16/08/2026
𝗘𝗡𝗚𝗟𝗜𝗦𝗛 𝗕𝗘𝗟𝗢𝗪
🛟🚨𝗖𝗮𝗳𝗼𝗱𝗱 𝗯𝗮𝗱 𝗮𝗰𝗵𝘂𝗯 𝗽𝗼𝗯 𝘁𝘆𝘄𝘆𝗱𝗱 𝗥𝗡𝗟𝗜 𝗣𝘄𝗹𝗹𝗵𝗲𝗹𝗶, 𝘆 𝗦𝗺𝗶𝘁𝗵 𝗕𝗿𝗼𝘁𝗵𝗲𝗿𝘀, 𝗲𝗶 𝗮𝗹𝘄 𝗮𝗹𝗹𝗮𝗻 𝗱𝘆𝗱𝗱 𝗦𝗮𝗱𝘄𝗿𝗻 𝟭𝟱 𝗔𝘄𝘀𝘁 𝗮𝗺 𝟲.𝟰𝟯𝘆𝗵, at gwch modur 10m wedi torri i lawr i'r gogledd o Swnt Enlli. Roedd y cwch modur mewn perygl o drifftio neu daro'r creigiau. Gall Swnt Enlli fod yn sialens i forwyr, gyda’i lanw cryf, dyfroedd creigiog a môr sy'n newid yn gyflym.
RNLI Abersoch oedd y cyntaf yno i helpu, cyn i RNLI Pwllheli gymryd drosodd, gan ddod â'r cwch, gyda dau berson arno, yn ddiogel i Farina Pwllheli erbyn 11.00yh.
Erbyn 11.36yh, roedd y bad achub yn barod am ei alwad nesaf.
Os ydych chi'n mynd allan ar y môr, cariwch fodd o alw am help gyda chi bob amser. Gall radio VHF fod yn hanfodol mewn argyfwng fel hyn, lle gall signal ffôn symudol fod yn wael.
-----
🛟🚨𝗣𝘄𝗹𝗹𝗵𝗲𝗹𝗶 𝗥𝗡𝗟𝗜 𝘃𝗼𝗹𝘂𝗻𝘁𝗲𝗲𝗿𝘀 𝗹𝗮𝘂𝗻𝗰𝗵𝗲𝗱 𝘁𝗵𝗲 𝗮𝗹𝗹-𝘄𝗲𝗮𝘁𝗵𝗲𝗿 𝗹𝗶𝗳𝗲𝗯𝗼𝗮𝘁, 𝗦𝗺𝗶𝘁𝗵 𝗕𝗿𝗼𝘁𝗵𝗲𝗿𝘀, 𝗼𝗻 𝗦𝗮𝘁𝘂𝗿𝗱𝗮𝘆 𝟭𝟱 𝗔𝘂𝗴𝘂𝘀𝘁 𝗮𝘁 𝟲.𝟰𝟯𝗽𝗺, to a 10m motor vessel with engine failure north of Bardsey Sound, where the power boat was in danger of drifting or hitting the rocks. Bardsey Sound can be challenging for sailors, with strong tidal currents, rocky waters and rapidly changing sea conditions.
Abersoch RNLI assisted before the Pwllheli RNLI took over, bringing the vessel, with two people on board, safely to Pwllheli Marina by 11pm.
The lifeboat was made ready for service again by 11.36pm.
If you’re heading out to sea, always carry a means of calling for help. A VHF radio can be vital in an emergency such as this, where mobile phone coverage can be poor.