06/09/2026
Blas o ddiwedd yr haf | A taste of late summer 🍎
****
Os ydych yn ymweld â’r ardd dros yr wythnosau nesaf, ewch am dro lawr i’r Ardd Ffurfiol Edwardaidd, lle mae’r coed afalau’n drwm gyda ffrwythau gwyrdd a choch llachar, ac arogl afalau melys yn llenwi’r aer.
Nid yw’r ardal hon wastad wedi edrych fel hyn. Unwaith roedd yn Ardd Gegin brysur, ond cafodd ei thrawsnewid yn 1912 gan Violet, Iarlles Powis, yn lle addurnol tawel a fwynheir heddiw. Mae’r rhodfa hon sy’n llawn afalau yn cynnig cipolwg ar yr hanes hwnnw, gyda’r coed yn dal i ffynnu yma dros ganrif yn ddiweddarach.
Dilynwch y rhodfa, arhoswch dan y brigau a mwynhau’r newid ysgafn rhwng tymhorau. Gyda haul diwedd yr haf ac arwyddion cyntaf yr hydref yn dechrau ymddangos, mae’n amser bendigedig i bwyllo ac ymgolli ym mhrydferthwch yr ardd.
****
If you're visiting the garden over the next few weeks, wander down to the Edwardian Formal Garden, where apple trees are heavy with bright red and green fruit, and a sweet apple scent lingers in the air.
This area hasn't always looked the way it does today. Once a busy Kitchen Garden, it was transformed in 1912 by Violet, Countess of Powis, into the peaceful ornamental space enjoyed today. This apple-lined avenue offers a glimpse into that history, with the trees still thriving here more than a century later.
Follow the avenue, pause beneath the branches and enjoy the gentle shift between seasons. With late summer sunshine and the first touches of autumn beginning to appear, it's a lovely time to slow down and soak up the beauty of the garden.