Gallwch ddilyn y dudalen hon i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf gan ein tîm – gallwch hefyd gysylltu â ni yma gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych. Dros y misoedd nesaf byddwn yn rhannu llawer o enghreifftiau o’n gwaith – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – ond wrth i ni ddechrau arni, dyma grynodeb cyflym o’n cylch gwaith:
• Rydym yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol yn Wrecsam, Sir y Fflint
a Sir Ddinbych. Rydym yn ceisio siarad â chymaint o grwpiau â phosibl, gan ddechrau gydag unrhyw grwpiau sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i fod yn ddiogel, i gael eu cefnogi ac i gael eu cynnwys yn eu cymuned leol.
• Rydym yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud – am yr hyn sydd ei angen arnynt gan eu cymuned, a hefyd yr hyn y gallant ei gynnig – ac rydym yn rhannu’r wybodaeth hon â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
• Yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwch wrthym, rydym yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu prosiect cydlyniant cymunedol: gweithgaredd neu ddigwyddiad yw hwn sy’n cyflawni un neu fwy o’r canlynol:
a) dathlu amrywiaeth ein cymunedau lleol
b) creu llwyfan i leisiau na chlywir yn aml rannu eu profiad bywyd
c) dod â phobl ynghyd o gefndiroedd amrywiol nad ydynt yn rhyngweithio â’i gilydd yn aml
d) cysylltu aelodau'r gymuned â darparwyr gwasanaethau lleol sy'n bodloni eich anghenion penodol
e) hwyluso trafodaethau cynhyrchiol am fyw mewn cymuned amrywiol, a goresgyn rhwystrau i gynhwysiant
f) nodi achosion o wahaniaethu, aflonyddu neu gam-drin yn seiliedig ar nodwedd a ddiogelir (hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd), a dod o hyd i ddatrysiadau cadarnhaol
• Sut rydym ni’n helpu? Yn dibynnu ar y prosiect, gallwn wneud un neu fwy o'r canlynol:
o Eich helpu i benderfynu beth rydych am ei wneud
o Eich helpu i drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad
o Cynnal neu gyd-gynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad
o Darparu cyllid
o Darparu cysylltiadau ar gyfer gwasanaethau/sefydliadau eraill a all helpu
o Cadw mewn cysylltiad a siarad am syniadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol
Os hoffech siarad â ni am unrhyw un o’r pethau hyn, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!