CBS Merthyr Tudful

Directions Website Contact the organisation

CBS Merthyr Tudful Hoffai’r Cyngor fod preswylwyr yn ymwybodol o negeseuon a phenderfyniadau allweddol sy’n effeithio arnynt.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful rydym yn defnyddio’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel gofod ar gyfer gwybodaeth a chyhoeddiadau swyddogol i’r sawl sy’n byw, sy’n gweithio ac sy’n diddori mewn dysgu rhagor am Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoli a’u diweddari gan y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, sy’n cydlynu ac yn cymedroli’r cynnwys a’r sylwadau. Mae ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi eu dylunio i fod yn ofod hygyrch lle gall preswylwyr weld ac ymddiddan â’r wybodaeth hon. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau bod ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ofod diogel i bob un aelod o’r gynulleidfa. Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod yr holl gynnwys yn addas. Os gwelwch yn dda, darllenwch ganllawiau’r gymuned, sydd ar waith er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Os fydd unrhyw ddiffyg parch neu amharodrwydd i ddilyn unrhyw un o’r canllawiau hyn, bydd y Cyngor yn gweithredu’n syth bin. Canllawiau’r Gymuned

• Peidiwch â gwneud ymosodiadau sydd wedi eu targedi neu sy’n bersonol. Ni fydd unrhyw gyfathrebu camdriniol, ymfflamychol neu amhriodol (trolio) yn cael ei oddef a bydd yn arwain at waharddiad ar unwaith.
• Peidiwch â phostio cynnwys sy'n wahaniaethol, yn anweddus, yn ymfflamychol, yn aflonyddu, yn gas, yn fygythiol, yn halogedig neu'n sarhaus yn bersonol.
• Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai fod yn enllibus neu'n ddifenwol.
• Peidiwch â phostio cynnwys sy'n amhriodol neu'n benodol rhywiol.
• Peidiwch â phostio dro ar ôl tro am faterion amherthnasol h.y. sbam.
• Peidiwch â dynwared unrhywun na defnyddio cyfrif dienw.
• Peidiwch â thrafod achosion cyfreithiol sydd ar y gweill.
• Peidiwch â phostio sylwadau gwleidyddol / hyrwyddo gwleidyddiaeth na defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dadl wleidyddol. Bydd torri’r rheolau hyn yn arwain at y Cyngor yn dileu eich neges ac yn atal eich cyfrif, heb rybudd, rhag cael ei ddefnyddio ar ein cyfrifon cymdeithasol ni. Mewn achosion difrifol, gallwn hysbysu’r heddlu am eich neges neu eich cyfrif. Cyfnodau cyn-etholiad
Nid yw ein cyfrifon yn wleidyddol, a gofynnwn i ddefnyddwyr barchu’r ffaith hon a deall nad ydym yn gallu ymwneud â thrafodaethau gwleidyddol. Yn y chwe wythnos sy’n arwain at etholiad (Lleol, Seneddol neu Etholiadau Cyffredinol) mae’n rhaid i gynghorau fod yn arbennig o ofalus i beidio â gwneud na dweud unrhyw beth a allai gael ei ystyried fel ymgais gennym i estyn cefnogaeth at unrhyw blaid wleidyddol neu unrhyw ymgeisydd chwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ni gael gwared ar negeseuon a sylwadau os ydynt yn cael eu dehongli fel sylwadau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol neu os ydynt yn ymfflamychol. Cyfrifon y Cyfryngau Cymdeithasol
Cymedrolir ein cyfrifon Facebook, X, Instagram, LinkedIn a Tik Tok ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen i chi roi gwybod.i ni am ymddygiad anaddas, cysylltwch â [email protected]. Rydym yn croesawu adborth i helpu i wella ein gwasanaethau, boed yn sylw, yn gŵyn neu'n ganmoliaeth. Ewch i'n tudalen Sylwadau, Cwynion a Chanmoliaeth am ragor o wybodaeth: https://www.merthyr.gov.uk/council/comments-complaints-and-compliments/complaints-procedure-comments-and-customer-feedback/?lang=cy-GB&

MAE'R CEIRW YN DOD I FERTHYR Dewch i gwrdd ag ymwelwyr Nadolig arbennig pan fydd ein Diwrnod Hwyl Nadolig yn cymryd dros...
13/10/2026

MAE'R CEIRW YN DOD I FERTHYR

Dewch i gwrdd ag ymwelwyr Nadolig arbennig pan fydd ein Diwrnod Hwyl Nadolig yn cymryd dros canol tref Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 🎅🏼

Dewch draw o 12pm a byddwch yn barod am ychydig o hud y Nadolig 🎄

13/10/2026

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim, gallech fod yn gymwys i gael cymorth pellach.

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yma i helpu gyda chostau hanfodol fel gwisg ysgol, deunyddiau dysgu a chit chwaraeon, i'r plant allu canolbwyntio ar y pethau pwysig.

Hawliwch hyd at £200 o gymorth: https://zurl.co/mI112

📣 ADRAN 14(1) DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984FFYRDD AMRYWIOL, CANOL TREF MERTHYR, HYSBYSIAD (CAU FFORDD DROS DRO) ...
12/10/2026

📣 ADRAN 14(1) DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984
FFYRDD AMRYWIOL, CANOL TREF MERTHYR, HYSBYSIAD (CAU FFORDD DROS DRO) 2026

📅 HYSBYSIR drwy hyn y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (“yr Awdurdod”), sef yr Awdurdod Traffig ar gyfer y ffordd uchod, yn cau’r ffyrdd canlynol fel y disgrifir isod er budd diogelwch y cyhoedd ar gyfer gwaith priffordd ddydd Mawrth 13 Hydref 2026 am 3 noson (19:00 – 06:00).

👉 A4054 Stryd Penri rhwng Rhodfa’r Coleg Boulevard ac Avenue De Clichy.

👉A4054 Avenue De Clichy o’i chyffordd â Rhodfa Glan yr afon i gyfeiriad y de hyd at ei chyffordd â Stryd yr Alarch.

👉 Stryd y Castell rhwng ei chyffordd â’r A4054 Avenue De Clichy a’i chyffordd â Lôn yr Ysgub Wenith.

Eu Mawrhydi, y Brenin a'r Frenhines a Thywysog Cymru  i ymweld ag Aber-fan i goffáu 60 mlynedd ers y drychineb.Bydd y Br...
12/10/2026

Eu Mawrhydi, y Brenin a'r Frenhines a Thywysog Cymru i ymweld ag Aber-fan i goffáu 60 mlynedd ers y drychineb.

Bydd y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymweld ag Aber-fan, Merthyr Tudful, ddydd Mercher 21 Hydref, er mwyn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aber-fan a thalu teyrnged i'r bywydau a gollwyd y diwrnod hwnnw.

Ar 21 Hydref 1966, collodd 144 o bobl – gan gynnwys 116 o blant, eu bywydau yn drasig pan lithrodd tomen wastraff i lawr mynydd ac amlyncu Ysgol Pantglas a rhai o'r tai cyfagos.
Yng Ngardd Goffa Aber-fan, sydd ar safle Ysgol Pantglas, lle bu farw 109 o blant a 5 athro, bydd y teulu Brenhinol yn talu teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau mor drasig.

Bydd Eu Mawrhydi a’r Tywysog hefyd yn mynychu Canolfan Gymunedol Aber-fan ac Ynysowen gan dreulio amser gyda goroeswyr, rhieni gafodd brofedigaeth, cyn-ddisgyblion a brodyr a chwiorydd y rhai a fu farw, gan ddod ynghyd a chofio pawb a gollwyd.

Yna, bydd Tywysog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen i gwrdd â disgyblion ac athrawon sy'n ymwneud â phrosiectau i nodi'r coffa a dadorchuddio Coeden Goffa Aber-fan.

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:
"Ar 21 Hydref 1966 dioddefodd pentref Aber-fan golled anhygoel. Bydd y digwyddiad coffa hwn yn arbennig o ingol a bydd pobl yn dod o bell ac agos i dalu eu teyrnged a chofio’r bywydau a gollwyd y diwrnod trasig hwnnw.

"Mae'n anrhydedd ac yn fraint croesawu Eu Mawrhydi a Thywysog Cymru i Ferthyr Tudful ar y diwrnod arwyddocaol hwn."

12/10/2026

Wythnos 💧

Efallai ein bod wedi cael haf hir, poeth ond wrth i ni fynd i dymhorau’r hydref a'r gaeaf rydyn ni eisiau helpu cymunedau i baratoi ar gyfer perygl llifogydd.

Yng Nghymru, mae 1 o bob 7 eiddo mewn perygl oherwydd llifogydd

Drwy gydol yr wythnos byddwn yn rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau perygl llifogydd rydym yn eu cynnig, gan gynnwys 👉

✅ Gwirio beth yw eich perygl llifogydd yn ôl cod post.

✅ Cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim.

✅ Cyngor ar sut i baratoi eich cartref a'ch teulu ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud os ydych chi'n profi llifogydd.

Mae’r cyfan ar gael yn https://orlo.uk/yTQUt

Mae Llyfr y Cofio, ar-lein ar gael ar ein gwefan er cof am bawb a gollodd eu bywydau yn drasig ar 21 Hydref 1966. Gadewc...
12/10/2026

Mae Llyfr y Cofio, ar-lein ar gael ar ein gwefan er cof am bawb a gollodd eu bywydau yn drasig ar 21 Hydref 1966. Gadewch neges, atgof neu fyfyrdod personol er com am y sawl oroesøodd, achubodd fywydau a phawb y newidiwyd eu bywydau am byth.

I rannu eich neges, ewch i merthyr.gov.uk/Aberfan

Agenda'r Pwyllgor Gwasanaethau DemocrataiddDydd Mawrth, 13eg Hydref, 2026, 4.00 pm.Mae'r eitemau canlynol wedi'u cynnwys...
12/10/2026

Agenda'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Dydd Mawrth, 13eg Hydref, 2026, 4.00 pm.

Mae'r eitemau canlynol wedi'u cynnwys ar yr agenda:

1 Ymddiheuriadau am Absenoldeb
2 Datganiadau o Fuddiant
3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
4 Log Camau Gweithredu
5 Adroddiad Blynyddol
6 Sefydlu Aelodau 2027
7 Adolygu Strwythur Cyflog Aelodau Cyfetholedig
8 Unrhyw Fater Arall a Ystyrir yn Frys gan y Cadeirydd

Am ragor o wybodaeth, ewch i – https://democracy.merthyr.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=359&MId=6954&LLL=0

Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yng Nghymru 2026Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn wythnos gened...
12/10/2026

Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yng Nghymru 2026

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu sy’n annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion lleol sy’n ymwneud â throseddau casineb.

Gwerth craidd yr wythnos yw sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb wedi effeithio arnynt, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli, a chefnogi’r rhai sydd angen cymorth parhaus.

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb rhwng dydd Sadwrn 10 a dydd Sadwrn 17 Hydref 2026, a thema’r wythnos yng Nghymru eleni yw Troseddau Casineb Hiliol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o gefnogi gweithgareddau ledled y fwrdeistref yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.

CWRDD Â'R GWIWEROD NADOLIG Sgipiwch i mewn i'r Nadolig gyda Cheryl a Cyril y gwiwerod, dau goch direidus sy'n dawnsio, y...
11/10/2026

CWRDD Â'R GWIWEROD NADOLIG

Sgipiwch i mewn i'r Nadolig gyda Cheryl a Cyril y gwiwerod, dau goch direidus sy'n dawnsio, yn achosi anhrefn ac yn barod am ychydig o hwyl Nadoligaidd!

Gallwch ddisgwyl dawnsio, alawon Nadoligaidd, rhyngweithio â'r gynulleidfa a digon o Gnau Nadolig 🎄

Byddant yn achosi drygioni o amgylch canol tref Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 14 Tachwedd o 12pm 🎅🏼

Address

Civic Centre
Merthyr Tydfil
CF478AN

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when CBS Merthyr Tudful posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to CBS Merthyr Tudful:

Shortcuts

Share