18/08/2026
Gwahoddiad i Sesiynau Ymgysylltu Rhanddeiliaid Seilwaith Glas a Gwyrdd – Aberdyfi a Thywyn (19 Awst)
Annwyl Oll,
Hoffai Cyngor Gwynedd ac EGY Collective eich gwahodd i fynychu sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i ddysgu am y cynigion diweddaraf ar gyfer Seilwaith Glas a Gwyrdd (SGG) sy'n cael eu datblygu ar gyfer Aberdyfi a Thywyn.
Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o sefydliadau, grwpiau cymunedol, busnesau a rhanddeiliaid lleol â phosibl wrth i'r cynlluniau ddatblygu rhwng rwan a mis Hydref 2026. Mae hwn yn gyfle i glywed am y cynigion sy'n dod i'r amlwg, rhannu gwybodaeth a blaenoriaethau lleol, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y dyluniadau.
Nod yr ymyriadau arfaethedig yw sicrhau ystod o fanteision, gan gynnwys:
Adfer natur a bioamrywiaeth
Addasu i'r hinsawdd a chynyddu gwydnwch
Gwella tegwch gwyrdd a hygyrchedd
Hybu iechyd a llesiant y cyhoedd
Creu cyfleoedd adfywio
Sesiwn Rhanddeiliaid Tywyn
🕕 6:20yp i 7:00yp
Cyfarfod Microsoft Teams
Ymuno: https://teams.microsoft.com/meet/359116748370508?p=XvUx1QGO9w40Hkg3AO
ID Cyfarfod: 359 116 748 370 508
Cod cyfrin: Xz7ew7vX
Angen cymorth? | Cyfeirnod system
Deialu i mewn dros y ffôn
+44 20 7660 8459,,854466286 # United Kingdom, City of London
Canfod rhif lleol
ID cynhadledd ffôn: 854 466 286 #
Ar gyfer trefnwyr: Dewisiadau cyfarfod | Ailosod PIN deialu i mewn
image003.png
Bydd agenda a rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan.
Rydym hefyd yn annog pob rhanddeiliwr a thrigolyn sydd â diddordeb i ymweld â gwefan y prosiect a chwblhau'r arolwg ar-lein:
🌿 https://gwyneddbgi.cymru/
Mae'r wefan yn darparu rhagor o wybodaeth am y prosiect, yr ardaloedd cyfle sy'n cael eu hystyried, a'r ffyrdd o rannu eich barn. Bydd pob ymateb yn helpu i lywio datblygiad y cynigion wrth iddynt fynd rhagddynt.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu'r gwahoddiad hwn yn eang gyda chydweithwyr, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Aberdyfi a Thywyn.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu a chlywed eich barn wrth inni gydweithio i lunio cynigion sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau lleol.
Yn gywir,
Nia Edwards Clarke
Ar ran Cyngor Gwynedd ac EGY Collective
Prosiect Cyngor Gwynedd o ddylunio seilwaith glas a gwyrdd ar draws naw tref yng Ngwynedd, i gefnogi gwydnwch hinsawdd ac adferiad natur.