Addysg Gymunedol Oedolion yn Nhorfaen

Addysg Gymunedol Oedolion yn Nhorfaen P'un ai ydych yn ystyried dysgu sgiliau newydd, gwella cyfle i gael swydd neu ddychwelyd i fyd addysg, mae gennym ddosbarthiadau ledled fforddiadwy Torfaen

P'un ai ydych yn ystyried dysgu sgiliau newydd, gwella cyfle i gael swydd neu ddychwelyd i fyd addysg, mae gennym ddosbarthiadau ledled Torfaen sydd yn symbylol, pleserus, heriol a ffodiadwy. Rydym yn siwr y cewch hyd i rywbeth fydd o ddidordeb i chi.

🍔 Caru Tecawê? Dysgwch Sut i Wneud Fersiynau Iachach! 🍕🍛Mwynhewch eich hoff brydau tecawê o’ch cegin chi eich hun. Dysgw...
24/09/2026

🍔 Caru Tecawê? Dysgwch Sut i Wneud Fersiynau Iachach! 🍕🍛

Mwynhewch eich hoff brydau tecawê o’ch cegin chi eich hun. Dysgwch sut i greu fersiynau cartref o brydau tecawê poblogaidd sydd yn aml yn iachach, yn rhatach ac yn llawn mor flasus!

🥗 Darganfyddwch ddewisiadau iachach o brydau poblogaidd
💰 Gallwch arbed a***n wrth greu hoff brydau blasus eich teulu
👩‍🍳 Datblygwch eich hyder a’ch sgiliau coginio
✅ Darperir cynhwysion ar gyfer y sesiwn gyntaf

Cwrs: Cogio Coginio
Cod: FAC045
Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2026
Amser: 6:30pm - 8:30pm
Hyd: 4 wythnos
Lleoliad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, NP44 2HF
Cost: £41.50

Pam prynu o allan pan allwch chi wneud pryd eich hun? Ymunwch â ni i ail-greu rhai o’ch hoff brydau tecawê a chodwch lwyth o gynghorion ar hyd y ffordd!
Nifer gyfyngedig o leoedd, felly cadwch le heddiw!

Ffoniwch 01633 647647 (Opsiwn 2)
E-bost [email protected]

Am wella’ch sgiliau Saesneg neu Fathemateg?Gall ein cyrsiau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru AM DDIM eich helpu i gael cym...
24/09/2026

Am wella’ch sgiliau Saesneg neu Fathemateg?

Gall ein cyrsiau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru AM DDIM eich helpu i gael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac a dderbynnir gan lawer o golegau a darparwyr hyfforddiant fel un sy’n cyfateb i TGAU.

✅Addysg am ddim
✅Delfrydol i oedolion heb TGAU Gradd C/4 neu uwch (neu gyfwerth)
✅Gwych ar gyfer addysg bellach, cyflogaeth a phrentisiaethau
✅Cyrsiau Saesneg a Mathemateg ar gael

📱Am gyngor am gael hyd i’r cwrs cywir, ffoniwch 01633 647647 (Opsiwn 4)
📧E-bost: [email protected]

🥘 Meistrolwch Gelfyddyd Bwyd Cysur y Gaeaf Yma! ❄️Does dim byd gwell na phryd cartref blasus ar ddiwrnod oer o aeaf. Ymu...
24/09/2026

🥘 Meistrolwch Gelfyddyd Bwyd Cysur y Gaeaf Yma! ❄️

Does dim byd gwell na phryd cartref blasus ar ddiwrnod oer o aeaf. Ymunwch â ni a dysgwch sut i greu cawl blasus a choeth a chaserolau iachus sy’n berffaith ar gyfer prydau i’r teulu a chwmni ffrindiau.

🍽️ Crëwch brydau cysurlon i’w mwynhau gartref
✅ Darperir cynhwysion ar gyfer y sesiwn gyntaf
Cwrs: Coginio Cynnes ac Iach i’r Gaeaf
Cod: FAC047
Dyddiad Cychwyn: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2026
Amser: 10:30am - 12:30pm
Hyd: 4 wythnos
Lleoliad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, NP44 2HF
Cost: £41.50

P’un ai ydych chi’n newydd i goginio neu am ymestyn eich amrywiaeth o brydau cysurlon, bydd y cwrs yma’n eich helpu i fagu hyder yn y gegin a chadw oerni’r gaeaf hyd braich!
Nifer gyfyngedig o leoedd, felly cadwch le heddiw!

Ffoniwch 01633 647647 (Opsiwn 2)
E-bost [email protected]

Cyflwyniad i Seryddiaeth – Archwilio’r BydysawdYdych chi wedi meddwl erioed beth sydd y tu hwnt i’n byd?Ymunwch â ni am ...
23/09/2026

Cyflwyniad i Seryddiaeth – Archwilio’r Bydysawd

Ydych chi wedi meddwl erioed beth sydd y tu hwnt i’n byd?

Ymunwch â ni am gyflwyniad cyfareddol i seryddiaeth ac archwiliwch sêr, planedau, galaethau a’r bydysawd eang o’n cwmpas. Perffaith i ddechreuwyr sydd â chwilfrydedd am y gofod.

📅 Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2026
⏰ 10:00am – 1:00pm
📍 Croesyceiliog
💷 £12.75
🔖 Cod y Cwrs: FGC007

Dim angen profiad blaenorol — dim ond synnwyr o ryfeddod.

Ffoniwch 01633 647647 (opsiwn 2) neu e-bostiwch [email protected]

🍞 Pobwch Eich Ffordd Ar Draws y Byd! 🌍Wrth eich bodd yn pobi neu am roi tro ar rywbeth newydd? Ymunwch â ni ar daith gog...
23/09/2026

🍞 Pobwch Eich Ffordd Ar Draws y Byd! 🌍

Wrth eich bodd yn pobi neu am roi tro ar rywbeth newydd? Ymunwch â ni ar daith goginio flasus a dysgwch sut i greu amrywiaeth o fathau o fara traddodiadol o ddiwylliannau gwahanol, a'r cyfan wrth ddysgu technegau a chael cynghorion ynglŷn â sut i wneud pob un yn unigryw.

🥖 Perffaith i ddechreuwyr a’r profiadol fel ei gilydd
🌎 Darganfyddwch fara o ar draws y byd
👩‍🍳 Dysgwch dechnegau a chynghorion pobi traddodiadol
🍞 Crëwch amrywiaeth o fathau o fara blasus trwy law
✅ Cynhwysion wedi eu cynnwys yn y sesiwn gyntaf

Cwrs: Bara O Ar Draws y Byd
Cod: FAC044
Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2026
Amser: 10:30am - 2:00pm
Hyd: 5 wythnos
Lleoliad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, NP44 2HF
Cost: £83.88
Nifer gyfyngedig o leoedd, felly cadwch le heddiw!

Ffoniwch 01633 647647 (Opsiwn 2)
E-bost [email protected]

💍 Crëwch Eich Dyluniadau Gemwaith Gwifren Unigryw Eich Hun! ✨Awydd dysgu sgil creadigol newydd? Ymunwch â ni i ddarganfo...
23/09/2026

💍 Crëwch Eich Dyluniadau Gemwaith Gwifren Unigryw Eich Hun! ✨

Awydd dysgu sgil creadigol newydd? Ymunwch â ni i ddarganfod celfyddyd gwneud gemwaith gan ddefnyddio gwifren a***n a chopr. Dysgwch amrywiaeth o dechnegau gwaith gwifr traddodiadol a chrëwch eich dyluniadau unigol, hardd eich hun.

🔹 Dim angen profiad o wneud gemwaith
🔹 Dysgwch dechnegau dolennu, siapio, morthwylio a chysylltu
🔹 Defnyddiwch offer gwneud gemwaith a deunyddiau proffesiynol
🔹 Crëwch eich darnau unigryw eich hun o emwaith gwifr
🔹 Cefnogaeth gan diwtor arbenigol trwy gydol yr amser

Cwrs: Dyluniadau Gemwaith Gwifr Gan ddefnyddio Gwifren A***n a Chopr
Cod: FAC043
Dyddiad Cychwyn: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2026
Amser: 4:00pm - 6:00pm
Hyd: 6 wythnos
Lleoliad: Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, NP44 2HF
Cost: £64.50

Nodwch: Efallai bydd costau deunyddiau ychwanegol.
Nifer gyfyngedig o leoedd, felly cadwch le heddiw!

Ffoniwch 01633 647647 (Opsiwn 2)
E-bost [email protected]

🌿 Ydych chi'n teimlo wedi'ch llethu gan annibendod? Neu'n cefnogi rhywun sydd?  Bydd ein gweithdy Datrys Annibendod er L...
22/09/2026

🌿 Ydych chi'n teimlo wedi'ch llethu gan annibendod? Neu'n cefnogi rhywun sydd?

Bydd ein gweithdy Datrys Annibendod er Llesiant, sydd AM DDIM ac wedi'i a***nnu'n llawn, yn eich helpu i ddarganfod technegau ymarferol i greu amgylchedd tawelach, mwy trefnus a gwella llesiant.

P'un a hoffech wneud newidiadau cadarnhaol yn eich cartref eich hun neu ddysgu strategaethau i gefnogi aelodau o'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cleientiaid neu'r bobl rydych yn eu helpu, mae'r sesiwn gyfeillgar hon yn llawn syniadau syml ac ymarferol y gallwch eu defnyddio ar unwaith.

✅ Technegau ymarferol ar gyfer datrys annibendod
✅ Strategaethau gwneud penderfyniadau'n ymwybodol
✅ Arferion syml ar gyfer gofod tawelach
✅ Datrys annibendod digidol ar gyfer e-byst, lluniau a ffeiliau
✅ AM DDIM ac wedi'i a***nnu'n llawn

📍 CEG Croesyceiliog, The Highway, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2HF
📅 Dydd Mawrth 29 Medi 2026, 1:30pm i 4:30pm
📅 Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026, 9:30am i 12:30pm

⚠️ Mae cyn-gofrestru yn hanfodol gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

📞 01633 647647 (Dewiswch Opsiwn 2)
📧 [email protected]

📸 Ffotograffiaeth gyda Dyfeisiau Technoleg Glyfar 📸Oeddech chi’n gwybod y gall y camera yn eich ffôn neu lechen dynnu ll...
22/09/2026

📸 Ffotograffiaeth gyda Dyfeisiau Technoleg Glyfar 📸

Oeddech chi’n gwybod y gall y camera yn eich ffôn neu lechen dynnu lluniau anhygoel?

P’un ai ydych chi’n mwynhau tynnu lluniau o deulu, natur, gwyliau neu eiliadau pob dydd, bydd y gweithdy ymarferol hwn yn eich helpu i gael mwy o’ch dyfais. Dysgwch dechnegau syml i wella’ch lluniau, archwiliwch osodiadau camera, a dewch o hyd i gynghorion ar gyfer tynnu lluniau gwych heb yr angen am offer drud.

📅 Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2026
⏰ 10:00am – 2:00pm
📍 CAG Croesyceiliog
💷 £17.00
📝 Gweithdy 1 sesiwn
🔖 Cod y Cwrs: FGC006
Perffaith i ddechreuwyr ac unrhyw un sydd am wella’u sgiliau ffotograffiaeth, gan ddefnyddio ffôn neu lechen.

📱 Cipiwch enydau gyda hyder a dechreuwch dynnu lluniau y byddwch yn falch o’u rhannu.

Ffoniwch 01633 647647 (opsiwn 2) neu e-bostiwch [email protected]

Cyfle Wythnos Addysg OedolionMae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig 10 lle, wedi’u ha***nnu’n llawn, ar e...
22/09/2026

Cyfle Wythnos Addysg Oedolion

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig 10 lle, wedi’u ha***nnu’n llawn, ar ein cwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Mae'r cwrs hwn sy’n codi ymwybyddiaeth / gloywi, yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n gweithio mewn swydd sy’n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, rhywun sy’n ystyried gwella’u sgiliau cyfathrebu, neu’n ystyried gyrfa yn y maes manwerthu, lletygarwch, gweinyddu, neu wasanaeth cwsmeriaid.

Gallwch gwblhau'r dysgu ar-lein ar eich cyflymder eich hun o fewn 4 wythnos
Datblygu sgiliau gofal cwsmeriaid, cyfathrebu, ac ymdrin ag ymholiadau
Derbyn tystysgrif ar ôl ei gwblhau
Mae arholiad achrededig dewisol ar gael am £30

I gofrestru, ffoniwch 01633 647647 (opsiwn 6) neu anfon e-bost at [email protected] a bydd ein tîm cyfeillgar yn barod i’ch helpu i ddechrau ar ein porth dysgu ar-lein.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir eich bod yn cadw lle yn gynnar.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda thechnoleg?O ddefnyddio e-bost a chwilio ar-lein i aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd, gall...
21/09/2026

Ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda thechnoleg?

O ddefnyddio e-bost a chwilio ar-lein i aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd, gall ein cyrsiau sgiliau digidol cyfeillgar eich helpu i fagu hyder yn ôl eich cyflymder chi.

📍 Lleoliadau lleol ledled Torfaen
✅ Tiwtoriaid cefnogol
✅ Dim angen profiad

Ffoniwch 01633 647647 (opsiwn 4) neu e-bostiwch [email protected]

Address

CAG Croesyceiliog
Cwmbran
NP442HF

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Addysg Gymunedol Oedolion yn Nhorfaen posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Addysg Gymunedol Oedolion yn Nhorfaen:

Shortcuts

Share