i'r golwg? Meddyliwch ddwywaith.
Gan fod lefel y dŵr yn Llyn Efyrnwy wedi gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf, efallai eich bod wedi sylwi ar ardaloedd o “dir newydd” yn ymddangos o amgylch y gronfa ddŵr. Er y gallai ymddangos yn demtasiwn i fynd allan i'w harchwilio, mae'r tir hwn fel arfer o dan y dŵr ac nid yw mor gadarn ag y mae'n edrych.
Y penwythnos hwn, aeth dau berson yn sownd ac fe ddaethant yn ôl wedi'u gorchuddio â mwd hyd at eu pengliniau. Mae'r ardaloedd sydd wedi dod i'r golwg yn cynnwys mwd trwchus a silt mân, gyda rhai mannau'n ymddwyn fel tywod symudol. Os byddwch yn camu i'r lle anghywir, gallech gael eich dal yn sownd yn gyflym iawn.
Er eich diogelwch chi, ac er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys sydd eisoes dan alw mawr, gofynnwn yn garedig i chi gadw draw o'r ardaloedd hyn a mwynhau'r golygfeydd o'r llwybrau a'r mannau mynediad dynodedig.
Cadwch yn ddiogel a mwynhewch eich ymweliad â Llyn Efyrnwy. 🌿💧