14/08/2026
WATER SPRAYING TRAINS OUT AND ABOUT TO HELP MINIMISE FIRE RISK AND KEEP STEAM OPERATION ALIVE DURING THE HOT WEATHER
During the prolonged recent dry spell of hot weather, our diesel engines have been pulling water tank trains to dampen down the sides of railway tracks along both the Ffestiniog and Welsh Highland Railway. This not only ensures we can continue to safely operate steam engines, it also allows our visitors to still be able to enjoy a historic journey through Eryri (Snowdonia) while preventing any fires starting along the sensitive landscape area.
The water tank trains, effectively a fire engine on rails, have been operating most of the summer using high‑capacity tanks that are equipped with pumps and sprayers. We've been monitoring the conditions daily, adjusting spray levels, and coordinating with local authorities to make sure the lines remain safe for steam operations. It’s a huge behind‑the‑scenes effort that keeps things running smoothly during the hot challenging weather.
Ffestiniog & Welsh Highland Railways
----------------------------------------------------------
TRENNAU CHWISTRELLU DŴR I LEIHAU PERyGL TÂN A CHADW GWEITHREDU STÊM YN FYW YN Y TYWYDD POETH
Yn ystod y cyfnod hir o dywydd poeth a sych diweddar, mae ein peiriannau disel wedi bod yn tynnu trenau tanciau dŵr i wlychu ochrau’r traciau ar hyd Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri. Nid yn unig mae hyn yn sicrhau y gallwn barhau i weithredu peiriannau stêm yn ddiogel, ond mae hefyd yn caniatáu i’n hymwelwyr fwynhau taith hanesyddol drwy Eryri tra’n helpu i atal tanau rhag dechrau ar yr ardal dirwedd sensitif hon.
Mae’r trenau tanciau dŵr, yn gweithredu fel peiriant tân ar reiliau, wedi bod yn gweithio drwy’r rhan fwyaf o’r haf, gan ddefnyddio tanciau capasiti uchel sydd wedi’u cyfarparu â phympiau a chwistrellwyr. Rydym wedi bod yn monitro’r amodau’n ddyddiol, addasu lefelau chwistrellu, a chydlynu gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y llinellau’n parhau’n ddiogel ar gyfer gweithrediadau stêm. Mae’n ymdrech enfawr y tu ôl i’r llenni sy’n cadw popeth i redeg yn esmwyth yn ystod y tywydd poeth heriol.
Ffestiniog & Welsh Highland Railways