Maethu Cymru Abertawe

Call Directions Website Contact the organisation

Maethu Cymru Abertawe Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.

Maethu yn Abertawe - cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Ein prif flaenoriaeth yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. Gellir rhwystro pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu sy'n trolio'n sarhaus. Gallwch ddod o hyd i'n tudalen Facebook Cymraeg yn www.facebook.com/fosterwalesswansea

Ydych chi wedi bod yn ystyried maethu?💜📍Dewch i'n gweld yn Ysbyty Treforys i ddysgu mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd g...
20/10/2026

Ydych chi wedi bod yn ystyried maethu?💜📍
Dewch i'n gweld yn Ysbyty Treforys i ddysgu mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am faethu!

Allech chi faethu wrth weithio'n amser llawn? Roedd Alex yn meddwl mai 'na' oedd yr ateb ... nes iddo brofi ei hun yn an...
19/10/2026

Allech chi faethu wrth weithio'n amser llawn? Roedd Alex yn meddwl mai 'na' oedd yr ateb ... nes iddo brofi ei hun yn anghywir. 💙

Fel dyn sengl sy'n gweithio'n amser llawn ac yn hyfforddi ar gyfer treiathlon, doedd Alex ddim yn siŵr y byddai maethu'n cyd-fynd â'i ffordd o fyw brysur. Heddiw, mae'n gofalu am dri bachgen yn eu harddegau ac mae'n dweud bod maethu wedi dod yn un o'r rhannau mwyaf gwerth chweil o'i fywyd.

O ddechrau gyda gofal seibiant i ddarparu sefydlogrwydd, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc ffynnu, mae stori Alex yn dangos nad oes y fath beth â gofalwr maeth "perffaith". P'un a ydych yn sengl, yn gweithio'n amser llawn, yn magu teulu neu'n byw ar eich pen eich hun, gall fod gennych yr union beth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc.

Darllenwch stori galonogol Alex ar wefan Maethu Cymru Abertawe a darganfyddwch sut y gall maethu gyd-fynd â gwahanol ffyrdd o fyw wrth wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau plant a phobl ifanc lleol.

👉 Ydych chi'n meddwl nad yw maethu'n rhywbeth ar eich cyfer chi? Meddyliwch eto. Ewch i'n gwefan i ddarllen stori lawn Alex a darganfod sut y gallech chi ddechrau eich taith faethu eich hun heddiw. 💙

🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru
📞 0300 555 0111

Mae'r gofalwr maeth sengl Alex Simpson yn helpu tri bachgen yn eu harddegau i ffynnu wrth weithio'n amser llawn. Darllenwch ei daith faethu galonogol.

Ydych chi wedi meddwl tybed a allai maethu weithio i'ch teulu chi, yn enwedig os oes gennych blant sy'n byw gartref?Dydy...
18/10/2026

Ydych chi wedi meddwl tybed a allai maethu weithio i'ch teulu chi, yn enwedig os oes gennych blant sy'n byw gartref?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Un o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn amlaf i ni yw sut y gallai maethu effeithio ar fywyd presennol y teulu.

Y newyddion da yw bod gan fwy na hanner ein cartrefi maethu (54%) blant eu hunain sy'n byw gartref. Mae llawer yn dweud wrthym fod maethu wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r teulu cyfan, gan helpu eu plant i ddatblygu tosturi, gwytnwch a gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl eraill.

Gall bod yn rhan o deulu maeth annog pobl ifanc i ddod yn fwy amyneddgar a chefnogol a derbyn gwahanol deithiau bywyd, wrth greu cyfleoedd hefyd i wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol plentyn.

Os hoffech ddysgu mwy am faethu a sut y gallai gyd-fynd â’ch bywyd teuluol, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs anffurfiol â chi.

Ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i Faethu Cymru Abertawe. 💙

Mae angen cartrefi lleol ar blant lleol.Mae angen gofalwyr maeth yn awr ar blant a phobl ifanc yn Abertawe a all eu help...
17/10/2026

Mae angen cartrefi lleol ar blant lleol.

Mae angen gofalwyr maeth yn awr ar blant a phobl ifanc yn Abertawe a all eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hysgolion, eu ffrindiau a'u cymunedau.

Trwy faethu’n lleol, gallwch helpu plentyn i aros yn agos i bopeth sy'n gyfarwydd iddo yn ystod cyfnod anodd.

Allech chi gynnig sefydlogrwydd, gofal ac ymdeimlad o berthyn?

Siaradwch â'n tîm heddiw am sgwrs anffurfiol neu ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

💙

💙Sy'n cefnogi'r plant sy'n rhannu eu cartrefi a'u calonnau.💙Ym Maethu Cymru Abertawe, rydyn ni’n gwybod bod maethu yn ym...
17/10/2026

💙Sy'n cefnogi'r plant sy'n rhannu eu cartrefi a'u calonnau.💙

Ym Maethu Cymru Abertawe, rydyn ni’n gwybod bod maethu yn ymrwymiad gan y teulu cyfan. Mae plant gofalwyr maeth yn chwarae rôl hanfodol wrth greu cartref sefydlog, meithringar i blant a phobl ifanc mewn gofal. Maent yn rhannu eu rhieni, eu cartref, eu harferion teulu ac, yn aml, eu calonnau.

Dyna pam rydyn ni’n falch o ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddod â theuluoedd maeth at ei gilydd. Mae'r cyfleoedd hyn yn helpu plant gofalwyr maeth a phlant maeth i feithrin perthnasoedd, creu atgofion cadarnhaol, datblygu hyder a mwynhau amser o safon gyda'i gilydd fel teulu.

Dywedodd gofalwyr maeth wrthym fod gweithgareddau yn helpu plant i "gefnogi a gofalu am ei gilydd", a dywedodd gofalwr maeth arall fod ei blant ei hun yn gwerthfawrogi treulio "amser o safon ochr yn ochr â'i frawd/chwaer maeth, gan feithrin perthnasoedd, creu atgofion a mwynhau bod yn blant gyda'i gilydd."

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol sut mae'r gweithgareddau hyn yn cryfhau cysylltiadau teuluol, yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn ac yn helpu plant i deimlo'n gysylltiedig ag eraill sy'n deall eu profiadau unigryw.

Meddai un gofalwr maeth, "Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith y gall fy mhlant geni ymuno yn y gweithgareddau. Mae gallu mwynhau'r profiadau hyn gyda'n gilydd yn helpu pawb i deimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni dreulio amser fel teulu a chreu atgofion cyffredin."

Drwy gefnogi plant gofalwyr maeth, rydyn ni’n helpu i gryfhau aelwydydd maethu a chreu'r amgylcheddau sefydlog, cariadus y mae eu hangen ar blant er mwyn iddynt ffynnu.

A allai maethu fod yn iawn i'ch teulu chi?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am faethu

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

O ferch gofalwyr maeth i ofalwr maeth y dyfodol ❤️Pan roedd Abbie Morgan yn 13 oed, dechreuodd ei rhieni faethu. Fel lla...
16/10/2026

O ferch gofalwyr maeth i ofalwr maeth y dyfodol ❤️

Pan roedd Abbie Morgan yn 13 oed, dechreuodd ei rhieni faethu. Fel llawer o blant, roedd hi'n teimlo'n nerfus ynglŷn â sut y gallai maethu newid bywyd teuluol. Ond wrth edrych yn ôl, mae'n dweud mai'r newid mwyaf oedd bod eu teulu wedi tyfu. [
Nawr, ar ôl tyfu i fyny mewn teulu sy'n maethu, mae Abbie a'i chariad yn cael eu hasesu i ddod yn ofalwyr maeth eu hunain. 🌟

"Mae cael fy magu mewn teulu sy'n maethu wedi cael dylanwad enfawr ar fy mhenderfyniad i ddod yn ofalwr maeth fy hun."

Mae straeon fel rhai Abbie yn dangos y gall maethu gael effaith gadarnhaol ar y teulu cyfan, nid dim ond y plant y mae angen cartref diogel a chariadus arnynt. 🏡
Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am faethu

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

🎉 Blwyddyn o faethu, oes o atgofion 💙Pan drafododd teulu Olivia faethu am y tro cyntaf, roedd hi'n gyffrous ynghylch y c...
15/10/2026

🎉 Blwyddyn o faethu, oes o atgofion 💙

Pan drafododd teulu Olivia faethu am y tro cyntaf, roedd hi'n gyffrous ynghylch y cyfle i helpu plant. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae hi'n disgrifio bod yn rhan o deulu maeth fel "gwych, bendigedig, calonogol ac anhygoel."

Dywed Olivia mai un o'r rhannau gorau yw mynd i ddigwyddiadau maethu, cwrdd â theuluoedd maethu eraill, rhannu profiadau a gwneud ffrindiau newydd.

Mae blwyddyn gyntaf ei theulu o faethu wedi dangos sut y gall hyd yn oed gweithredoedd caredig bach helpu plant i deimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn rhan o deulu.

Allai eich teulu chi wneud gwahaniaeth hefyd?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am faethu

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

13/10/2026

Alla i faethu os oes gen i anabledd? 💜
Ers dros 15 mlynedd, mae Tony a Karen wedi bod yn darparu cartrefi diogel, cariadus i blant a phobl ifanc drwy faethu.
Yn y fideo hwn, maen nhw'n rhannu eu profiad o faethu gyda'i gilydd, sut maen nhw'n cefnogi ei gilydd, a pham na ddylai bod ag anabledd neu gyflwr iechyd fyth eich atal rhag archwilio maethu.
Mae eu neges yn syml: byddwch yn onest am eich anghenion, gofynnwch gwestiynau a darganfyddwch pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae llawer o ffyrdd o faethu, ac efallai y byddwch chi'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn neu berson ifanc.
💜Gwyliwch stori Tony a Karen.
📞0300 555 0111
📧 [email protected]

💜

💙Wythnos Plant Gofalwyr Maeth 💙Yr wythnos hon (12-18 Hydref), rydym yn tynnu sylw at y plant anhygoel sy'n rhannu eu teu...
12/10/2026

💙Wythnos Plant Gofalwyr Maeth 💙

Yr wythnos hon (12-18 Hydref), rydym yn tynnu sylw at y plant anhygoel sy'n rhannu eu teuluoedd, eu cartrefi a'u calonnau â phlant mewn gofal maeth.

Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu’n rôl wirioneddol arbennig. Mae plant gofalwyr maeth yn aml yn helpu plant maeth newydd i deimlo'n gyfforddus, wedi'u cynnwys a'u derbyn o'r eiliad y maent yn cyrraedd. Drwy weithredoedd o garedigrwydd dyddiol, cyfeillgarwch a dealltwriaeth, maent yn gwneud gwahaniaeth parhaol.

Maent yn dangos rhinweddau sy'n ein hysbrydoli ni i gyd, gan gynnwys tosturi, amynedd, gwydnwch ac empathi. Mae eu cefnogaeth p'un ai wrth rannu eu teganau, eu lle, eu hamser neu gynnig gwên gyfeillgar, yn helpu plant maeth i deimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y gofelir amdanynt.

Er bod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth yn rhoi cyfle i ni ddathlu eu cyfraniad, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi popeth maen nhw'n ei wneud drwy gydol y flwyddyn.

I'r holl blant yn ein teuluoedd maeth: diolch am eich haelioni, eich dealltwriaeth ac am helpu i greu cartrefi cariadus a chroesawgar i blant sydd arnynt eu hangen fwyaf.

✨ Rydych chi'n gwneud mwy o wahaniaeth nag yr ydych efallai’n sylweddoli, ac rydym mor falch ohonoch chi. ✨

Allech chi faethu?

Os hoffech ddysgu mwy am faethu a sut y gallai weithio i'ch teulu chi, ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch iFaethu Cymru Abertawe.

💙

💜 Pam maethu gyda Maethu Cymru Abertawe? 💜Pan fyddwch chi'n maethu gyda ni, rydych chi'n newid bywyd plentyn ac rydych c...
10/10/2026

💜 Pam maethu gyda Maethu Cymru Abertawe? 💜

Pan fyddwch chi'n maethu gyda ni, rydych chi'n newid bywyd plentyn ac rydych chi'n ymuno â chymuned leol gefnogol sy'n ymroddedig i helpu plant Abertawe i ffynnu.

Dyma pam mae pobl yn dewis Maeth Cymru Abertawe:

✅ Nid-er-elw – caiff pob ceiniog ei fuddsoddi mewn cefnogi plant a gofalwyr maeth.
✅ Plant lleol, cartrefi lleol – cysylltir â'n gofalwyr maeth yn gyntaf pan fydd angen cartref maeth ar blant Abertawe.
✅ Cefnogaeth ragorol – gan gynnwys cymorth 24/7, gweithwyr proffesiynol maethu profiadol, grwpiau cymorth, a rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.
✅ Pecyn ariannol cystadleuol – gan gynnwys lwfansau maethu, taliadau cadw, a thaliadau ychwanegol ar gyfer pen-blwyddi, gwyliau, Nadolig, a dathliadau crefyddol.
✅ Cymuned faethu ffyniannus – gyda dros 100 o aelwydydd maethu yn Abertawe, ni fyddwch chi byth ar eich pen eich hun ar eich taith faethu. [
✅ Cyfleoedd maethu hyblyg – o ofal tymor hir i seibiannau byr a maethu seibiant.

Yn bwysicaf oll, byddwch chi'n helpu plant lleol i gadw mewn cysylltiad â'u hysgolion, eu ffrindiau, eu teuluoedd a'u cymunedau pan fydd angen sefydlogrwydd arnynt fwyaf.

Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Cysylltwch â ni i gael sgwrs gyfeillgar heb unrhyw rwymedigaeth.

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

Address

Neuadd Y Ddinas
Swansea
SA14PE

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Abertawe posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Abertawe:

Shortcuts

Share