09/10/2026
Diolch yn fawr iawn i Feithrinfa Osbourne Lodge am alw heibio i ganol tref Pont-y-pŵl i weld y potiau planhigion maen nhw wedi'u mabwysiadu yn rhan o brosiect Trefi Gyda'i Gilydd.
O ddyfrio i chwynnu, maen nhw'n helpu i gadw'r arddangosfeydd lliwgar hyn i edrych ar eu gorau ac yn sicrhau bod canol ein tref yn lle mwy lliwgar y gall pob un ei fwynhau.
Mae'n hyfryd gweld cymaint o ofal cymunedol yn helpu Pont-y-pŵl i flodeuo.