16/10/2026
Dyma Wythnos , felly roeddem am ddangos i chi beth o'r gwaith y mae ein tîm draenio yn ei wneud i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer tywydd garw.
Mae ein timau draenio yn defnyddio lorïau glanhau draeniau i gael gwared ar ddŵr gwastraff, mwd a llaid o ddraeniau.
Maent hefyd yn defnyddio camera ar wialen wthio i wirio am rwystrau, difrod neu unrhyw beth arall a allai effeithio ar effeithiolrwydd y draen. Os canfyddir unrhyw beth, caiff ei adrodd a'i drwsio cyn gynted â phosibl.
Mae hyn oll yn ein helpu i baratoi ar gyfer llifogydd.
Gallwch chi hefyd baratoi ar gyfer llifogydd drwy gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth a Rhybuddion Llifogydd rhad ac am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn derbyn rhybuddion pan fydd perygl o lifogydd yn eich ardal.