10/07/2026
🌟 From ambition to action – Caleb is forging his future! 🔥
When Caleb joined Futureworks Haverfordwest in October 2025, he had one clear goal: to build a career in welding. With determination, hard work, and a passion for learning, he's been making every opportunity count.
Since joining, Caleb has completed a range of training courses, including Introductory and Intermediate Welding, CCNSG, Manual Handling, Firewatch, Working at Heights, and Confined Spaces - building the skills and confidence needed for a successful career.
Recognising his commitment, our Training Adviser Jen Dyer arranged an ongoing work experience placement with Ledwood Mechanical Engineering in Pembroke Dock, where Caleb spends two days a week gaining valuable industry experience.
The team at Ledwood have been full of praise for Caleb's positive attitude, resilience, and willingness to learn. From fabricating structures and welding to grinding and site duties, he has embraced every challenge with growing confidence and a strong work ethic.
Caleb says: "I'm very happy that Futureworks arranged the work placement to help me gain work experience and build my CV, along with other skills that will help me in the workplace."
His dedication has already paid off. After achieving his Level 1 Welding qualification, Caleb has now secured a place on the Level 2 Welding and Fabrication course at Pembrokeshire College, starting this September. 🎉
With the continued support of Jen Dyer and Kara Pendrous at Futureworks, Caleb is taking every step towards achieving his dream of becoming a skilled welder.
👏 Congratulations, Caleb! Your determination, commitment, and enthusiasm are inspiring, and we can't wait to see what you'll achieve next.
[email protected]
Pembrokeshire County Council
🌟 O uchelgais i weithredu – mae Caleb yn llunio ei ddyfodol! 🔥
Pan ymunodd Caleb â Futureworks Hwlffordd ym mis Hydref 2025, roedd ganddo un nod clir: adeiladu gyrfa ym maes weldio. Gyda phenderfyniad, gwaith caled ac angerdd am ddysgu, mae wedi manteisio i'r eithaf ar bob cyfle.
Ers ymuno, mae Caleb wedi cwblhau amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau Weldio Lefelau Cyflwyno a Chanolradd, CCNSG, Trin a Chodi (Manual Handling), Gwylio Tân (Firewatch), Gweithio ar Uchder a Gweithio mewn Mannau Cyfyng – gan feithrin y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Gan gydnabod ei ymrwymiad, trefnodd ein Cynghorydd Hyfforddiant, Jen Dyer, leoliad profiad gwaith parhaus gyda Ledwood Mechanical Engineering yn Noc Penfro, lle mae Caleb yn treulio dau ddiwrnod yr wythnos yn ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant.
Mae'r tîm yn Ledwood wedi canmol agwedd gadarnhaol, gwydnwch ac awydd Caleb i ddysgu yn fawr. O saernïo strwythurau a weldio i falu (grinding) a dyletswyddau ar y safle, mae wedi croesawu pob her gydag hyder cynyddol ac agwedd ddiwyd tuag at waith.
Dywed Caleb: "Rwy'n hapus iawn bod Futureworks wedi trefnu'r lleoliad gwaith i'm helpu i ennill profiad gwaith ac adeiladu fy CV, ynghyd â sgiliau eraill a fydd yn fy helpu yn y gweithle."
Mae ei ymroddiad eisoes wedi talu ar ei ganfed. Ar ôl ennill ei gymhwyster Weldio Lefel 1, mae Caleb bellach wedi sicrhau lle ar y cwrs Weldio a Saernïo Lefel 2 yng Ngholeg Sir Benfro, sy'n dechrau ym mis Medi eleni. 🎉
Gyda chefnogaeth barhaus Jen Dyer a Kara Pendrous yn Futureworks, mae Caleb yn cymryd pob cam tuag at wireddu ei freuddwyd o ddod yn weldiwr medrus.
👏 Llongyfarchiadau, Caleb! Mae dy benderfyniad, dy ymrwymiad a dy frwdfrydedd yn ysbrydoledig, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth fyddi'n ei gyflawni nesaf.
Cyngor Sir Penfro