25/09/2026
It was great for our Plaid Cymru Pontypridd Cynon Merthyr team to visit Llantrisant Health Park today and see the new Surgical Hub taking shape.
Backed by £121 million of investment, this state-of-the-art facility is expected to deliver around 3,000 operations every year, helping more people get the treatment they need sooner and supporting efforts to reduce waiting times across Wales.
We all know the difference timely treatment can make, whether that's getting back to work, spending time with loved ones, or simply getting back to everyday life.
A big thank you to the health board staff who took the time to show us around and answer our questions. It was encouraging to see the progress being made and the difference this investment will make for patients across our communities.
***
Roedd hi'n braf i'n tîm Plaid Cymru Pontypridd Cynon a Merthyr ymweld â Pharc Iechyd Llantrisant heddiw i weld y Ganolfan Lawfeddygol newydd yn cymryd siâp.
Gyda buddsoddiad o £121 miliwn, disgwylir i'r cyfleuster modern hwn gyflawni tua 3,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn, gan helpu mwy o bobl i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn gynt a chefnogi'r ymdrechion i leihau amseroedd aros ledled Cymru.
Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cael triniaeth ar yr adeg gywir, boed hynny'n dychwelyd i'r gwaith, treulio amser gyda'r teulu, neu fynd yn ôl at fywyd bob dydd.
Diolch yn fawr i staff y bwrdd iechyd am gymryd yr amser i'n tywys o amgylch y safle ac ateb ein cwestiynau. Roedd yn galonogol gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud a'r gwahaniaeth y bydd y buddsoddiad hwn yn ei wneud i gleifion ar draws ein cymunedau.