03/09/2026
Math o facteria yw salmonela sy’n achosi gwenwyn bwyd. Gall bwydydd fel wyau, cig amrwd, cyw iâr heb ei goginio ddigon a llefrith heb ei basteureiddio gynnwys salmonela.
Gall unrhyw un ddatblygu symptomau salwch salmonela, ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn wrth ei ddal.
Pwy sy’n fwy agored i niwed?
- Menywod beichiog
- Plant ifanc
- Pobl hŷn
- Pobl â chyflyrau iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, clefyd yr afu/iau neu’r arennau)
Mae’r rhan fwyaf o’r wyau sy’n cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd yn y DU yn cario marc y Llew Prydeinig, sy’n golygu eu bod yn cael eu cynhyrchu i safonau sy’n eu gwneud yn ddiogel i’w bwyta – hyd yn oed os yw’r melynwy yn dal i fod yn rhedegog neu os nad yw’r wy wedi’i goginio’n llwyr – gan gynnwys ar gyfer grwpiau agored i niwed.
Os ydych chi’n paratoi wyau gartref, cadwch olwg am farc y Llew Prydeinig. Golchwch a sychwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl trin wyau neu ddeunydd pecynnu wyau.
Wrth fwyta allan, os ydych chi’n fwy agored i salwch yn sgil salmonela, gwnewch yn siŵr bod unrhyw wyau rydych chi’n eu bwyta wedi’u coginio’n llwyr, oherwydd ei bod yn bosib na fyddan nhw’n cario marc y Llew Prydeinig neu’n rhan o gynllun sicrwydd ‘Laid in Britain’.
Dysgwch fwy am salmonela, gan gynnwys sut i leihau’r risg gartref neu wrth fwyta allan: https://www.gov.uk/government/publications/salmonella/salmonela
--
Salmonella is a type of bacteria that causes food poisoning. Foods like eggs, raw meat, undercooked chicken and unpasteurised milk can contain Salmonella.
Anybody can develop symptoms of Salmonella illness, but some people are more at risk of becoming severely unwell.
Who is more vulnerable?
- Pregnant women
- Young children
- Older people
- People with underlying health conditions (e.g. cancer, diabetes, liver or kidney disease)
Most eggs sold in UK supermarkets carry the British Lion mark, meaning they’re produced to standards that make them safe to eat even if the yolk is still runny or the egg isn’t fully cooked, including for vulnerable groups.
If you’re preparing eggs at home, check for the British Lion mark. Wash and dry your hands thoroughly after handling eggs or egg packaging.
When eating out, if you're more vulnerable to Salmonella illness, make sure any eggs you eat are fully cooked, as they may not be British Lion mark or Laid in Britain assured.
Find out more about Salmonella, including how to reduce the risk at home or when eating out: https://www.gov.uk/government/publications/salmonella/salmonella