Sir Ddinbych Yn Gweithio

Sir Ddinbych Yn Gweithio Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Sir Ddinbych Yn Gweithio, Government Organization, Rhyl.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy'n cynnig cefnogaeth un i un i unrhyw un yn Sir Ddinbych sydd yn, neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi. • Llwybrau hyfforddi at gyfleoedd cyflogaeth.
• Cymorth i ddod o hyd i swydd, cv, ymgeisio am swyddi, sgilliau cyfweliad ac ati.
• Mynediad at brofiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli.
• Darperir hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd ac e

nnill cymwysterau
• Adeiladau hyder, cymorth, cymhelliad, a lles
• Cyngor a chyfarwyddyd rheolaidd gan eich mentor personol eich hun

Ydych chi’n teimlo’n nerfus ynghylch dychwelyd i’r gwaith?Nid chi yw’r unig un.I lawer o bobl, hyder yw'r rhwystr mwyaf ...
04/09/2026

Ydych chi’n teimlo’n nerfus ynghylch dychwelyd i’r gwaith?
Nid chi yw’r unig un.
I lawer o bobl, hyder yw'r rhwystr mwyaf - nid dod o hyd i'r swydd ei hun.
Dyma pam yr ydym ni’n cynnig mwy na chefnogaeth â chyflogaeth.
💙 Cerdded a Sgwrsio
💙 She Connects
💙 Dynion yn Symud Ymlaen
Mae'r sesiynau cyfeillgar hyn yn ffordd wych o feithrin hyder, cwrdd â phobl newydd a chymryd y cam cyntaf pan fyddwch chi'n barod.
Does dim rhaid i chi fod wedi meddwl am bopeth cyn cysylltu.

☕ 5 diwrnod o hyfforddiant ar gyfer gyrfa yn y diwydiant lletygarwch!Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau a magu hyder...
04/09/2026

☕ 5 diwrnod o hyfforddiant ar gyfer gyrfa yn y diwydiant lletygarwch!

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau a magu hyder ar gyfer gweithio yn y diwydiant lletygarwch?

Ymunwch â ni am 5 diwrnod o hyfforddiant ymarferol, gan gynnwys:

🚑 Cymorth Cyntaf Brys
🍽️ Diogelwch Bwyd Lefel 2
😊 Gwasanaeth Cwsmeriaid
☕ Hyfforddiant Barista dros 2 ddiwrnod

Dysgwch sgiliau gwerthfawr a pharatowch ar gyfer eich cam nesaf yn y diwydiant lletygarwch - https://ow.ly/yjy850ZIxsP

Ydych chi erioed wedi ystyried prentisiaeth? ✨ Dewch draw i ddysgu mwy am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael! 🚀Mae prenti...
03/09/2026

Ydych chi erioed wedi ystyried prentisiaeth? ✨

Dewch draw i ddysgu mwy am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael! 🚀
Mae prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth i bobl anabl, i unigolion niwrowahanol ac i bobl sydd â chyflyrau iechyd. 💙
Darganfyddwch y gefnogaeth am ddi
m sydd ar gael i’ch helpu i ymgeisio ✅

📅 10 Medi 2026

⏰ 10yb - 3yp

📍 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl, LL18 1AT

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! 😊

Cwrdd â’r sectorau sy’n ymuno â’n Ffair Swyddi! 👋Os oes gennych ddiddordeb mewn gofal iechyd, adeiladu, addysg, busnes, ...
02/09/2026

Cwrdd â’r sectorau sy’n ymuno â’n Ffair Swyddi! 👋
Os oes gennych ddiddordeb mewn gofal iechyd, adeiladu, addysg, busnes, gweithgynhyrchu, cludiant, gwasanaethau cyhoeddus neu lawer mwy, byddwch yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr a sefydliadau o ystod eang o ddiwydiannau.

🌱Tyfu gyda Barod📅 Dydd Iau 3 Medi📍Gorsaf VIBE, y Rhyl (gyferbyn â gorsaf fysiau a threnau y Rhyl)Ymunwch â ni am dair se...
02/09/2026

🌱Tyfu gyda Barod
📅 Dydd Iau 3 Medi
📍Gorsaf VIBE, y Rhyl (gyferbyn â gorsaf fysiau a threnau y Rhyl)
Ymunwch â ni am dair sesiwn awr o hyd trwy gydol y dydd, pob un wedi’i chynllunio i’ch helpu i fagu hyder, cymhelliant a strategaethau ymarferol i symud ymlaen.
✨ 10:00am – 11:00am | Magu Hyder gyda Barod
Cydnabod eich cryfderau, dathlu eich llwyddiannau a chanfod sgiliau gwerthfawr sydd gennych eisoes, nad ydych wedi sylwi arnynt.
✨ 12:30pm – 1:30pm | Cynyddu eich Cymhelliant gyda Barod
Canfod ffyrdd syml o greu momentwm, creu arferion cadarnhaol a dechrau cymryd camau tuag at eich nodau.
✨ 3:00pm – 4:00pm | Goresgyn Rhwystrau gyda Barod
Edrych ar ffyrdd ymarferol o ddelio â rhwystrau, canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei reoli a thorri heriau mwy yn gamau y gellir eu rheoli.
Nid oes angen i chi fynychu’r tair sesiwn! Dewch i ba bynnag sesiwn sy’n gweithio orau i chi, neu arhoswch ar gyfer pob un a gwnewch y mwyaf o’r diwrnod.
✅ Ar gyfer trigolion Sir Ddinbych 16+ nad ydynt yn gweithio nac mewn addysg ar hyn o bryd.
☕ Darperir lluniaeth.
📲 Archebwch eich lle.

✨ Cymerwch ychydig o amser i chi eich hun. ✨Ydy bywyd yn teimlo braidd yn anodd? Hoffech gymryd ychydig o amser i arafu,...
01/09/2026

✨ Cymerwch ychydig o amser i chi eich hun. ✨

Ydy bywyd yn teimlo braidd yn anodd? Hoffech gymryd ychydig o amser i arafu, ailgysylltu â chi eich hun a chanfod ymdeimlad o dawelwch?

Ymunwch â'n Sesiynau Lles Anadlu ac Ioga Cadair AM DDIM, a hwylusir gan Paula o Happy Yoga. Mae'r sesiynau croesawgar hyn wedi'u dylunio i gefnogi eich lles corfforol ac emosiynol.

🌿 Technegau anadlu ysgafn
🪑 Ioga mewn cadair ac yn sefyll
💚 Technegau ymlacio
☕ Lluniaeth am ddim ar ôl pob sesiwn

📍 Gorsaf Vibe, Y Rhyl (hen safle Costigans)

📅 Dydd Mawrth 22 Medi
📅 Dydd Mawrth 29 Medi
📅 Dydd Mawrth 6 Hydref
🕚 11:00am – 12:30pm

Gallwch ddod i un sesiwn neu fynychu'r tair – beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi.

Yn agored i bobl 16+ oed sy'n byw yn Sir Ddinbych ac nad ydynt mewn gwaith nac addysg ar hyn o bryd ac efallai â chyflwr iechyd.

📩 I archebu eich lle am ddim:https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/working-denbighshire/training-and-events/confidence-and-wellbeing-events/confidence-and-wellbeing-events.aspx

💬"Does gen i ddim profiad ym maes gofal plant..."  Mae hynny’n iawn! 💛Mae ein Llwybr Gyrfa Gofal Plant wedi’i ddylunio i...
31/08/2026

💬"Does gen i ddim profiad ym maes gofal plant..." Mae hynny’n iawn! 💛Mae ein Llwybr Gyrfa Gofal Plant wedi’i ddylunio i’ch helpu:✨ Fagu hyder 📚Dysgu sgiliau newydd 🎓Cwblhau hyfforddiant perthnasol 🤝Cael profiad ymarferol�Mae pawb yn dechrau yn rhywle. Fe allai eich siwrnai gofal plant ddechrau yma. 📞01745 331428

Croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio AS Dwyrain Clwyd, Becky Gittins MP, i'r ‘stafelloedd llesiant a chyflogadwyedd integ...
28/08/2026

Croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio AS Dwyrain Clwyd, Becky Gittins MP, i'r ‘stafelloedd llesiant a chyflogadwyedd integredig yng Ngorsaf VIBE yn Y Rhyl. 🤩

"Y tu ôl i bob gwasanaeth rydym yn ei ddarparu mae unigolyn gyda'i stori, ei heriau a'i ddyheadau ei hun. Roeddem yn falch o allu dangos i Becky ehangder y cymorth sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio a'r effaith wirioneddol y mae'n ei chael ar fywydau pobl..."

👉 Darllenwch fwy yma: https://countyvoice.denbighshire.gov.uk/cymraeg/awst-2026/newyddion-diweddaraf/as-becky-gittins-yn-ymweld-gorsaf-vibe-i-weld-effaith-cymorth-cyflogaeth-a-chym

Ymunwch â'n cwrs coginio ymarferol AM DDIM dros 4 wythnos i feithrin eich hyder yn y gegin a dysgu sut i baratoi prydau ...
28/08/2026

Ymunwch â'n cwrs coginio ymarferol AM DDIM dros 4 wythnos i feithrin eich hyder yn y gegin a dysgu sut i baratoi prydau iach a fforddiadwy.

👩‍🍳 Byddwch yn dysgu:
🥗 Coginio iach a maetheg
🍳 Sgiliau coginio sylfaenol
🧼 Diogelwch a hylendid bwyd
💷 Prydau syml a fforddiadwy

📅 Sesiwn gofrestru: Dydd Mawrth 1 Medi | 11am–12pm

📅 Dyddiadau'r cwrs:
Dydd Gwener 4, 11, 18 a 25 Medi
🕙 10am–12pm
📍 Gorsaf VIBE, Y Rhyl

✅ Yr holl gynhwysion yn cael eu darparu
👥 Sesiynau ymarferol a chefnogol
🎟️ Dim ond 6 lle sydd ar gael

Pwysig: Mae'n rhaid gallu mynychu pob un o'r pedair sesiwn.

Ar gyfer pobl 16+ sydd ar lwybr tuag at waith, addysg neu hyfforddiant.

📩 I archebu lle

Address

Rhyl
LL183AA

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+441745331438

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Sir Ddinbych Yn Gweithio posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Sir Ddinbych Yn Gweithio:

Shortcuts

Share