Call Directions Website Contact the organisation

Estyn AEF Ni yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg // This page is also available in English https://www.facebook.com/estynhmi

22/10/2026

Mae dysgu oddi wrth eraill ledled Cymru yn ein helpu i gryfhau’r system gyda’n gilydd. Dysgwch fwy:

https://bit.ly/4uciAWM

Diolch i Meithrinfa Jigsaw am ein croesawu heddiw a chynnal lansiad ein mewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Pr...
21/10/2026

Diolch i Meithrinfa Jigsaw am ein croesawu heddiw a chynnal lansiad ein mewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2025-26.

Ewch i’n micro-wefan i gael mewnwelediadau penodol i’ch sector i gynorthwyo gwelliant yn eich lleoliad chi:

https://bit.ly/4iy4GeQ

Mae’r fframwaith arolygu ar y cyd wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector nas cynhelir yn symud o 6 thema i 3 thema gliriach...
21/10/2026

Mae’r fframwaith arolygu ar y cyd wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector nas cynhelir yn symud o 6 thema i 3 thema gliriach sydd â mwy o ffocws – sy’n golygu y bydd adroddiadau’n fyrrach, yn haws i’w darllen ac yn fwy hygyrch i rieni ac ymarferwyr.

Dysgwch fwy:

bit.ly/3RbEKeb

Arolygiaeth Gofal Cymru

21/10/2026

Heddiw, rydym yn lansio ein mewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2025-26.

Mae ein mewnwelediadau cynnar yn cynnig cipolwg ar negeseuon allweddol ar gyfer sectorau penodol cyn cyhoeddi’r adroddiad llawn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn cynnwys astudiaethau achos o arfer effeithiol i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr, ochr yn ochr ag argymhellion gan ein timau arolygu.

Ewch i’n micro-wefan:

https://bit.ly/4iy4GeQ

Rydym yn recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer lleoliadau colegau arbenigol annibynnol.A chithau’n Arolygydd Cymheiri...
20/10/2026

Rydym yn recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer lleoliadau colegau arbenigol annibynnol.

A chithau’n Arolygydd Cymheiriaid, bydd gennych ran allweddol yn ein timau arolygu.

Mae bod yn Arolygydd Cymheiriaid yn gyfle dysgu proffesiynol unigryw i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darpariaeth i gefnogi gwelliant.

Ymgeisiwch nawr: https://bit.ly/3VwBwnB

Dyddiad cau: 13 Tachwedd 2026

Yfory, byddwn yn rhannu mewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Fawrhydi. Bydd y mewnwelediadau cy...
20/10/2026

Yfory, byddwn yn rhannu mewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Fawrhydi.

Bydd y mewnwelediadau cynnar hyn yn cynnig cipolwg ar beth sydd wedi mynd yn dda a beth sydd angen ei wella ym mhob un o’r sectorau addysg a hyfforddiant rydym yn eu harolygu yng Nghymru.

Mae ein timau arolygu wedi dod â’r argymhellion cychwynnol at ei gilydd, y gall pob sector eu hystyried cyn cyhoeddi’r adroddiadau sector llawn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Gall pob sector weld uchafbwyntiau o astudiaethau achos diweddar o arfer effeithiol, hefyd.

Cofrestrwch nawr i gael diweddariadau drwy’r e-bost am ein Hadroddiad Blynyddol a mwy:

https://bit.ly/4yngkxT

20/10/2026

Sut gallwn ni adnabod a chefnogi anghenion dysgwyr yn gynharach?

Yn y clip hwn, rydym yn trafod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar, presenoldeb a sicrhau bod plant yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Gwyliwch y bennod lawn yma: https://bit.ly/3VVPDTu

Mae hunanwerthuso cryf yn helpu arweinwyr canol i ddeall beth sy’n gweithio’n dda — a beth mae angen ei wella. Defnyddiw...
19/10/2026

Mae hunanwerthuso cryf yn helpu arweinwyr canol i ddeall beth sy’n gweithio’n dda — a beth mae angen ei wella. Defnyddiwch ein hadnoddau i gefnogi’ch gwaith:

Gallwch ddysgu mwy yma:

https://bit.ly/4uciAWM

16/10/2026

Sut gallwn ni gefnogi plant ag anghenion mwy dwys a chymhleth yn well?

Yn y bennod hon, rydym yn trafod sut gall dulliau fel Disgo Dwylo helpu i gryfhau cyfathrebu, ymgysylltiad a chynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno.

Gwyliwch y bennod lawn yma: https://bit.ly/3VVPDTu

Bydd ein fframwaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer arolygiadau yn y sector nas cynhelir yn rhoi darlun clirach o sut mae arf...
16/10/2026

Bydd ein fframwaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer arolygiadau yn y sector nas cynhelir yn rhoi darlun clirach o sut mae arfer yn effeithio ar ddysgu, datblygiad a lles plant.

Dysgwch fwy:

bit.ly/3RbEKeb

Arolygiaeth Gofal Cymru

Address

Llys Angor, Heol Keen
Cardiff
CF245JW

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Telephone

+442920446446

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Estyn AEF posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Estyn AEF:

Shortcuts

Share