Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir Ddinbych Croeso i’r dudalen Facebook swyddogol ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych

Bydd y cyfrif hwn yn cael ei fonitro rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ni fydd sylwadau a wneir ar y cyfrif hwn yn cael eu hateb fel mater o drefn

⚠ PRYNHAWN 'MA ⚠Gwahoddir gofalwyr ledled Sir Ddinbych i fynychu digwyddiad galw heibio am ddim ‘coffi, cacen a sgwrs’ i...
08/06/2026

⚠ PRYNHAWN 'MA ⚠

Gwahoddir gofalwyr ledled Sir Ddinbych i fynychu digwyddiad galw heibio am ddim ‘coffi, cacen a sgwrs’ i ofalwyr’ gan gynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu, sgwrsio a darganfod yr ystod eang o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn lleol.

📍HWB Dinbych
📅Dydd Llun, 8 Mehefin
🕝Rhwng 1pm a 3pm

Mae gan Llais y Sir y wybodaeth i gyd

Digwyddiad galw heibio am ddim i ofalwyr yn Ninbych i arddangos y cymorth sydd ar gael

Ddydd Llun (1 Mehefin), dathlodd cartref gofal Dolwen yn Ninbych 60 mlynedd ers ei sefydlu ac yr oedd digwyddiad i ddath...
05/06/2026

Ddydd Llun (1 Mehefin), dathlodd cartref gofal Dolwen yn Ninbych 60 mlynedd ers ei sefydlu ac yr oedd digwyddiad i ddathlu i staff presennol a chyn-aelodau staff, preswylwyr a'u teuluoedd, ac ymwelwyr.

Agorodd y cartref gofal 32 ystafell wely sy’n cael ei redeg gan y Cyngor ei ddrysau am y tro cyntaf ar 1 Mehefin 1966.

I goffáu’r garreg filltir, gosodwyd nodwedd ddŵr yn yr ardal awyr agored ger mynedfa'r cartref. Mae'r nodwedd dŵr wedi'w gosod gyferbyn â chloc haul, a osodwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant y cartref.

Roedd baneri a pharasolau yn addurno'r ardal awyr agored, ac yr oedd balŵns, posteri a baneri yn addurno y tu mewn i'r cartref. cynlluniwyd diwrnod llawn o adloniant hefyd.

Darllenwch rhagor👇
https://tinyurl.com/2s4kzzsu

05/06/2026

Pob lwc i chi gyda'r fenter newydd. Rydym yn siŵr y bydd yn lle gwych i lawer 💙💜❤️💚👏

Llenwyd naw bag o sbwriel morol yn ystod sesiwn gasglu sbwriel mewn ardal boblogaidd o draeth y Rhyl. Ar ôl ymdrin â’r t...
05/06/2026

Llenwyd naw bag o sbwriel morol yn ystod sesiwn gasglu sbwriel mewn ardal boblogaidd o draeth y Rhyl. Ar ôl ymdrin â’r traethau ger maes parcio Dwyrain Nova a thraeth Barkby ym Mhrestatyn, trefnodd Dîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych ddigwyddiad ar gyfer ardaloedd arfordirol o gwmpas Pafiliwn y Rhyl.
Mwy yma 👉 https://tinyurl.com/2wueha8d

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor. ...
05/06/2026

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor. Mae tîm Atal Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion newydd ar giatiau llifogydd o’r Rhyl i Brestatyn er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall swyddogaeth y system.
Darllen mwy 👉 https://tinyurl.com/yuh835na

Ddydd Mawrth, 9 Mehefin, bydd y ganolfan gyswllt cwsmeriaid ar gau rhwng 8.30am a 12.00pm a bydd y briff dderbynfa yn Ne...
05/06/2026

Ddydd Mawrth, 9 Mehefin, bydd y ganolfan gyswllt cwsmeriaid ar gau rhwng 8.30am a 12.00pm a bydd y briff dderbynfa yn Neuadd y Sir, Rhuthun ar gau rhwng 9.00am a 12.00pm ar gyfer hyfforddiant angenrheidiol.

Mae gwasanaeth lles Sir Ddinbych Yn Gweithio, Prosiect Barod, yn gweithio mewn partneriaeth gyda 🚌 Bysiau Arriva Cymru i...
04/06/2026

Mae gwasanaeth lles Sir Ddinbych Yn Gweithio, Prosiect Barod, yn gweithio mewn partneriaeth gyda 🚌 Bysiau Arriva Cymru i gyflwyno hyfforddiant teithio ar fws am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 11 ar draws Sir Ddinbych, gan helpu pobl ifanc i fagu hyder ac annibyniaeth wrth iddynt baratoi i symud ymlaen i goleg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae’r holl wybodaeth sydd arnoch yn Llais y Sir 👇
https://tinyurl.com/msv8uzd8

Arriva Buses Wales

Mynegiant o Ddiddordeb - Caffi RhuthunMae'r Cyngor yn chwilio am Bartner Tenant i weithredu darpariaeth arlwyo i ymwelwy...
04/06/2026

Mynegiant o Ddiddordeb - Caffi Rhuthun
Mae'r Cyngor yn chwilio am Bartner Tenant i weithredu darpariaeth arlwyo i ymwelwyr â 46 Stryd Clwyd, Rhuthun.
Mae gwybodaeth bellach ar ein gwefan 👇
https://tinyurl.com/2rrdptstRydym yn argymell bod pob parti sydd â diddordeb yn ymweld â'r eiddo i archwilio addasrwydd y pwrpas cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Trefnir dau ddiwrnod agored, gyda slotiau 1 awr i bartïon â diddordeb, ar 8 Mehefin a 18 Mehefin 2026. I drefnu gweld, ffoniwch Philippa Jones ar 01824 708219 neu e-bostiwch [email protected].

04/06/2026
Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad galw heibio ddoe i drafod Prosiect Stryd Fawr Prestatyn.Daeth dros 100 o ...
04/06/2026

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad galw heibio ddoe i drafod Prosiect Stryd Fawr Prestatyn.

Daeth dros 100 o drigolion i rannu eu barn ar y gwelliannau arfaethedig i'r stryd fawr.

Os nad oeddech chi wedi gallu dod, mae cyfle o hyd i rannu eich barn drwy gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ar ein gwefan neu lenwi ffurflen adborth yn Llyfrgell a Siop Un Stop Prestatyn.

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 5 Gorffennaf 2026.

Am fwy o wybodaeth👇
https://tinyurl.com/48k9k7s4

Dweud eich dweud 👇
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/ymgynghoriadau/2026/gwelliannau-stryd-fawr-prestatyn-2026.aspx

Address

Neuadd Y Sir, Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL151YN

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 5pm

Telephone

+441824706000

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Sir Ddinbych posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share